Albert Einstein - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Albert Einstein
Llais
03 ALBERT EINSTEIN.ogg
Ganwyd
14 Mawrth 1879
Ulm
Bu farw
18 Ebrill 1955
ymlediad aortaidd abdomenol
Princeton
Man preswyl
Einsteinhaus Caputh, Einsteinhaus,
München
Princeton
, Smíchov,
Schaffhausen
Dinasyddiaeth
Teyrnas Württemberg, di-wlad,
Y Swistir
, Cisleithania,
Gweriniaeth Weimar
Yr Almaen
Unol Daleithiau America
Addysg
Doethur Athroniaeth Ffiseg
Alma mater
ETH Zurich
Luitpold-Gymnasium
old Kantonsschule (Albert Einstein House)
Prifysgol Zurich
Ymgynghorydd y doethor
Alfred Kleiner
Heinrich Burkhardt
Heinrich Friedrich Weber
Galwedigaeth
ffisegydd damcaniaethol, athronydd gwyddonol,
dyfeisiwr
, awdur gwyddonol, addysgwr, academydd, ffisegydd, athronydd,
ysgrifennwr
, gwyddonydd,
mathemategydd
, arolygydd breinlenni,
athro cadeiriol
, heddychwr
Swydd
athro cadeiriol
Cyflogwr
Academi Gwyddorau Prwsaidd
Deutsche Physikalische Gesellschaft
ETH Zurich
Eidgenössisches Institut für Geistiges Eigentum
Kaiser Wilhelm Society
Karl-Ferdinands-Universität
Prifysgol Bern
Prifysgol Charles yn Prague
Prifysgol Zurich
Sefydliad Astudiaeth Uwch
Bern
Prifysgol Califfornia, Berkeley
Prifysgol Humboldt Berlin
Prifysgol Leiden
Prifysgol Leiden
Prifysgol Princeton
Adnabyddus am
perthnasedd arbennig
perthnasedd cyffredinol
Effaith ffotodrydanol
, damcaniaeth perthnasedd, theory of Brownian Motion, cywerthedd mas-ynni, Planck constant, hafaliadau maes Einstein,
mecaneg cwantwm
, damcaniaeth maes cyffredinol, stimulated emission
Prif ddylanwad
Fyodor Dostoievski
, Hermann Minkowski,
Baruch Spinoza
Mahatma Gandhi
, Arthur Schopenhauer, Hendrik Antoon Lorentz,
George Bernard Shaw
Isaac Newton
, Riazuddin,
David Hume
Thomas Young
Bernhard Riemann
, Moritz Schlick,
James Clerk Maxwell
, Paul Valery, Karl Pearson, Henry George, Ernst Mach
Plaid Wleidyddol
Plaid Ddemocrataidd yr Almaen
Tad
Hermann Einstein
Mam
Pauline Koch
Priod
Mileva Marić, Elsa Einstein
Plant
Hans Albert Einstein, Eduard Einstein, Lieserl (Einstein)
Perthnasau
Lina Einstein, Elsa Einstein
Gwobr/au
Barnard Medal for Meritorious Service to Science,
Gwobr Ffiseg Nobel
, Medal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Gwobr Jules Janssen, Medal Matteucci, Medal Max Planck, Medal Franklin, Medal Copley, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Darlithoedd Josiah Willard Gibbs, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Geneva, Doctor Anrhydeddus o'r Brifysgol Hebraeg, Jerusalem, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Princeton, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol, Member of the National Academy of Sciences of the United States, Great Immigrants Award, Cymrawd Anrhydeddus y Gymdeithas Frenhinol Te Apārangi, doethor anrhydeddus o Brifysgol Paris, Neuadd Enwogion New Jersey
Gwefan
llofnod
Ffisegydd damcaniaethol
a anwyd yn
yr Almaen
oedd
Albert Einstein
14 Mawrth
1879
18 Ebrill
1955
) (
Almaeneg:
[ˈalbɐrt
ˈaɪnʃtaɪn]
gwrando
). Einstein yw un o brif
wyddonwyr
y byd ac ef yw awdur y damcaniaethau:
Perthnasedd cyffredinol
Pherthnasedd arbennig
Cafodd ei waith ddylanwad enfawr ar athroniaeth gwyddoniaeth.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei hafaliad
mc
(a ddisgrifiwyd fel "hafaliad enwoca'r byd").
Yn 1921 derbyniodd
Wobr Nobel mewn Ffiseg
am ei "wasanaeth i Ffiseg ddamcaniaethol", yn enwedig am ei ddarganfyddiad 'yr effaith ffotodrydanol' (
photoelectric effect
) a oedd yn garreg filltir yn esblygiad ei ddamcaniaeth cwantwm.
Ganwyd Einstein yn
Ulm
Teyrnas Württemberg
yr Almaen
a bu farw yn
Princeton, New Jersey
yn yr
Unol Daleithiau
O gychwyn ei yrfa mewn ffiseg, credodd Einstein fod 'mecaneg Newton' yn annigonol i brofi mecaneg glasurol parthed y
maes electromagnetig
, ac ymaflodd yn y gewaith o ddatblygu 'Damcaniaeth perthnasedd arbennig' ond cyn hir sylweddolodd y gall damcaniaeth perthnasedd hefyd gael ei ymestyn i feysydd disgyrchiant. Datblygodd hyn oll, gan gyhoeddi papur yn 1916 ac yna ei waith ar berthnasedd cyffredinol. Datblygodd hefyd ei syniadau ar fecaneg ystadegol a damcaniaeth cwantwm, a chyhoeddodd ei syniadau ar ddamcaniaeth gronynnau a moleciwlau symudiad (
Brownian motion
). Ymchwiliodd i briodweddau tymheredd
golau
, a ffurfiodd y syniadau hyn gongl-faen ei theori o
ffotonau
golau.
Yn 1917 cymhwysodd ei
ddamcaniaeth perthynasedd cyffredinol
i strwythurau enfawr y
bydysawd
Pan ddaeth
Adolf Hitler
yn
Ganghellor yr Almaen
yn 1933 roedd Einstein yn teithio
Unol Daleithiau America
; gan ei fod yn Iddew nid aeth yn ôl i'r Almaen, ble roedd yn Athro Prifysgol yn Academi Gwyddoniaethau Berlin. Ymgartrefodd yno gan ddod yn ddinesydd o UDA. Rhybuddiodd yr Arlywydd
Franklin D. Roosevelt
o'r posibilrwydd o "ddatblygu bom pwerus iawn" gan annog ymchwil i hynny.
Ychydig wedi hyn lansiwyd "The Manhattan Project". Roedd Einstein o'r farn y dylid amddiffyn '
y Cynghreiriaid
' ond ciliodd oddi wrth y syniad o ddefnyddio ei ddarganfyddiad newydd (
Ymholltiad niwclear
) fel arf. Yn ddiweddarach, gyda
Bertrand Russell
, arwyddodd faniffesto (
Russell–Einstein Manifesto
) a oedd yn cadarnhau peryglon arfau niwclear.
Ym 1905, blwyddyn a ddisgrifir weithiau fel ei
annus mirabilis
('blwyddyn y wyrth'), cyhoeddodd Einstein bedwar papur arloesol.
Roedd y rhain yn amlinellu damcaniaeth yr effaith ffotodrydanol, yn esbonio'r
mudiant Brownian
, yn cyflwyno
perthnasedd arbennig
, ac yn dangos cywerthedd màs-ynni. Credai Einstein na ellid cysoni deddfau
mecaneg glasurol
bellach â deddfau'r maes electromagnetig, a arweiniodd ato i ddatblygu ei ddamcaniaeth arbennig o berthnasedd. Yna ymestynnodd y ddamcaniaeth i feysydd disgyrchiant; cyhoeddodd bapur ar
berthnasedd cyffredinol
yn 1916, yn cyflwyno ei ddamcaniaeth disgyrchiant. Ym 1917, cymhwysodd ddamcaniaeth gyffredinol perthnasedd i fodelu strwythur y bydysawd. Parhaodd i ddelio â phroblemau
mecaneg ystadegol
a damcaniaeth cwantwm, a arweiniodd at ei esboniadau o ddamcaniaeth gronynnau a
mudiant moleciwlau
. Ymchwiliodd hefyd i briodweddau thermol golau a damcaniaeth cwantwm ymbelydredd, a osododd sylfaen damcaniaeth
ffotonau
golau.
Ganed Einstein yn Ymerodraeth yr Almaen, ond symudodd i'r Swistir yn 1895, gan gefnu ar ei ddinasyddiaeth Almaenig (fel dinesydd Teyrnas Württemberg) y flwyddyn ganlynol. Ym 1897, yn 17 oed, cofrestrodd ar y rhaglen diploma addysgu mathemateg a ffiseg yn ysgol polytechnig Ffederal y Swistir yn
Zürich
, gan raddio yno yn 1900. Yn 1901, cafodd ddinasyddiaeth Swisaidd, a gadwodd weddill ei oes, ac yn 1903 cafodd swydd barhaol yn Swyddfa Batentau'r Swistir yn Bern. Yn 1905 dyfarnwyd PhD iddo gan Brifysgol Zurich. Ym 1914, symudodd Einstein i
Berlin
er mwyn ymuno ag Academi Gwyddorau Prwsia a
Phrifysgol Humboldt Berlin
. Yn 1917, daeth Einstein yn gyfarwyddwr Sefydliad Ffiseg Kaiser Wilhelm; daeth hefyd yn ddinesydd Almaenig eto, Prwsia y tro hwn.
Bywyd a gyrfa
golygu
golygu cod
Bywyd cynnar ac addysg
golygu
golygu cod
Einstein yn dair oed yn 1882
Albert Einstein yn 1893 (oed 14)
Ganed Albert Einstein yn
Ulm
, yn Nheyrnas Württemberg yn yr
Ymerodraeth Almaenig
, ar 14 Mawrth 1879 i deulu o Iddewon Ashkenazi seciwlar.
10
11
Ei rieni oedd Hermann Einstein, gwerthwr a pheiriannydd, a Pauline Koch. Yn 1880, symudodd y teulu i
Munich
, lle sefydlodd tad Einstein a'i ewythr Jakob
Elektrotechnische Fabrik J. Einstein & Cie
, sef cwmni a oedd yn cynhyrchu offer trydanol yn seiliedig ar gerrynt uniongyrchol.
Mynychodd Albert ysgol elfennol Gatholig ym Munich, o bump oed ymlaen, am gyfnod o dair blynedd. Yn wyth oed, fe'i trosglwyddwyd i'r Luitpold-Gymnasium (a adwaenir bellach fel y Albert-Einstein-Gymnasium), lle cafodd addysg uwch mewn ysgolion cynradd ac uwchradd nes iddo adael Ymerodraeth yr Almaen saith mlynedd yn ddiweddarach.
12
Ym 1894, collodd cwmni Hermann a Jakob gais i gyflenwi goleuadau trydanol i ddinas Munich oherwydd nad oedd ganddynt y cyfalaf i drosi eu hoffer o'r safon cerrynt uniongyrchol (DC) i'r safon cerrynt eiledol (AC) mwy effeithlon. Fe'u gorfodwyd (gan y golled arianol) i werthu eu ffatri ym Munich. I chwilio am fusnes gwahanol, symudodd y teulu i'r Eidal, yn gyntaf i
Milan
ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach i Pavia. Pan symudodd y teulu i Pavia, arhosodd Einstein, a oedd yn 15 ar y pryd, ym Munich i orffen ei astudiaethau yn y Luitpold Gymnasium. Bwriad ei dad oedd iddo ddilyn
peirianneg drydanol
, ond gwrthdarodd Einstein â'r awdurdodau a digiodd at drefn a dull addysgu'r ysgol. Ysgrifennodd yn ddiweddarach fod ysbryd dysg a meddwl creadigol yn cael ei golli mewn dysg lem. Ar ddiwedd Rhagfyr 1894, teithiodd i'r Eidal i ymuno â'i deulu yn Pavia, gan argyhoeddi'r ysgol i'w ryddhau trwy ddefnyddio nodyn meddyg.
13
Yn ystod ei gyfnod yn yr Eidal ysgrifennodd draethawd byr gyda'r teitl "Ar Ymchwiliad i Gyflwr yr Ether mewn Maes Magnetig".
14
Rhagorodd Einstein mewn mathemateg a ffiseg o oedran ifanc, gan gyrraedd lefel fathemategol flynyddoedd o flaen ei gyfoedion. Dysgodd Einstein, 12 oed, algebra a geometreg Ewclidaidd iddo'i hun dros un haf.
15
Darganfu Einstein hefyd yn annibynnol ei brawf gwreiddiol ei hun o'r
theorem Pythagorean
yn 12 oed. Mae tiwtor teulu Max Talmud yn dweud ar ôl iddo roi gwerslyfr geometreg i Einstein 12 oed, ar ôl cyfnod byr "roedd [Einstein] wedi gweithio trwy'r llyfr cyfan. Wedi hynny ymroddodd i fathemateg uwch. . . Yn fuan roedd ehediad ei athrylith fathemategol mor uchel na allwn ei ddilyn.”
16
Arweiniodd ei angerdd am
geometreg
ac
algebra
i’r bachgen 12 oed ddod yn argyhoeddedig y gellid deall natur fel “strwythur mathemategol”.
16
Dechreuodd Einstein ddysgu
calcwlws
iddo'i hun yn 12 oed, ac fel bachgen 14 oed mae'n dweud ei fod wedi "meistroli calcwlws
integrol
gwahaniaethol
" (
"he mastered integral and differential calculus"
).
16
Yn 13 oed, pan oedd ganddo ddiddordeb mwy difrifol mewn athroniaeth (a cherddoriaeth),
17
cyflwynwyd Einstein i
Beirniadu Rheswm Pur
gan
Kant
. Daeth Kant yn hoff athronydd iddo, a dywedodd ei diwtor: "Ar y pryd roedd yn dal yn blentyn, dim ond tair ar ddeg oed, ac eto roedd gweithiau Kant, annealladwy i feidrolion cyffredin, yn ymddangos yn glir iddo."
16
Tystysgrif
Matura
Einstein, 1896
Ym 1895, yn 16 oed, safodd Einstein arholiadau mynediad ysgol polytechnig Ffederal y Swistir yn
Zürich
(yn ddiweddarach yr Eidgenössische Technische Hochschule, ETH). Methodd â chyrraedd y safon ofynnol yn rhan gyffredinol yr arholiad,
14
ond cafodd raddau eithriadol mewn ffiseg a mathemateg.
13
Ar gyngor prifathro'r ysgol bolytechnig, mynychodd ysgol Canton Argovian (neu'r
gymnasium
) yn Aarau, y Swistir, yn 1895 a 1896 i gwblhau ei addysg uwchradd. Tra'n lletya gyda theulu'r Athro Jost Winteler, syrthiodd mewn cariad â merch Winteler, Marie. Yn ddiweddarach priododd chwaer Albert, Maja, mab Winteler, Paul.
18
Yn Ionawr 1896, gyda chymeradwyaeth ei dad, ymwrthododd Einstein â'i ddinasyddiaeth yn Nheyrnas Württemberg yn yr Almaen er mwyn osgoi gorfodaeth filwrol.
13
Ym Medi 1896 pasiodd
Matura'r
Swistir gyda graddau da ar y cyfan, gan gynnwys gradd uchaf o 6 mewn ffiseg a phynciau mathemategol, ar raddfa o 1–6.
14
Yn 17, cofrestrodd ar y rhaglen diploma addysgu mathemateg a ffiseg pedair blynedd yn yr ysgol polytechnig Ffederal. Symudodd Marie Winteler, a oedd yn flwyddyn yn hŷn, i Olsberg, y Swistir, ar gyfer swydd ddysgu.
18
Cofrestrodd darpar wraig Einstein,
Serbiad
20 oed o'r enw
Mileva Marić
, hefyd yn yr ysgol polytechnig y flwyddyn honno. Hi oedd yr unig fenyw ymhlith y chwe myfyriwr yn adran mathemateg a ffiseg y cwrs diploma addysgu. Dros y blynyddoedd nesaf, datblygodd cyfeillgarwch Einstein a Marić yn rhamant, a thruliodd y ddau oriau di-ri yn dadlau a darllen llyfrau gyda'i gilydd ar ffiseg allgyrsiol yr oedd gan y ddau ddiddordeb ynddo. Ysgrifennodd Einstein yn ei lythyrau at Marić ei bod yn well ganddo astudio ochr yn ochr â hi.
19
Ym 1900, pasiodd Einstein yr arholiadau mewn Mathemateg a Ffiseg a dyfarnwyd diploma addysgu Ffederal iddo.
14
Ceir tystiolaeth llygad-dyst a sawl llythyr dros nifer o flynyddoedd sy'n nodi y gallai Marić fod wedi cydweithio ag Einstein cyn ei bapurau nodedig ym 1905,
19
a adwaenir fel papurau'r Annus Mirabilis, a'u bod wedi datblygu rhai o'r cysyniadau gyda'i gilydd yn ystod eu hastudiaethau, er bod rhai haneswyr ffiseg sydd wedi astudio'r mater yn anghytuno ei bod wedi gwneud unrhyw gyfraniadau sylweddol.
20
12
Priodasau a phlant
golygu
golygu cod
Albert Einstein a Mileva Marić Einstein yn 1912
Darganfuwyd a chyhoeddwyd gohebiaeth gynnar rhwng Einstein a Marić ym 1987 a ddatgelodd fod gan y cwpl ferch o'r enw "Lieserl", a aned yn gynnar yn 1902 yn Novi Sad lle roedd Marić yn aros gyda'i rhieni. Dychwelodd Marić i'r Swistir heb y plentyn, nad yw ei enw iawn a'i dynged yn hysbys. Mae cynnwys llythyr Einstein ym Medi 1903 yn awgrymu bod y ferch naill ai wedi’i rhoi i i’w mabwysiadu neu wedi marw o’r dwymyn goch yn ei babandod.
17
Priododd Einstein a Marić ym mis Ionawr 1903. Ym mis Mai 1904, a ganed eu mab Hans Albert Einstein yn
Bern
, y Swistir. Ganed eu mab Eduard yn Zürich yng Ngorffennaf 1910. Symudodd y cwpl i
Berlin
yn Ebrill 1914, ond dychwelodd Marić i Zürich gyda'u meibion ar ôl dysgu
19
mai cannwyll llygaid Einstein bellach oedd ei gyfnither Elsa Löwenthal,
21
cyfnither cyntaf ar ochr ei fam ac ail gyfnither ar ochr ei dad.
17
Ysgarodd Einstein a Marić ar 14 Chwefror 1919, ar ôl byw ar wahân am bum mlynedd.
22
12
Fel rhan o'r setliad ysgariad, cytunodd Einstein i roi ei arian Gwobr Nobel - os enillai hwnnw.
23
Mewn llythyrau a ddatgelwyd yn 2015, ysgrifennodd Einstein at ei gariad cynnar Marie Winteler am ei briodas a'i deimladau cryf tuag ati. Ysgrifennodd yn 1910, tra bod ei wraig yn feichiog gyda'u hail blentyn: "Rwy'n meddwl amdanoch chi mewn cariad twymgalon bob munud sbâr ac rydw i mor anhapus." Siaradodd am "gariad cyfeiliornus" a "bywyd a gollwyd" ynglŷn â'i gariad at Marie.
Priododd Einstein â Löwenthal yn 1919,
16
24
ar ôl bod mewn perthynas â hi ers 1912.
17
25
Ymfudodd y ddau i'r Unol Daleithiau yn 1933. Cafodd Elsa ddiagnosis o broblemau gyda’r galon a’r arennau ym 1935 a bu farw yn Rhagfyr 1936.
18
Ym 1923, syrthiodd Einstein mewn cariad ag ysgrifenyddes o'r enw Betty Neumann, nith ei ffrind agos, Hans Mühsam.
26
27
28
29
Mewn cyfrol o lythyrau a ryddhawyd gan
Brifysgol Hebraeg Jerwsalem
yn 2006,
30
disgrifiodd Einstein tua chwe menyw, gan gynnwys Margarete Lebach (Awstriad benfelen), Estella Katzenellenbogen (perchennog cyfoethog busnes blodau), Toni Mendel (Iddewes cyfoethog gweddw) ac Ethel Michanowski (merch gymdeithasol o Ferlin), y treuliodd amser gyda hi a gan bwy y derbyniodd anrhegion tra'n briod ag Elsa.
31
32
Yn ddiweddarach, ar ôl marwolaeth ei ail wraig Elsa, bu Einstein mewn perthynas â Margarita Konenkova.
33
Roedd Konenkova yn ysbïwr Rwsiaidd a oedd yn briod â'r cerflunydd Rwsiaidd enwog Sergei Konenkov (a greodd y penddelw efydd enwog o Einstein yn Sefydliad Astudio Uwch Princeton).
34
35
Cafodd mab Einstein, Eduard,
chwalfa feddyliol
pan oedd tua 20 oed a chafodd ddiagnosis o
sgitsoffrenia
. Gofalodd ei fam amdano a bu mewn ambell seilam (hen air:
gwallgofdy
) am sawl cyfnod, ac yn olaf, ar ôl ei marwolaeth, fe'i cadwyd yn Burghölzli, Ysbyty Prifysgol Seiciatrig yn Zürich.
36
Swyddfa batent
golygu
golygu cod
Einstein yn 1904 (25 oed)
Ar ôl graddio yn 1900, treuliodd Einstein bron i ddwy flynedd yn chwilio am swydd addysgu. Enillodd ddinasyddiaeth
Swisaidd
yn Chwefror 1901,
13
ond ni chafodd ei gonsgriptio i'r fyddin am resymau meddygol. Gyda chymorth tad Marcel Grossmann, cafodd swydd yn
Bern
yn Swyddfa Breinlenni'r Swistir,
16
fel arholwr cynorthwyol – lefel III.
Gwerthusodd Einstein geisiadau patent ar gyfer amrywiaeth o ddyfeisiau gan gynnwys didolwr graean a theipiadur electromecanyddol. Ym 1903, daeth ei swydd yn Swyddfa Breinlenni'r Swistir yn barhaol, ond ni chafodd ddyrchafiad - nes iddo "feistroli technoleg peiriannau'n llawn".
Roedd llawer o'i waith yn y swyddfa batent yn ymwneud â chwestiynau am drosglwyddo signalau trydan a chydamseru amser yn drydanol-fecanyddol. Dyma, mewn gwirionedd, oedd y ddwy broblem dechnegol fawr oedd yn ei flino: rosglwyddo signalau trydan a chydamseru amser yn drydanol-fecanyddol. Daeth ffrwyth ei ystyriaeth i'r amlwg yn ei gasgliadau radical am natur golau a'r cysylltiad sylfaenol rhwng gofod ac amser.
Sylfaenwyr Academi Olympia: Conrad Habicht, Maurice Solovine ac Albert Einstein
Gydag ychydig o ffrindiau yr oedd wedi cyfarfod â hwy yn Bern, cychwynnodd Einstein grŵp trafod bychan ym 1902, a enwyd yn ddychanol yn "
Akademie Olympia
", a oedd yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod gwyddoniaeth ac athroniaeth. Weithiau roedd Mileva yn ymuno â nhw gan wrando'n astud, ond ni chymerai ran.
18
Yr oedd eu darlleniadau yn cynnwys gweithiau Henri Poincaré, Ernst Mach, a
David Hume
, a ddylanwadodd ar ei agwedd wyddonol ac athronyddol.
16
Papurau gwyddonol cyntaf
golygu
golygu cod
Ym 1900 cyhoeddwyd papur Einstein "Folgerungen aus den Capillaritätserscheinungen" ("Casgliadau o'r Ffenomena Capilaredd") yn y cyfnodolyn
Annalen der Physik
37
Ar 30 Ebrill 1905 cwblhaodd Einstein ei draethawd hir,
Eine neue Bestimmung der Moleküldimensionen
(Penderfyniad Newydd ar y Dimensiynau Moleciwlaidd)
38
gydag Alfred Kleiner, Athro Ffiseg Arbrofol ym Mhrifysgol Zurich, yn gwasanaethu fel cynghorydd
pro-forma
38
39
Derbyniwyd ei waith yng Ngorffennaf, a dyfarnwyd Ph.D. i Einstein o ganlyniad.
38
39
Hefyd yn 1905, sydd wedi cael ei alw'n
annus mirabilis
Einstein (blwyddyn anhygoel), cyhoeddodd bedwar papur arloesol, academaidd ar yr
effaith ffotodrydanol
symudedd Brown
perthnasedd arbennig
, a'r
cywerthedd màs ac egni
, a oedd i ddod ag ef i sylw'r byd academaidd, yn 26 oed.
40
Gyrfa academaidd
golygu
golygu cod
Erbyn 1908 cydnabyddid ef yn wyddonydd blaenllaw a phenodwyd ef yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bern. Y flwyddyn ganlynol, ar ôl iddo roi darlith ar
electrodynameg
a'r egwyddor perthnasedd ym Mhrifysgol Zurich, argymhellodd Alfred Kleiner ef i'r gyfadran ar gyfer athro newydd mewn ffiseg ddamcaniaethol. Penodwyd Einstein yn athro cyswllt yn 1909.
Gwesty Mrs Berta Fanta, ym Mhrag, lle bu Einstein yn canu'r fiolin, ac yn cyfarfod ei gyfeillion
Franz Kafka
a Max Brod yn 1911-12.
Daeth Einstein yn athro llawn ym Mhrifysgol Charles-Ferdinand yr Almaen ym
Mhrâg
yn Ebrill 1911, gan dderbyn dinasyddiaeth Awstria yn yr Ymerodraeth
Awstria-Hwngari
i wneud hynny.
16
Yn ystod ei arhosiad ym Mhrâg, ysgrifennodd 11 o weithiau gwyddonol, pump ohonynt ar fathemateg ymbelydredd ac ar ddamcaniaeth cwantwm solidau.
Yng Ngorffennaf 1912, dychwelodd at ei
alma mater, ei goleg cyntaf,
yn Zürich. O 1912 hyd 1914 bu'n athro ffiseg ddamcaniaethol yn yr ETH Zurich, lle dysgodd fecaneg ddadansoddol a
thermodynameg
. Astudiodd hefyd fecaneg continwwm, damcaniaeth foleciwlaidd gwres, a phroblem disgyrchiant, a bu'n cydweithio ar y rhain gyda'r mathemategydd a'i ffrind Marcel Grossmann.
Pan gyhoeddwyd "Maniffesto'r Naw Deg a Thri" ym mis Hydref 1914 - dogfen a lofnodwyd gan lu o ddeallusion Almaenig amlwg a oedd yn cyfiawnhau militariaeth a safle'r Almaen yn ystod y
Rhyfel Byd Cyntaf
- Einstein oedd un o'r ychydig ddeallusion Almaenig i wrthbrofi ei chynnwys ac arwyddo'r " Maniffesto i'r Ewropeaid " heddychlon.
41
Adroddodd y New York Times
gadarnhad o "ddamcaniaeth Einstein" (yn benodol, plygu golau trwy ddisgyrchiant) yn seiliedig ar arsylwadau diffyg ar yr haul 29 Mai 1919 yn Principe, Affrica a Sobral, Brasil, ar ôl i'r canfyddiadau gael eu cyflwyno ar 6 Tachwedd 1919 i cyd-gyfarfod yn Llundain o'r
Gymdeithas Frenhinol
a'r Gymdeithas Seryddol Frenhinol. (gw. y
Testun llawn
Yng ngwanwyn 1913, denwyd Einstein i symud i Berlin gyda chynnig a oedd yn cynnwys aelodaeth o Academi Gwyddorau Prwsia, ac athro cysylltiedig ym Mhrifysgol Berlin, gan ei alluogi i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymchwil.
25
Ar 3 Gorffennaf 1913, daeth yn aelod o Academi Gwyddorau Prwsia yn Berlin. Ymwelodd
Max Planck
a Walther Nernst ag ef yr wythnos nesaf yn Zurich i'w berswadio i ymuno â'r academi, gan hefyd gynnig swydd cyfarwyddwr iddo yn Sefydliad Ffiseg Kaiser Wilhelm, a oedd i'w sefydlu'n fuan.
12
Roedd aelodaeth o'r academi'n cynnwys cyflog â thâl a swydd athro prifysgol
heb
ddyletswyddau addysgu ym
Mhrifysgol Humboldt, Berlin
. Etholwyd ef yn swyddogol i'r academi ar 24 Gorffennaf, a symudodd i Ferlin y flwyddyn ganlynol. Dylanwadwyd ar ei benderfyniad i symud i Ferlin hefyd gan y syniad o fyw'n agos at ei gyfnither Elsa, yr oedd wedi dechrau ei chanlyn. Cymerodd Einstein ei swydd gyda'r academi, a Phrifysgol Berlin,
42
ar ôl symud i'w fflat yn Dahlem ar 1 Ebrill 1914.
25
43
Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf dorri allan y flwyddyn honno, y cynllun ar gyfer Sefydliad Ffiseg Kaiser Wilhelm oedd oedi. Sefydlwyd yr athrofa ar 1 Hydref 1917, gydag Einstein yn gyfarwyddwr arni. Ym 1916, etholwyd Einstein yn llywydd Cymdeithas Ffiseg yr Almaen (1916-1918).
17
Ym 1911, defnyddiodd Einstein ei
egwyddor Cywerthedd
1907 i gyfrifo gwyriad golau o seren arall gan ddisgyrchiant yr Haul. Ym 1913, gwellodd Einstein ar y cyfrifiadau hynny trwy ddefnyddio gofod-amser Riemannian i gynrychioli'r maes disgyrchiant. Erbyn cwymp y rhyfel yn 1915, roedd Einstein wedi cwblhau ei ddamcaniaeth gyffredinol o berthnasedd yn llwyddiannus, a ddefnyddiodd i gyfrifo'r gwyriad hwnnw, a rhagflaeniad perihelion
Mercwri
25
44
Yn 1919 cadarnhawyd y gwaith hwn gan Syr Arthur Eddington yn ystod
diffyg yr haul
ar 29 Mai 1919. Cyhoeddwyd y sylwadau hynny yn y cyfryngau rhyngwladol, gan wneud Einstein yn fyd-enwog. Ar 7 Tachwedd 1919, argraffodd y papur newydd Prydeinig blaenllaw
The Times
bennawd baner a oedd yn darllen: "Chwyldro mewn Gwyddoniaeth - Theori Newydd y Bydysawd – Syniadau Newtonaidd wedi’u dymchwel.”
Ym 1920 daeth yn Aelod Tramor o Academi Frenhinol y Celfyddydau a'r Gwyddorau yn yr Iseldiroedd. Ym 1922, dyfarnwyd
Gwobr Nobel mewn Ffiseg
1921 iddo "am ei wasanaethau i Ffiseg Ddamcaniaethol, ac yn arbennig am iddo ddarganfod cyfraithdeddf yr effaith ffotodrydanol". Er bod y
ddamcaniaeth gyffredinol o berthnasedd
yn dal i gael ei hystyried braidd yn ddadleuol, nid yw'r dyfyniad ychwaith yn trin hyd yn oed y gwaith ffotodrydanol a ddyfynnwyd fel
esboniad
ond yn hytrach fel
darganfyddiad o'r ddeddf
, gan fod y syniad o
ffotonau
yn cael ei ystyried yn ddieithr ac ni chafodd ei dderbyn yn gyffredinol hyd nes tarddiad 1924 sbectrwm Planck gan
SN Bose
. Etholwyd Einstein yn Aelod Tramor o'r Gymdeithas Frenhinol (
FormemRS
) yn 1921. Derbyniodd hefyd Fedal Copley gan y
Gymdeithas Frenhinol
yn 1925.
Ymddiswyddodd Einstein o Academi Prwsia ym mis Mawrth 1933. Roedd cyflawniadau gwyddonol Einstein tra yn Berlin yn cynnwys gorffen y ddamcaniaeth gyffredinol o berthnasedd, profi'r effaith gyromagnetig, cyfrannu at ddamcaniaeth cwantwm ymbelydredd, ac ystadegau Bose-Einstein.
25
1921–1922: Teithio dramor
golygu
golygu cod
Einstein gyda'i ail wraig, Elsa, yn 1921
Portread swyddogol Einstein ar ôl derbyn Gwobr Nobel mewn Ffiseg 1921
Ymwelodd Einstein â Dinas Efrog Newydd am y tro cyntaf ar 2 Ebrill 1921, lle cafodd groeso swyddogol gan y Maer John Francis Hylan, a thair wythnos o ddarlithoedd a derbyniadau i ddilyn.
45
Aeth ymlaen i draddodi nifer o ddarlithoedd ym
Mhrifysgol Columbia a Phrifysgol
Princeton
, ac yn Washington, aeth gyda chynrychiolwyr Academi Genedlaethol y Gwyddorau ar ymweliad â'r
Tŷ Gwyn
. Wedi dychwelyd i Ewrop bu'n westai i'r gwladweinydd Prydeinig a'r athronydd Is-iarll Haldane yn Llundain, lle y cyfarfu ag amryw o enwogion gwyddonol, deallusol, a gwleidyddol, a thraddododd ddarlith yng
Ngholeg y Brenin
, Llundain.
46
13
Cyhoeddodd hefyd draethawd, "Fy Argraff Gyntaf o UDA", yng Ngorffennaf 1921, lle ceisiodd yn fyr ddisgrifio rhai o nodweddion yr Americanwr, yn debyg iawn i
Alexis de Tocqueville
, a gyhoeddodd ei argraffiadau ei hun yn
Democracy in America
(1835). Ar gyfer rhai o'i arsylwadau, roedd Einstein yn amlwg wedi'i synnu: "Yr hyn sy'n taro ymwelydd yw'r agwedd lawen, gadarnhaol at fywyd... Mae'r Americanwr yn gyfeillgar, yn hunanhyderus, yn optimistaidd, a heb eiddigedd."
47
Ym 1922, aeth ei deithiau ag ef i Asia ac yn ddiweddarach i
Balesteina
, fel rhan o daith chwe mis a thraddodi ei syniadau, wrth iddo ymweld â
Singapôr
Ceylon
Japan
, lle rhoddodd gyfres o ddarlithoedd i filoedd o Japaneaid. Wedi ei ddarlith gyhoeddus gyntaf, cyfarfu â'r ymerawdwr a'r ymerodres yn y Palas Brenhinol, lle y daeth miloedd i wylio. Mewn llythyr at ei feibion, disgrifiodd ei argraff o'r Japaneaid, eu bod yn wylaidd, yn ddeallus, yn ystyriol, ac yn meddu ar wir gariad at gelf.
16
Yn ei ddyddiaduron teithio ei hun o'i ymweliad 1922–23 ag Asia, mae'n mynegi rhai safbwyntiau senoffobig a hiliol ar y Tsieineaid, y Japaneaidd a'r Indiaid, pan gawsant eu hailddarganfod yn 2018.
48
Oherwydd teithiau Einstein i'r
Dwyrain Pell
, ni allai dderbyn y Wobr Nobel am Ffiseg yn bersonol yn seremoni wobrwyo Stockholm ym mis Rhagfyr 1922. Yn ei le, gwnaed araith gan ddiplomydd Almaeneg, a ganmolodd Einstein nid yn unig fel gwyddonydd ond hefyd fel tangnefeddwr rhyngwladol ac actifydd.
Ar ei daith yn ôl, ymwelodd â
Phalesteina
am 12 diwrnod, ei unig ymweliad â'r rhanbarth hwnnw. Cyfarchwyd ef fel pe bai'n bennaeth gwladwriaeth, yn hytrach nag yn ffisegydd, a chynhwysai saliwt canon ar gyrraedd cartref yr uchel gomisiynydd Prydeinig, Syr Herbert Samuel. Yn ystod un derbyniad, cafodd yr orlenwi gan bobl a oedd am ei weld a'i glywed.
16
Ymwelodd Einstein â Sbaen am bythefnos yn 1923, lle cyfarfu'n fyr â
Santiago Ramón y Cajal
a derbyniodd hefyd ddiploma gan y
Brenin Alfonso XIII
yn ei enwi'n aelod o Academi Gwyddorau Sbaen.
Albert Einstein mewn sesiwn o'r Pwyllgor Rhyngwladol ar Gydweithrediad Deallusol (
Cynghrair y Cenhedloedd
) y bu'n aelod ohono o 1922 hyd 1932 .
Marwolaeth
golygu
golygu cod
Ar 17 Ebrill 1955, gwaedodd Einstein yn fewnol, clwyf a achoswyd gan rwyg
ymlediad aortaidd abdomenol
, a atgyfnerthwyd yn llawfeddygol cyn hynny gan Rudolph Nissen ym 1948.
Gwrthododd Einstein lawdriniaeth, gan ddweud, “Dw i eisiau mynd pan dw i eisiau mynd. Mae'n ddi-flas ymestyn bywyd yn artiffisial. Gwneuthum fy nghyfran; mae'n bryd mynd. Mi af yn urddasol." Bu farw yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Princeton yn Plainsboro yn gynnar y bore wedyn yn 76 oed.
Yn ystod yr
awtopsi
, tynnodd y patholegydd Thomas Stoltz Harvey ymennydd Einstein allan o'i benglog, i'w gadw, a hynny heb ganiatâd ei deulu; gobeithiai y byddai niwrowyddoniaeth y dyfodol yn gallu darganfod beth oedd yn gwneud Einstein mor ddeallus. Amlosgwyd gweddillion Einstein yn
Trenton, New Jersey
, a gwasgarwyd ei lwch mewn man nas datgelwyd.
Mewn darlith goffa a draddodwyd ar 13 Rhagfyr 1965 ym mhencadlys
UNESCO
, rhoddodd y ffisegydd niwclear
J. Robert Oppenheimer
grynodeb o’i argraff o Einstein fel person a oedd: “bron yn gyfan gwbl heb unrhyw soffistigedigrwydd ac yn gwbl ddi-fydol... Roedd ganddo bob amser burdeb rhyfeddol, roedd yn blentynnaidd ac yn hynod ystyfnig."
Gadawodd Einstein, a anwyd yn Iddew, ei archifau personol, ei lyfrgell, a'i asedau deallusol i
Brifysgol Hebraeg Jerwsalem
yn Israel.
49
Llyfryddiaeth
golygu
golygu cod
Calaprice, Alice (2000).
The Expanded Quotable Einstein
. Princeton University Press.
Calaprice, Alice (2005).
The New Quotable Einstein
. Princeton University Press.
Calaprice, Alice; Lipscombe, Trevor (2005).
Albert Einstein: A Biography
. Greenwood Publishing Group.
ISBN
978-0-313-33080-3
Calaprice, Alice (2010).
The Ultimate Quotable Einstein
. Princeton University Press.
ISBN
978-1-4008-3596-6
Calaprice, Alice; Kennefick, Daniel; Schulmann, Robert (2015).
An Einstein Encyclopedia
. Princeton University Press.
Chaplin, Charles (1964).
Charles Chaplin: My Autobiography
. New York: Simon and Schuster.
Clark, Ronald W.
(1971).
Einstein: The Life and Times
. New York: Avon Books.
ISBN
978-0-380-44123-5
Fölsing, Albrecht (1997).
Albert Einstein
. Abridged by Ewald Osers. New York: Penguin Viking.
ISBN
978-0-670-85545-2
Fine, Arthur (2017).
The Einstein-Podolsky-Rosen Argument in Quantum Theory
. Metaphysics Research Lab, Stanford University
Galison, Peter (Winter 2000). "Einstein's Clocks: The Question of Time".
Critical Inquiry
26
(2): 355–389.
doi
10.1086/448970
JSTOR
1344127
Glick, Thomas F., gol. (1987).
The Comparative Reception of Relativity
. Kluwer Academic Publishers.
ISBN
978-90-277-2498-4
Highfield, Roger
; Carter, Paul (1993).
The Private Lives of Albert Einstein
. London: Faber and Faber.
ISBN
978-0-571-17170-5
Hoffmann, Banesh (1972).
Albert Einstein: Creator and Rebel
. Collaboration with Helen Dukas. New York: Viking Press.
ISBN
978-0-670-11181-7
Holton, Gerald (Ebrill 1984).
"The migration of physicists to the United States"
Bulletin of the Atomic Scientists
(Educational Foundation for Nuclear Science)
40
(4): 18–24.
Bibcode
1984BuAtS..40d..18H
doi
10.1080/00963402.1984.11459207
Isaacson, Walter
(2007).
Einstein: His Life and Universe
. New York: Simon & Schuster Paperbacks.
ISBN
978-0-7432-6473-0
Isaacson, Walter
(2008).
Einstein: His Life and Universe
. New York: Simon & Schuster.
ISBN
978-1-84739-589-4
Neffe, Jürgen (2007).
Einstein: A Biography
Farrar, Straus and Giroux
ISBN
978-0-374-14664-1
Pais, Abraham (1982).
Subtle is the Lord: The Science and the Life of Albert Einstein
. Oxford University Press.
ISBN
978-0-19-853907-0
Pais, Abraham (1994).
Einstein Lived Here
. Oxford University Press.
ISBN
978-0-19-280672-7
Penrose, Roger (2007).
The Road to Reality
. Vintage Books.
ISBN
978-0-679-77631-4
Robeson, Paul (2002).
Paul Robeson Speaks
. Citadel. t. 333.
Rowe, David E.; Schulmann, Robert, gol. (2007).
Einstein on Politics: His Private Thoughts and Public Stands on Nationalism, Zionism, War, Peace, and the Bomb
. Princeton University Press.
ISBN
978-0-691-12094-2
Rowe, David E.; Schulmann, Robert, gol. (2013).
Einstein on Politics: His Private Thoughts and Public Stands on Nationalism, Zionism, War, Peace, and the Bomb
. Princeton University Press.
ISBN
978-1-4008-4828-7
Scheideler, Britta (2002). "The Scientist as Moral Authority: Albert Einstein between Elitism and Democracy, 1914–1933".
Historical Studies in the Physical and Biological Sciences
32
(2): 319–346.
doi
10.1525/hsps.2002.32.2.319
JSTOR
10.1525/hsps.2002.32.2.319
Stachel, John J. (1966).
Albert Einstein and Mileva Marić
(PDF)
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 2004-09-28
. Cyrchwyd
13 May
2016
Stachel, John J. (2002).
Einstein from 'B' to 'Z'
. Einstein Studies.
. Birkhäuser.
ISBN
978-0-8176-4143-6
OCLC
237532460
Weinstein, G. (2015).
General Relativity Conflict and Rivalries: Einstein's Polemics with Physicists
. Newcastle upon Tyne (UK): Cambridge Scholars Publishing.
ISBN
978-1-4438-8362-7
Darllen pellach
golygu
golygu cod
Brian, Denis (1996).
Einstein: A Life
. New York: John Wiley.
Gordin, Michael D. (2020).
Einstein in Bohemia
(yn Saesneg). Princeton University Press.
ISBN
978-0-691-17737-3
Nodyn:Cite EB1922
Moring, Gary (2004).
The complete idiot's guide to understanding Einstein
(arg. 1st). Indianapolis, Indiana: Alpha books (Macmillan).
ISBN
978-0-02-863180-6
idiots guide to einstein.
Oppenheimer, J. Robert
(1971). Lecture delivered at the UNESCO House in Paris on 13 December 1965. "On Albert Einstein".
Science and Synthesis: An International Colloquium Organized by Unesco on the Tenth Anniversary of the Death of Albert Einstein and Teilhard de Chardin
: 8–12, 208.
, or
"On Albert Einstein by Robert Oppenheimer"
The New York Review of Books
. 17 Mawrth 1966.
Parker, Barry (2000).
Einstein's Brainchild: Relativity Made Relatively Easy!
. Illustrated by Lori Scoffield-Beer. Prometheus Books.
ISBN
978-1-59102-522-1
Rogers, Donald W. (2005).
Einstein's "Other" Theory: The Planck-Bose-Einstein Theory of Heat Capacity
. Princeton University Press.
ISBN
978-0-691-11826-0
Schweber, Silvan S.
(2008).
Einstein and Oppenheimer: The Meaning of Genius
. Harvard University Press.
ISBN
978-0-674-02828-9
Stone, A. Douglas (2013).
Einstein and the Quantum
. Princeton University Press.
ISBN
978-0-691-13968-5
Weinberg, Steven (2005). "Einstein's mistakes".
Physics Today
58
(11): 31–35.
Bibcode
2005PhT....58k..31W
doi
10.1063/1.2155755
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
Albert Einstein
Works by Albert Einstein
Works by or about Albert Einstein
Works by Albert Einstein
Gohebiaeth Bersonol Einstein: Crefydd, Gwleidyddiaeth, Yr Holocost, ac Athroniaeth
Sefydliad Llawysgrif Shapell
Ffeil Swyddfa Ymchwilio Ffederal ar Albert Einstein
Einstein a'i gariad at gerddoriaeth
Physics World
Albert Einstein gan gynnwys Darlith Nobel 11 Gorffennaf 1923
Syniadau sylfaenol a phroblemau theori perthnasedd
Archifau Albert Einstein Ar-lein (80,000+ Dogfennau)
Archived (
MSNBC, 19 Mawrth 2012
Datganiad Einstein o fwriad ar gyfer dinasyddiaeth Americanaidd
ar Lyfrgell Ddigidol y Byd
Casgliad Albert Einstein
ym Mhrifysgol Brandeis
Papurau a Gasglwyd Albert Einstein "Einstein Digidol"
ym
Mhrifysgol Princeton
Newspaper clippings about Albert Einstein
Tudalen gartref Albert Einstein yn y Sefydliad Astudiaethau Uwch
Albert – Cadwrfa Ddigidol yr IAS
, sy'n cynnwys llawer o ddogfennau a ffotograffau gwreiddiol wedi'u digideiddio
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
Whittaker, E.
(1 Tachwedd 1955). "Albert Einstein. 1879–1955".
Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society
: 37–67.
doi
10.1098/rsbm.1955.0005
JSTOR
769242
Fujia Yang; Joseph H. Hamilton (2010).
Modern Atomic and Nuclear Physics
. World Scientific.
ISBN
978-981-4277-16-7
Don A. Howard, ed. (2014),
Einstein's Philosophy of Science
(website), The Metaphysics Research Lab, Center for the Study of Language and Information (CSLI), Stanford University
, adalwyd 2015-02-04
David Bodanis (2000).
E = mc
: A Biography of the World's Most Famous Equation
. New York: Walker.
The Nobel Prize in Physics 1921 : Albert Einstein
, Nobel Media AB, archifwyd o
y gwreiddiol
ar 2008-10-05
, adalwyd 2015-02-04
(PDF)
Scientific Background on the Nobel Prize in Physics 2011. The accelerating universe
, Nobel Media AB, p. 2
, adalwyd 2015-01-04
Overbye, Dennis
(24 Tachwedd 2015).
"A Century Ago, Einstein's Theory of Relativity Changed Everything"
New York Times
. Cyrchwyd
24 Tachwedd
2015
Paul S. Boyer; Melvyn Dubofsky (2001).
The Oxford Companion to United States History
. Oxford University Press. t. 218.
ISBN
978-0-19-508209-8
9.0
9.1
9.2
Galison (2000)
"Albert Einstein (1879–1955)"
. Jewisth Virtual Library. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 9 Mawrth 2017
. Cyrchwyd
13 Chwefror
2021
Isaacson, Walter (2009).
"How Einstein Divided America's Jews"
The Atlantic
. Adalwyd 13 Chwefror 2021
12.0
12.1
12.2
12.3
Stachel (2002)
13.0
13.1
13.2
13.3
13.4
Fölsing (1997)
14.0
14.1
14.2
14.3
Stachel et al. (2008)
Bloom, Howard (2012).
The God Problem: How a Godless Cosmos Creates
(arg. illustrated). Prometheus Books. t. 294.
ISBN
978-1-61614-552-1
. Cyrchwyd
8 August
2020
Bloom, Howard (30 August 2012).
Extract of page 294
ISBN
978-1-61614-552-1
. Cyrchwyd
8 August
2020
16.00
16.01
16.02
16.03
16.04
16.05
16.06
16.07
16.08
16.09
Isaacson (2007)
17.0
17.1
17.2
17.3
17.4
Calaprice & Lipscombe (2005)
18.0
18.1
18.2
18.3
Highfield & Carter (1993)
19.0
19.1
19.2
Gagnon, Pauline (19 December 2016).
"The Forgotten Life of Einstein's First Wife"
Scientific American Blog Network
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 17 October 2020
. Cyrchwyd
17 October
2020
Pais (1994)
Stachel (1966)
Smith, Dinitia (6 November 1996).
"Dark Side of Einstein Emerges in His Letters"
The New York Times
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 5 January 2021
. Cyrchwyd
17 August
2020
"Volume 9: The Berlin Years: Correspondence, January 1919 – April 1920 (English translation supplement) page 6"
einsteinpapers.press.princeton.edu
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 4 October 2021
. Cyrchwyd
4 October
2021
Calaprice, Kennefick & Schulmann (2015)
25.0
25.1
25.2
25.3
25.4
Hoffmann, Dieter (2013).
Einstein's Berlin: In the footsteps of a genius
. Baltimore: The Johns Hopkins University Press. tt.
–9, 28.
ISBN
978-1-4214-1040-1
Highfield, Roger (10 Gorffennaf 2006).
"Einstein's theory of fidelity"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 10 Ionawr 2022.
Overbye, Dennis (17 Ebrill 2017).
Genius' Unravels the Mysteries of Einstein's Universe"
The New York Times
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 18 Ebrill 2017.
"Genius Albert Einstein's Theory of Infidelity"
. NatGeo TV. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 September 2020
. Cyrchwyd
9 Awst
2020
"Getting up close and personal with Einstein"
The Jerusalem Post | JPost.com
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 Medi 2020
. Cyrchwyd
29 Awst
2020
"Einstein secret love affairs out!"
Hindustan Times
. 13 Gorffennaf 2006. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 Medi 2020
. Cyrchwyd
17 Awst
2020
"New letters shed light on Einstein's love life"
NBC News
. 11 July 2006. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 22 Chwefror 2020
. Cyrchwyd
15 Awst
2020
"Albert Einstein may have had the IQ, but he needed to work on his EQ"
The Economic Times
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 8 Chwefror 2021
. Cyrchwyd
15 Awst
2020
Pruitt, Sarah.
"Einstein Had No Clue His Lover Was a Suspected Russian Spy"
HISTORY
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 9 Awst 2020
. Cyrchwyd
10 Awst
2020
Pogrebin, Robin (1 June 1998).
"Love Letters By Einstein At Auction"
The New York Times
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 Tachwedd 2020
. Cyrchwyd
10 Awst
2020
"Einstein's letters show affair with spy"
The Independent
. 2 Mehefin 1998. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 16 Tachwedd 2020
. Cyrchwyd
10 November
2020
Neffe (2007)
Einstein (1901)
38.0
38.1
38.2
Einstein (1905b)
39.0
39.1
Einstein (1926b)
May, Andrew (2017). Clegg, Brian (gol.).
Albert Einstein, in 30-Second Physics: The 50 most fundamental concepts in physics, each explained in half a minute
. London: Ivy Press. tt.
108
–109.
ISBN
978-1-78240-514-6
Scheideler 2002
, t. 333.
"Albert Einstein: His Influence on Physics, Philosophy and Politics JL Heilbron – 1982, Published by: American Association for the Advancement of Science
via
JSTOR"
JSTOR
1687520
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 22 November 2021
. Cyrchwyd
22 November
2021
Weinstein (2015)
Weinberg, Steven (1972).
Gravitation and Cosmology: Principles and applications of the general theory of relativity
. John Wiley & Sons, Inc. tt.
19
–20.
ISBN
9788126517558
Falk, Dan,
One Hundred Years Ago, Einstein Was Given a Hero's Welcome by America's Jews
Error in Webarchive template: URl gwag.
, Smithsonian, 2 Ebrill 2021
Hoffmann (1972)
Holton (1984)
Katz, Brigit.
"Einstein's Travel Diaries Reveal His Deeply Troubling Views on Race"
Smithsonian Magazine
(yn Saesneg). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 25 December 2020
. Cyrchwyd
3 January
2021
Unna, Issachar (22 June 2007).
"An Ongoing Power of Attraction"
Haaretz
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 16 June 2021
. Cyrchwyd
15 June
2021
Awdurdod
WorldCat
VIAF
75121530
LCCN
n79022889
ISNI
0000 0001 2281 955X
ORCID
0000-0001-9183-9538
GND
118529579
SELIBR
184709
SUDOC
026849186
BNF
cb119016075
(data)
BIBSYS
90053072
ULAN
500240971
HDS
028814
MGP
53269
NLA
36582360
NDL
00438728
NCL
000714101
NKC
jn19990002019
The SBN id CFIV035853 is not valid.
RLS
000021094
BNE
XX834035
CiNii
DA00708434
Wedi dod o "
Categorïau
Ffisegwyr o'r Almaen
Ffisegwyr o'r Swistir
Ffisegwyr o'r Unol Daleithiau
Pobl heb ddinasyddiaeth
Athroniaeth y gwyddorau
Enillwyr Gwobr Ffiseg Nobel
Heddychwyr o'r Unol Daleithiau
Dyneiddwyr o'r Unol Daleithiau
Llenorion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
Marwolaethau 1955
Genedigaethau 1879
Albert Einstein
Ymfudwyr o'r Almaen i'r Unol Daleithiau
Categorïau cudd:
Nodyn
Webarchive template errors
CS1 Saesneg-language sources (en)
Articles with hCards
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen person Wicidata
Pages with plain IPA
Articles with hAudio microformats
AC with 20 elements
Wikipedia articles with VIAF identifiers
Wikipedia articles with LCCN identifiers
Wikipedia articles with ISNI identifiers
Wikipedia articles with ORCID identifiers
Wikipedia articles with GND identifiers
Wikipedia articles with SELIBR identifiers
Wikipedia articles with BNF identifiers
Wikipedia articles with BIBSYS identifiers
Wikipedia articles with ULAN identifiers
Wikipedia articles with NLA identifiers
Wikipedia articles with faulty authority control identifiers (SBN)
Erthyglau sy'n cynnwys testun Almaeneg
Albert Einstein
Ychwanegu pwnc