Algeria - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Algeria
Arwyddair
بالشّعب وللشّعب
Math
gwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gweriniaeth y bobl,
gwlad
Prifddinas
Alger
Poblogaeth
46,164,219
Sefydlwyd
3 Gorffennaf 1962
Anthem
Kassaman
Pennaeth llywodraeth
Sifi Ghrieb
Cylchfa amser
UTC+01:00
Iaith/Ieithoedd
swyddogol
Arabeg
, Berber Algeriaidd Safonol
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol
Ffrainc
Gwlad
Algeria
Arwynebedd
2,381,741 km²
Gerllaw
Y Môr Canoldir
Yn ffinio gyda
Moroco
Libia
Niger
Mali
Tiwnisia
Mawritania
Gorllewin Sahara
Yr Eidal
Sbaen
Cyfesurynnau
28°N 1°E
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol
Government of Algeria
Corff deddfwriaethol
Senedd Algeria
Swydd pennaeth
y wladwriaeth
Arlywydd Algeria
Pennaeth y wladwriaeth
Abdelmadjid Tebboune
Swydd pennaeth
y Llywodraeth
Prif Weinidog Algeria
Pennaeth y Llywodraeth
Sifi Ghrieb
Ariannol
Cyfanswm CMC (
GDP
$163,472 million, $191,913 million
Arian
Dinar Algeriaidd
Canran y diwaith
10 ±1 canran
Cyfartaledd plant
2.857
Mynegai Datblygiad Dynol
0.745
Ffeiliau perthnasol ar Comin
golygwch ar Wicidata
Gwlad yng ngogledd
Affrica
yw
Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Algeria
neu
Algeria
. Mae hi ar arfordir y
Môr Canoldir
a'r gwledydd cyfagos yw
Tiwnisia
i'r gogledd-ddwyrain,
Libia
i'r dwyrain,
Niger
i'r de-ddwyrain,
Mali
Mawritania
i'r de-orllewin a
Moroco
i'r gorllewin. Mae rhan helaeth o'r wlad yn gorwedd yn anialwch y
Sahara
. Mae bron y cyfan o'i phoblogaeth o 44 miliwn yn y gogledd eithaf, ar hyd yr arfordir ac ym mryniau'r
Anti-Atlas
, rhan o gadwyn
Mynyddoedd yr Atlas
Alger
yw'r brifddinas ac mae arwynebedd yn wlad yn 2,381,741 km sg (919,595 mill sg). Algeria, felly, yw'r wlad fwyaf o ran arwynebedd yn
Affrica
y byd Arabaidd
, ac ym masn
y Môr Canoldir
Cyn 1962 gwelodd Algeria lawer o ymerodraethau yn ceisio ei meddiannu, gan gynnwys y
Numidiaid
, y
Ffeniciaid
, Carthaginiaid,
Rhufeiniaid
Fandaliaid
Byzantines
, Umayyadiaid,
Abbasidiaid
, Rustamidiaid,
Almohads
, Zayyanids,
Sbaenwyr
Ottomaniaid
ac yn olaf,
Ffrainc
. Mae mwyafrif llethol poblogaeth Algeria yn
Arabaiaid-Berber
, yn ymarfer
Islam
, ac yn defnyddio ieithoedd swyddogol
Arabeg
Berber
. Fodd bynnag, oherwydd hanes trefedigaethol Ffrainc a'u hymyraeth yn y wlad hon, mae'r
Ffrangeg
yn gwasanaethu fel iaith weinyddol ac addysg mewn rhai cyd-destunau, ac Arabeg Algeria yw'r brif iaith lafar.
Mae Algeria yn weriniaeth lled-arlywyddol, gydag etholaethau lleol o 58 talaith a 1,541 comiwn. Mae Algeria yn bwer rhanbarthol (
regional power
) yng Ngogledd Affrica, ac yn bŵer canol mewn materion byd-eang. Mae ganddi'r
Mynegai Datblygiad Dynol
uchaf o'r holl wledydd yn Affrica nad ydynt yn ynysoedd ac mae ganddi un o'r economïau mwyaf ar
gyfandir Affrica
, wedi'i seilio'n bennaf ar allforion ynni. Mae ganddi hefyd gronfeydd olew 16ed mwya'r byd a'r nawfed gronfa fwyaf o
nwy naturiol
. Sonatrach, y cwmni olew cenedlaethol, yw'r cwmni mwyaf yn Affrica, ac mae'n cyflenwi llawer iawn o
nwy naturiol
i Ewrop. Mae byddin Algeria yn un o'r mwyaf yn Affrica, ac mae gan y wlad y gyllideb amddiffyn fwyaf ar y cyfandir. Mae'n aelod o'r
Undeb Affricanaidd
, y
Gynghrair Arabaidd
OPEC
, y
Cenhedloedd Unedig
, ac
Undeb Arabaidd Maghreb
Geirdarddiad
golygu
golygu cod
Mae enw'r wlad yn deillio o ddinas
Algiers
sydd yn ei dro yn deillio o'r Arabeg
al-Jazāʾir
الجزائر
, "Yr Ynysoedd"),
ffurf byr o'r enw
Jazāʾir Banī Mazghanna
جزائر بني مزغنة
, sef "Ynysoedd Llwyth y Mazghanna"),
Hanes
golygu
golygu cod
Cynhanes a hanes hynafol
golygu
golygu cod
Adfeilion Rhufeinig yn
Djémila
Yn ardal Ain Hanech yn Nhalaith Saïda, darganfuwyd gweddillion cynnar (200,000 CC) o hominid oedd yn byw yma. Cynhyrchodd y Neanderthaliaid fwyelli llaw yn yr arddulliau Levalloisian a Mousterian (43,000 CC) tebyg i'r rhai yn y
Levant
Algeria oedd safle'r datblygiad uchaf o ran technegau offer Flake
Hen Oes y Cerrig Canol
Gelwir offer yr oes hon, sy'n cychwyn tua 30,000 CC, yn Aterian (ar ôl safle archeolegol
Bir el Ater
, i'r de o Tebessa).
Gelwir y diwydiannau llafn cynharaf yng Ngogledd Affrica yn Iberomaurusia, ac fe'u ceir yn
rhanbarth Oran
, yng ngogledd-orllewin Algeria, yn bennaf. Mae'n ymddangos bod y diwydiant hwn wedi lledaenu ledled rhanbarthau arfordirol y
Maghreb
rhwng 15,000 a 10,000 CC. Datblygodd gwareiddiad Neolithig (dofi anifeiliaid ac
amaethyddiaeth
) ym Maghreb y Sahara a Môr y Canoldir efallai rhwng 11,000 CC
a 2000 CC. Roedd y bywyd hwn, a ddarlunnir yn gyfoethog ym mhaentiadau
Tassili n'Ajjer
, yn amlwg yn Algeria tan y cyfnod clasurol. Ymunodd y gymysgedd o bobloedd Gogledd Affrica yn y pen draw â phoblogaeth frodorol benodol a ddaeth i gael eu galw'n
Berberiaid
, sef pobloedd brodorol gogledd Affrica.
Adfeilion
Rhufeinig
hynafol Timgadon y stryd sy'n arwain at Fwa Trajan
O'u prif ganolfan pŵer yn
Carthago
, ehangodd a sefydlodd y Carthaginiaid aneddiadau bach ar hyd arfordir Gogledd Affrica; erbyn 600 CC, roedd y
Ffenicia
yn Tipasa, i'r dwyrain o Cherchell, Hippo Regius (
Annaba
fodern) a Rusicade (Skikda fodern). Roedd yr aneddiadau hyn yn gwasanaethu fel trefi marchnad yn ogystal ag angori'r genedl.
Wrth i bŵer Carthaginian dyfu, cynyddodd ei ddylanwad ar y boblogaeth frodorol yn ddramatig. Roedd gwareiddiad Berber wedi datblygu o fewn cyfnod lle roedd amaethyddiaeth, gweithgynhyrchu, masnach a threfniadaeth wleidyddol yn gefn i sawl gwladwriaeth. Tyfodd cysylltiadau masnach rhwng
Carthago
a'r Berberiaid, ond arweiniodd ehangu tiriogaethol hefyd at gaethiwo neu recriwtio milwrol rhai Berberiaid.
Masinissa
(c. 238–148 BC), brenin cyntaf Numidia
Erbyn dechrau'r
4g CC
, roedd Berberiaid yn ffurfio'r elfen unigol fwyaf o'r fyddin Carthaginaidd. Rhwng 241 a 238 CC yng "Ngwrthryfel yr Hurfilwyr", gwrthryfelodd milwyr Berber, ar ôl bod yn ddi-dâl yn dilyn trechu Carthago yn y
Rhyfel Pwnig Cyntaf
10
Fe lwyddon nhw i reoli llawer o diriogaeth Carthago yng Ngogledd Affrica, a buont yn bathu darnau arian yn dwyn yr enw 'Libya', a ddefnyddir yng Ngwlad Groeg i ddisgrifio brodorion Gogledd Affrica. Dirywiodd y wladwriaeth Carthaginaidd oherwydd i'r Rhufeiniaid eu trechu yn y
Rhyfeloedd Pwnig
11
Erbyn yr
ail ganrif CC
, roedd sawl teyrnas Berber fawr wedi eu sefydlu. Sefydlwyd dau ohonynt yn
Numidia
, y tu ôl i'r ardaloedd arfordirol a reolir gan Carthago. I'r gorllewin o Numidia gorweddai
Mauretania
, a oedd yn ymestyn ar draws Afon Moulouya ym
Moroco
heddiw i
Gefnfor yr Iwerydd
. Cyrhaeddwyd uchafbwynt gwareiddiad y Berberiaid yn ystod teyrnasiad
Masinissa
yn yr 2il ganrif CC.
Numidia
ynghyd â'r Aifft,
Rhufain
, a
Carthago
200 CC
Ar ôl marwolaeth Masinissa ym 148 CC, rhannwyd ac adunwyd teyrnasoedd y Berber sawl gwaith. Goroesodd llinell Masinissa tan 24 OC, pan atodwyd gweddill tiriogaeth y Berber i'r
Ymerodraeth Rufeinig
Roedd y tiroedd sy'n cynnwys Algeria heddiw, yn rhan o'r
Ymerodraeth Fysantaidd
. Yn y diagram dylunnir yr ymerodraeth yn 555 o dan
Justinian Fawr
yn ei hanterth ers cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol (ei deiliaid mewn pinc)
Am sawl canrif rheolwyd Algeria gan y Rhufeiniaid, a sefydlodd lawer o gytrefi yn y rhanbarth. Fel gweddill Gogledd Affrica, roedd Algeria yn un o ffynonellau bara'r Ymerodraeth Rufeinig, gan allforio grawnfwydydd a chynhyrchion amaethyddol eraill.
Symudodd
Fandaliaid
Germanaidd Geiseric
i Ogledd Affrica yn 429, ac erbyn 435 roedd Numidia arfordirol dan eu rheolaeth.
12
Ni wnaethant fwrw gwreiddiau yn y tiroedd hyn, fodd bynnag, gan fod llwythau lleol yn aflonyddu arnynt.
Yn ystod rheolaeth y Rhufeiniaid, dim ond y Bysantiaid, y Fandaliaid a'r Carthaginiaid oedd yr unig rai yng Ngogledd Affrica a barhaodd yn genedloedd annibynnol.
13
14
15
16
Fe wnaeth pobl Kabyle wrthsefyll y Rhufeiniaid mor lwyddiannus fel bod ganddyn nhw reolaeth a meddiant dros eu mynyddoedd hyd yn oed yn ystod concwest Arabaidd Gogledd Affrica.
17
18
Canol oesoedd
golygu
golygu cod
Mosg Mansourah, Tlemcen
Ar ôl gwrthwynebiad bychan gan y bobl leol, fe orchfygodd
Arabiaid
Mwslimaidd (o'r Umayyad Caliphate) Algeria ar ddechrau'r
8g
Cofeb Dihya yn Khenchela, Algeria
Trodd nifer fawr o'r Berberiaid brodorol tuag at
Islam
19
Ar ôl cwymp yr
Umayyad Caliphate
, daeth nifer o ymerodraethau lleol i'r amlwg, gan gynnwys ymerodraethau'r Rustamids, Aghlabids, Fatimids, Zirids, Hammadids, Almoravids,
Almohads
a'r Abdalwadid. Gadawodd y Cristnogion mewn tair ton: ar ôl y goncwest gychwynnol, yn y
10g
a'r
11g
. Cafodd yr olaf eu symud i
Sisili
gan y Normaniaid a bu farw'r ychydig oedd yn weddill yn y
14g
19
Yn ystod yr
Oesoedd Canol
, roedd Gogledd Affrica yn gartref i lawer o ysgolheigion, seintiau ac sofraniaid gan gynnwys
Jwda Ibn Quraysh
, y gramadegydd cyntaf i sôn am yr ieithoedd Semitaidd a'r Berber, y meistri Sufi mawr
Sidi Boumediene (Abu Madyan)
Sidi El Houari
, a'r Emirs
Abd Al Mu'min
ac Yāghmūrasen. Yn ystod yr amser hwn y daeth y
Fatimidiaid
neu blant Fatima, merch Muhammad, i'r Maghreb. Aeth y "Fatimidiaid" hyn ymlaen i sefydlu llinach hirhoedlog yn ymestyn ar draws y Maghreb, Hejaz a'r
Lefant
, gyda llywodraeth fewnol seciwlar, yn ogystal â byddin a llynges bwerus, a oedd yn cynnwys
Arabiaid
a Lefantiaid yn bennaf yn ymestyn o Algeria i'w prifddinas
Cairo
Gwnaeth gwladwriaeth Islamaidd Fatimid, a elwir hefyd yn Fatimid Caliphate ymerodraeth Islamaidd a oedd yn cynnwys Gogledd Affrica,
Sisili
Palestina
Gwlad yr Iorddonen
Libanus
Syria
yr Aifft
arfordir Môr Coch
Affrica, Tihamah,
Hejaz
ac
Yemen
20
21
Roedd Caliphates o Ogledd Affrica yn masnachu gydag ymerodraethau eraill, yn ogystal â bod yn rhan o rwydwaith o gefnogaeth a masnach cydffederal â gwladwriaethau Islamaidd eraill yn ystod y Cyfnod Islamaidd.
Fatimid Caliphate,
llinach Shia
Ismaili a oedd yn rheoli llawer o Ogledd Affrica, c. 960–1100
Caliphate
Berber Almohad ar ei fwyaf, c. 1212
Ehangwyd rheolaeth y Berberiaid dros yr holl Maghreb, rhan o Sbaen
22
ac yn fyr dros Sisili,
23
ac erbyn yr
11g
dim ond y Ziriaid a oedd yn parhau, ac yn rheoli Ifriqiya modern. Roedd y Zirids yn cydnabod goruchafiaeth caliphs Fatimid Cairo. Penderfynodd El Mu'izz, rheolwr Zirid ddod â'r gydnabyddiaeth hon i ben a datgan ei annibyniaeth.
24
25
Y Berberiaid a Chymru
golygu
golygu cod
Yn y
16g
a’r
17g
cododd
Syr Thomas Mostyn
o ardal Llandudno bedwar tŵr ar arfordir gogledd Cymru fel mannau gwylio, rhag ymosodiadau y Berberiaid (neu'r 'Barbari') o
Ogledd Affrica
a'r Twrc. Dyma'r pedwar: Tŵr Bryniau (neu 'Cadair Freichiau Nain'), Cadair y Rheithor (Llandrillo yn Rhos), Bryn Tŵr (Abergele) a Thŵr Chwitffordd.
Byddai'r
Almohads sy'n
tarddu o Foroco heddiw, er iddo gael ei sefydlu gan ddyn sy'n tarddu o Algeria
26
o'r enw Abd al-Mu'min yn cymryd rheolaeth dros y Maghreb yn fuan. Yn ystod Ymerodraeth Almohad, llwyth Abd al-Mu'min, y Koumïa, oedd prif gefnogwyr yr orsedd a chorff pwysicaf yr ymerodraeth.
27
Gan drechu’r Ymerodraeth Almoravid a chymryd rheolaeth dros Moroco yn 1147,
28
fe wnaethant wthio i mewn i Algeria ym 1152, gan gymryd rheolaeth dros Tlemcen, Oran, ac Algiers,
29
a chymeryd rheolaeth oddi wrth yr Arabiaid Hilian, ac erbyn yr un flwyddyn fe wnaethant drechu Hammadidau a oedd yn rheoli Dwyrain Algeria.
29
Oes Otomanaidd
golygu
golygu cod
Teyrnas Zayyanid yn Tlemcen yn y bymthegfed ganrif a'i chymdogion
Yn 1516 symudodd y preifatiriaid Otomanaidd Aruj a
Hayreddin Barbarossa
, a oedd yn frodyr i'w gilydd, ac a oedd yn gweithredu'n llwyddiannus o dan yr Hafsids, eu canolfan i Algiers. Llwyddon nhw i orchfygu Jijel ac Algiers o'r
Sbaenwyr
gyda chymorth y bobl leol, ond yn y pen draw, llofruddiodd y brodyr yr uchelwr lleol Salim al-Tumi a chymryd rheolaeth dros y ddinas a'r rhanbarthau cyfagos. Pan laddwyd Aruj ym 1518 yn ystod ei oresgyniad o Tlemcen, olynodd Hayreddin ef fel cadlywydd milwrol Algiers. Rhoddodd y
swltan Otomanaidd
fintai o ryw 2,000 o
Janisariaid
iddo. Gyda chymorth y grym hwn ac Algeriaid brodorol, fe
orchfygodd Hayreddin
yr ardal gyfan rhwng Cystennin ac Oran.
30
31
Barbarossa Hayreddin
Gwladychu Ffrengig (1830–1962)
golygu
golygu cod
Brwydr Somah ym 1836
Goresgynnodd a daliodd y Ffrancwyr Algiers ym 1830.
32
33
Ysgrifennodd yr hanesydd Ben Kiernan ar goncwest Ffrainc ar Algeria: "Erbyn 1875, roedd y goncwest Ffrengig yn gyflawn. Roedd y rhyfel wedi lladd oddeutu 825,000 o Algeriaid brodorol er 1830."
34
Rhwng 1831 i 1851 roedd 92,329 o Ffrancwyr wedi marw mewn ysbyty a dim ond 3,336 wrth ymladd.
35
36
Cyrhaeddodd poblogaeth Algeria, a oedd oddeutu 2.9 miliwn ym 1872, bron i 11 miliwn ym 1960.
37
Roedd polisi Ffrainc yn seiliedig ar "wareiddio'r" wlad.
38
Daeth y fasnach gaethweision a môr-ladrad yn Algeria i ben yn dilyn concwest Ffrainc.
Achosodd cyfuniad o epidemigau trais ac afiechyd i'r boblogaeth frodorol o Algeria ostwng bron i draean rhwng 1830 a 1872.
39
40
Yn ystod yr amser hwn, dim ond y Kabyliaid a wrthwynebodd y Ffrancwyr; ni wladychwyd y Kabyliaid tan ar ôl gwrthryfel Mokrani ym 1871.
Emir Abdelkader
, arweinydd Algeria yn wrthryfelgar yn erbyn rheolaeth drefedigaethol Ffrainc, 1865
Yn ystod diwedd y
19g
a dechrau'r
20g
, roedd y gyfran Ewropeaidd bron yn un rhan o bump o boblogaeth Algeria. Nod llywodraeth Ffrainc oedd cymhathu Algeria yn rhan o Ffrainc, ac roedd hyn yn cynnwys buddsoddiadau addysgol sylweddol yn enwedig ar ôl 1900. Roedd y gwrthwynebiad diwylliannol a chrefyddol cynhenid yn fawr, ond cadwodd Algeria ei sgiliau unigol.
41
Yn ystod yr
Ail Ryfel Byd
, daeth Algeria dan
reolaeth Vichy
Ffrainc, cyn cael ei rhyddhau gan y
Cynghreiriaid
yn Operation Torch, a welodd y defnydd cyntaf o filwyr Americanaidd ar raddfa fawr yn
ymgyrch Gogledd Affrica
42
Yn raddol, arweiniodd anfodlonrwydd ymhlith y boblogaeth Fwslimaidd, a oedd heb statws gwleidyddol ac economaidd o dan y system drefedigaethol, at alwadau am fwy o ymreolaeth wleidyddol ac yn y pen draw annibyniaeth oddi wrth Ffrainc.
Ym mis Mai 1945, cafodd y gwrthryfel yn erbyn y goresgynwyr Ffrengig ei atal trwy'r gyflafan Sétif a Guelma. Daeth tensiynau rhwng y ddau grŵp i ben ym 1954, pan ddechreuodd digwyddiadau treisgar cyntaf yr hyn a elwid yn ddiweddarach yn
Rhyfel Algeria ar
ôl cyhoeddi'r Datganiad ar 1 Tachwedd 1954 . Mae haneswyr wedi amcangyfrif bod rhwng 30,000 a 150,000 o Harkiaid a'u dibynyddionteuluoedd wedi'u lladd gan y Front de Libération Nationale (FLN) neu gan
lynch
mobs yn Algeria.
43
Defnyddiodd yr FLN ymosodiadau taro-a-ffoi yn Algeria a Ffrainc fel rhan o'i ryfel, ac aeth Ffrainc ati'n ddidrugaredd i ddial arnyn nhw.
Arweiniodd y rhyfel at farwolaeth cannoedd ar filoedd o Algeriaid a chafwyd cannoedd o filoedd o anafiadau ar ben hynny. Mae haneswyr, fel
Alistair Horne
Raymond Aron
, yn nodi bod nifer gwirioneddol y meirwon rhyfel Mwslimaidd Algeria yn llawer mwy na'r amcangyfrifon FLN gwreiddiol a Ffrangeg swyddogol ond ei fod yn llai na'r 1 miliwn o farwolaethau a hawliwyd gan lywodraeth Algeria ar ôl annibyniaeth. Amcangyfrifodd Horne fod y rhai a anafwyd yn Algeria yn ystod y cyfnod o wyth mlynedd oddeutu 700,000.
44
Dadwreiddiodd y rhyfel fwy na 2 miliwn o Algeriaid.
45
Daeth y rhyfel yn erbyn rheolaeth Ffrainc i ben ym 1962, pan enillodd Algeria annibyniaeth lwyr yn dilyn cytundebau Evian Mawrth 1962 ac yna refferendwm annibyniaeth Gorffennaf 1962. Mae rhai'n amcangyfrif i dros 10 miliwn o Algeriaid farw yn ystod cyfnod trefedigaethol Ffrainc.
46
Rhyfel Cartref (1991-2002) ac wedi hynny
golygu
golygu cod
Cyflafanau dros 50 o bobl ym 1997–1998. Hawliodd y Grŵp Islamaidd Arfog (GIA) gyfrifoldeb am lawer ohonynt.
Daearyddiaeth
golygu
golygu cod
Mae'r
Sahara
, yr
Hoggar
a'r
mynyddoedd Atlas yn
cyfansoddi'r rhyddhad Algeriaidd.
Ers chwalu
Sudan yn
2011, a chreu
De Swdan
, Algeria fu'r wlad fwyaf yn Affrica, a Basn Môr y Canoldir. Mae ei rhan ddeheuol yn cynnwys cyfran sylweddol o'r
Sahara
. I'r gogledd, mae'r Tell Atlas ac Atlas y Sahara, ymhellach i'r de, yn ddwy set gyfochrog o fynyddoedd amlwg, a rhyngddynt mewnosodir gwastadeddau anferth ac ucheldiroedd. Mae'r ddau Atlas yn tueddu i uno yn nwyrain Algeria. Ceir hefyd fynyddoedd helaeth
Aures
a Nememcha yn meddiannu gogledd-ddwyrain Algeria ac maent yn ffinio gyda Tiwnisia. Y pwynt uchaf yw
Mynydd Tahat
sy'n 3,003 metr.
Hinsawdd a hydroleg
golygu
golygu cod
Cyrchfan sgïo Tikjda yng ngogledd Algeria
Yn y rhanbarth hwn, gall tymereddau anialwch ganol dydd fod yn boeth trwy gydol y flwyddyn. Ar ôl machlud haul, fodd bynnag, mae'r aer clir, sych yn caniatáu colli gwres yn gyflym, ac mae'r nosweithiau'n cŵl i oer. Cofnodir ystodau dyddiol enfawr mewn tymheredd.
Mae glawiad yn weddol doreithiog ar hyd rhan arfordirol Atlas y Tell, yn amrywio o 400 i 670 mm y flwyddyn, ac mae'r gwlybaniaeth yn cynyddu o'r gorllewin i'r dwyrain.
Mae dyodiad ar
ei drymaf yn rhan ogleddol dwyrain Algeria, lle mae'n cyrraedd cymaint â 1,000 milimetr (39.4 mod) mewn rhai blynyddoedd.
Yn bellach yn fewndirol, mae'r glawiad yn llai niferus. Mae gan Algeria hefyd ergs, neu dwyni tywod, rhwng mynyddoedd. Ymhlith y rhain, yn yr haf pan fydd gwyntoedd yn drwm, gall y tymheredd godi i 110 °F (43.3 °C) .
Hawliau Dynol
golygu
golygu cod
Mae Algeria wedi cael ei chategoreiddio gan
Freedom House
fel gwlad "sydd ddim yn rhydd" ers dechrau cyhoeddi graddfeydd o'r fath ym 1972, ac eithrio 1989, 1990, a 1991, pan gafodd y wlad ei labelu'n "rhannol rydd."
47
Yn Rhagfyr 2016,
cyhoeddodd Monitor Hawliau Dynol Ewro-Canoldir
adroddiad ynghylch
rhyddid y cyfryngau
yn Algeria. Eglurodd fod llywodraeth Algeria wedi gosod cyfyngiad ar
ryddid y wasg
, mynegiant, a'r hawl i arddangos baneri, protestio a chynull yn heddychlon yn ogystal â sensoriaeth o'r cyfryngau ac o wefannau. Yn aml, pan fo newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr yn beirniadu'r llywodraeth sy'n rheoli, mae trwyddedau rhai sefydliadau cyfryngau yn cael eu canslo.
48
Mae undebau llafur annibynnol ac ymreolaethol yn cael eu haflonyddu'n aml gan y llywodraeth, gyda llawer o arweinwyr yn cael eu carcharu a phrotestiadau yn cael eu hatal. Yn 2016 mae nifer o undebau, llawer ohonynt yn rhan o Brotestiadau Algeria 2010-2012, wedi cael eu dadgofrestru gan y llywodraeth.
49
50
51
Mae bod yn hoyw yn anghyfreithlon yn Algeria.
52
Gellir cosbi ymddygiad cyfunrywiol cyhoeddus gyda dwy flynedd yn y carchar.
53
Er gwaethaf hyn, mae 26% o Algeriaid yn credu y dylid derbyn gwrywgydiaeth, yn ôl yr arolwg a gynhaliwyd gan BBC News Arabic -Arab Barometer yn 2019. Mae Algeria'n derbyn LGBT yn fwy nag unrhyw wlad Arabaidd arall, lle cynhaliwyd yr arolwg.
54
Mae
Human Rights Watch
wedi cyhuddo awdurdodau Algeria o ddefnyddio
pandemig COVID-19
fel esgus i atal symudiadau a phrotestiadau o blaid democratiaeth yn y wlad, gan arwain at arestio pobl ifanc fel rhan o bellhau cymdeithasol.
55
Is-adrannau gweinyddol
golygu
golygu cod
Rhennir Algeria yn 58 talaith (
wilayas
), 553 dosbarth (
daïras
56
a 1,541 o fwrdeistrefi (
baladiyahs
). Enwir pob talaith, dosbarth a bwrdeistref ar ôl ei
sedd
, sef y ddinas fwyaf fel rheol.
Nodyn:Algeria Wilayas
Economi
golygu
golygu cod
Fe wnaeth ton o brotestiadau economaidd ym mis Chwefror a mis Mawrth 2011 ysgogi llywodraeth Algeria i gynnig mwy na $ 23 biliwn mewn grantiau cyhoeddus a chodiadau cyflog a budd-daliadau ôl-weithredol. Mae gwariant cyhoeddus wedi cynyddu 27% yn flynyddol yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Bydd rhaglen buddsoddiad cyhoeddus 2010-14 yn costio US $ 286 biliwn, a bydd 40% ohono'n mynd i ddatblygiad dynol.
57
Diolch i refeniw hydrocarbon cryf, mae gan Algeria glustog o $173 biliwn mewn cronfeydd arian tramor a chronfa sefydlogi hydrocarbon fawr. Yn ogystal, mae dyled allanol Algeria yn isel iawn ar oddeutu 2% o'r CMC.
58
Mae'r economi yn parhau i fod yn ddibynnol iawn ar gyfoeth hydrocarbon, ac, er gwaethaf cronfeydd wrth gefn cyfnewid tramor uchel (UD $178 biliwn, sy'n cyfateb i dair blynedd o fewnforion), mae twf gwariant cyfredol yn gwneud cyllideb Algeria yn fwy agored i risg refeniw hydrocarbon is hirfaith.
59
Nid yw Algeria wedi ymuno â'r
WTO
, er gwaethaf sawl blwyddyn o drafodaethau.
60
Olew ac adnoddau naturiol
golygu
golygu cod
Piblinellau ar draws Algeria
Mae Algeria, y mae ei heconomi yn ddibynnol ar betroliwm, wedi bod yn aelod o
OPEC
ers 1969. Mae'n cynhyrchu oddeutu 1.1 miliwn o gasgenni y dydd o olew crai, ond mae hefyd yn gynhyrchydd ac allforiwr
nwy
o bwys, gyda chysylltiadau pwysig ag Ewrop.
61
Hydrocarbonau yw asgwrn cefn yr economi ers amser maith, gan gyfrif am oddeutu 60% o refeniw'r gyllideb, 30% o
CMC
, a thros 95% o enillion allforio. Mae gan Algeria y 10fed gronfa fwyaf o nwy naturiol yn y byd a hi yw'r chweched allforiwr nwy mwyaf . Adroddodd Gweinyddiaeth Gwybodaeth Ynni'r UD fod gan Algeria 160 triliwn troedfedd ciwbig o gronfeydd wrth gefn o nwy naturiol.
62
Mae hefyd yn 16eg mwyaf mewn cronfeydd olew.
58
Ymchwil a ffynonellau ynni amgen
golygu
golygu cod
Mae Algeria wedi buddsoddi amcangyfrif o 100 biliwn o dinars tuag at ymchwil. Pwrpas y rhaglen hon yw hyrwyddo cynhyrchu
ynni amgen
, yn enwedig
egni solar
gwynt
63
Amcangyfrifir bod gan Algeria y potensial ynni solar mwyaf o wledydd
Môr y Canoldir
, felly mae'r llywodraeth wedi ariannu creu parc gwyddoniaeth solar yn Hassi R'Mel. Ar hyn o bryd, mae gan Algeria 20,000 o athrawon ymchwil mewn amryw brifysgolion a thros 780 o labordai ymchwil, gyda nodau wedi'u gosod gan y wladwriaeth i ehangu i 1,000. Ar wahân i ynni'r haul, mae meysydd ymchwil yn Algeria yn cynnwys telathrebu gofod a lloeren, ynni niwclear ac ymchwil feddygol.
Twristiaeth
golygu
golygu cod
Am hir, roedd diffyg cyfleusterau wedi rhwystro datblygiad y sector
twristiaeth
yn Algeria, ond ers 2004 gweithredwyd strategaeth datblygu twristiaeth eang gan arwain at adeiladu llawer o
westai
o safon fodern uchel.
Mae sawl
Safle
Treftadaeth y Byd UNESCO
yn Algeria
64
gan gynnwys
Al Qal'a o Beni Hammad
, prifddinas gyntaf ymerodraeth Hammadid;
Tipasa
, tref Ffenicaidd a thref Rufeinig ddiweddarach; a Djémila a Timgad, y ddau yn adfeilion
Rhufeinig;
Valley M'Zab, dyffryn calchfaen sy'n cynnwys trefol mawr
gwerddon
; a
Casbah
of Algiers, tref hanesyddol, bwysig. Yr unig
Safle Treftadaeth y Byd
naturiol yw'r
Tassili n'Ajjer
, cadwyn o fynyddoedd.
Trafnidiaeth
golygu
golygu cod
Roedd y brif briffordd a oedd yn cysylltu'r Moroco â ffin Tiwnisia yn rhan o brosiect Priffyrdd Cairo-Dakar
Rhwydwaith ffyrdd Algeria yw'r dwysaf yn Affrica; amcangyfrifir bod ei hyd yn 180,000 km (110,000 mi) o briffyrdd, gyda mwy na 3,756 o strwythurau a chyfradd palmant o 85%. Mae'r rhwydwaith hwn yn cael ei ategu gan Briffordd y Dwyrain-Gorllewin, prosiect seilwaith mawr sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd.
Mae Priffordd Traws-Sahara hefyd yn croesi Algeria a chefnogir y ffordd hon gan lywodraeth Algeria i gynyddu masnach rhwng y chwe gwlad a groeswyd: Algeria,
Mali
Niger
Nigeria
Chad
, a
Tiwnisia
Demograffeg
golygu
golygu cod
Y boblogaeth hanesyddol
Blwyddyn
Pobl.
±%
1856
2,496
1872
2,416
−3.2%
1886
3,752
+55.3%
1906
4,721
+25.8%
1926
5,444
+15.3%
1931
5,902
+8.4%
1936
6,510
+10.3%
1948
7,787
+19.6%
1954
8,615
+10.6%
1966
12,022
+39.5%
1977
16,948
+41.0%
1987
23,051
+36.0%
1998
29,113
+26.3%
2008
34,080
+17.1%
2013
37,900
+11.2%
Mae gan Algeria boblogaeth o amcangyfrif o 44 miliwn, y mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn
Arabaidd-Berber
ethnig.
58
65
66
Ar ddechrau'r 20g, roedd ei phoblogaeth oddeutu pedair miliwn.
67
Mae tua 90% o Algeriaid yn byw yn yr ardal ogleddol, arfordirol; mae trigolion anialwch y Sahara wedi'u crynhoi'n bennaf mewn
gwerddon
, er bod tuag 1.5 miliwn yn parhau i fod yn
grwydrol
neu'n rhannol grwydrol. Yn y 2010au roedd 28.1% o Algeriaid o dan 15 oed.
58
Ieithoedd
golygu
golygu cod
Arwyddion ym Mhrifysgol Tizi Ouzou mewn tair iaith:
Arabeg
Berber
, a
Ffrangeg
Arabeg Safonol Fodern
Berber
yw'r ieithoedd swyddogol.
68
Arabeg Algeriaidd (Darja) yw'r iaith a ddefnyddir gan fwyafrif gan y boblogaeth. Mae Arabeg Algeriaidd wedi'i drwytho'n helaeth â benthyciadau o Ffrangeg a Berber.
Mae Berber wedi cael ei chydnabod fel "iaith genedlaethol" gan welliant cyfansoddiadol ar 8 Mai 2002.
69
Addysgir drwy gyfrwng y Kabyleg, y brif iaith Berber, ac mae'n rhannol gyd-swyddogol mewn rhannau o
Kabylie
. Ym mis Chwefror 2016, pasiodd cyfansoddiad Algeria benderfyniad a wnaeth Berber yn iaith swyddogol ochr yn ochr ag Arabeg.
Daeth Algeria i'r amlwg fel gwladwriaeth ddwyieithog ar ôl 1962.
70
Mae Arabeg Algeriaidd hefyd yn cael ei siarad gan oddeutu 72% o'r boblogaeth a Berber 27-30%.
71
Diwylliant
golygu
golygu cod
Cerddorion Algeriaidd yn Tlemcen, Otomanaidd Algeria . Paentiad gan Bachir Yellès
Mae llenyddiaeth ddiweddar Algeria, wedi'i rhannu rhwng Arabeg,
Tamazight
Ffrangeg
, wedi cael ei dylanwadu'n gryf gan hanes diweddar y wlad.
Mae nofelwyr enwog
yr 20g yn cynnwys Mohammed Dib,
Albert Camus
Kateb Yacine
ac
Ahlam Mosteghanemi
tra bod
Assia Djebar yn
cael ei gyfieithu'n eang. Ymhlith nofelwyr pwysig yr
1980au
roedd
Rachid Mimouni
, is-lywydd diweddarach
Amnest Rhyngwladol
, a Tahar Djaout, a lofruddiwyd gan
grŵp Islamaidd
ym 1993 am ei farn seciwlar.
72
Mae Malek Bennabi a
Frantz Fanon
yn nodedig am eu gwaith ar
ddadwaddoliad
Ganwyd Awstin o Hippo
yn Tagaste (
Souk Ahras
heddiw); ac
Ibn Khaldun
, er iddo gael ei eni yn
Nhiwnis
, ysgrifennodd y Muqaddima wrth aros yn Algeria. Nodir yn eang weithiau teulu Sanusi yn y cyfnod cyn-drefedigaethol, ac
Emir Abdelkader
a Sheikh Ben Badis yn y cyfnod trefedigaethol. Ganwyd yr awdur Lladin Apuleius ym Madaurus (Mdaourouch), yn yr hyn a ddaeth yn Algeria yn ddiweddarach.-
Celf
golygu
golygu cod
Arlunydd a sylfaenydd ysgol baentio Algeriaidd: Mohammed Racim
Ceisiodd paentwyr Algeraidd, fel
Mohamed Racim
neu Baya, adfywio gorffennol mawreddog Algeria cyn gwladychu Ffrainc, ar yr un pryd ag y maent wedi cyfrannu at warchod gwerthoedd Algeria. Yn yr un modd, maeMohamed Temam, Abdelkhader Houamel hefyd wedi dychwelyd trwy'r gelf at olygfeydd o hanes ac arferion y wlad cyn dyfodiad y Ffrancwyr. Ymddangosodd artistiaid newydd eraill gan gynnwys
M'hamed Issiakhem
, Mohammed Khadda a Bachir Yelles, paentwyr Algeriaidd, gan gefnu ar baentio clasurol ffigurol i ddod o hyd i ffyrdd darluniadol newydd.Mae Mohammed Khadda
73
a M'hamed Issiakhem wedi bod yn nodedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
73
Cerddoriaeth
golygu
golygu cod
El Hadj M'Hamed El Anka
Mae cerddoriaeth Chaâbi yn genre cerddorol nodweddiadol Algeriaidd a nodweddir gan rythmau penodol ac o Qacidate (cerddi poblogaidd) mewn tafodiaith Arabeg. Meistr diamheuol y gerddoriaeth hon yw
El Hadj M'Hamed El Anka
Mae arddulliau cerddoriaeth werin yn cynnwys
cerddoriaeth Bedouin
, wedi'i nodweddu gan y caneuon barddonol sy'n seiliedig ar y
kacida
hir (cerddi); Mae cerddoriaeth
Kabyle
, wedi'i seilio ar repertoire cyfoethog sy'n farddoniaeth a hen chwedlau a basiwyd o genhedlaeth i genedlaeth; Cerddoriaeth Shawiya, llên gwerin o ardaloedd amrywiol ym Mynyddoedd Aurès. Mae arddull gerddoriaeth Rahaba yn unigryw i'r Aures.
Mae Souad Massi
yn gantores werin Algeriaidd nodedig. Ymhlith cantorion Algeriaidd eraill y diaspora mae Manel Filali yn
yr Almaen
a Kenza Farah yn Ffrainc. Mae cerddoriaeth Tergui yn cael ei chanu mewn
ieithoedd Tuareg yn
gyffredinol, cafodd Tinariwen lwyddiant byd-eang. Yn olaf, mae'r gerddoriaeth staïfi wedi tarddu o Sétif ac mae'n parhau i fod yn arddull unigryw o'i math.
Coginio
golygu
golygu cod
Salad wedi'i seilio ar Bulgur
Mae bwyd Algeria yn gyfoethog ac amrywiol. Ystyriwyd y wlad fel "ysgubor Rhufain", ac fel y nodwyd, dyma un o'r rhesymau pam y daeth y Rhufeiniaid i'r wlad. Mae'n cynnig seigiau amrywiol, yn dibynnu ar y rhanbarth ac yn ôl y tymhorau. Mae'r bwyd yn defnyddio grawnfwydydd fel y prif gynhyrchion, gan eu bod bob amser yn cael eu cynhyrchu, gyda digonedd yn y wlad. Ni cheir yr un dysgl lle nad oes grawnfwydydd arni!
Yn aml, defnyddir cig, pysgod a llysiau. Ymhlith y prydau hysbys mae: cwscws,
74
chorba
, rechta, chakhchoukha, berkoukes,
shakshouka
, mthewem, chtitha, mderbel, Dolma, brik neu bourek, garantita, lham'hlou, ac ati. Defnyddir selsig Merguez yn helaeth yn Algeria, ond mae'n wahanol, yn dibynnu ar y rhanbarth ac ar y sbeisys ychwanegol.
Mae cacennau'n cael eu marchnata ac maen nhw i'w cael mewn dinasoedd naill ai yn Algeria, yn Ewrop neu yng Ngogledd America. Fodd bynnag, mae cacennau traddodiadol hefyd yn cael eu gwneud gartref, gan ddilyn arferion y teulu. Ymhlith y cacennau hyn, mae Tamina, Baklawa, Chrik, Garn logzelles, Griouech, Kalb el-louz, Makroud, Mbardja, Mchewek, Samsa, Tcharak, Baghrir, Khfaf, Zlabia, Aarayech, Ghroubiya a Mghergchette.
Mae crwst Algeriaidd hefyd yn cynnwys cacennau Tiwnisia neu Ffrengig. Ceir cynhyrchion bara wedi'u marchnata a'u gwneud gartref gan gynnwys mathau fel Kessra neu Khmira neu Harchaya. Mae prydau traddodiadol eraill a werthir yn aml fel bwyd stryd yn cynnwys mhadjeb neu mahjouba, karantika, doubara, chakhchoukha, hassouna, a t'chicha.
Gweler hefyd
golygu
golygu cod
Yr Emir Abd El-Kader, arwr cenedlaethol a llenor
Gogledd Affrica
Maghreb
Undeb y Maghreb Arabaidd
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
LLC, Forbidden Fruits (30 Ionawr 2013).
iAfrica – Ancient History UNTOLD
(yn Saesneg). Forbidden Fruit Books LLC.
Bazina, Abdullah Salem (2010).
The spread of Islam in Sub-Saharan in Africa
(yn Arabeg). Al Manhal.
ISBN
978-9796500024
. Cyrchwyd
25 Tachwedd
2018
al-Idrisi, Muhammad (12th century)
Nuzhat al-Mushtaq
Abderahman, Abderrahman (1377).
History of Ibn Khaldun – Volume 6
Sahnouni, Mohamed; de Heinzelin, Jean.
"The Site of Ain Hanech Revisited: New Investigations at this Lower Pleistocene Site in Northern Algeria"
(PDF)
. Journal of Archaeological Science. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 10 Mai 2013
. Cyrchwyd
14 Ionawr
2013
"Research at Ain Hanech, Algeria"
. Stoneageinstitute.org. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 12 Gorffennaf 2012
. Cyrchwyd
14 Ionawr
2013
Eric Delson; Ian Tattersall; John Van Couvering; Alison S. Brooks (2004).
Encyclopedia of Human Evolution and Prehistory: Second Edition
. Routledge. t. 32.
ISBN
978-1-135-58228-9
Henn, Brenna M.; Botigué, Laura R.; Gravel, Simon; Wang, Wei; Brisbin, Abra; Byrnes, Jake K.; Fadhlaoui-Zid, Karima; Zalloua, Pierre A. et al. (12 Ionawr 2012).
"Genomic Ancestry of North Africans Supports Back-to-Africa Migrations"
PLOS Genetics
(1): e1002397.
doi
10.1371/journal.pgen.1002397
PMC
3257290
PMID
22253600
Brett, Michael; Fentress, Elizabeth (1997). "Berbers in Antiquity".
The Berbers
Wiley-Blackwell
ISBN
978-0-631-20767-2
Christelle Fischer-Bovet (2014).
Army and Society in Ptolemaic Egypt
. Cambridge University Press. t. 91.
ISBN
978-1-107-00775-8
Jackson J. Spielvogel (2014).
Western Civilization: Volume A: To 1500
. Cengage Learning. t. 156.
ISBN
978-1-285-98299-1
Cameron, Averil; Ward-Perkins, Bryan (2001). "Vandal Africa, 429–533".
The Cambridge Ancient History
14
. Cambridge University Press. tt. 124–126.
ISBN
978-0-521-32591-2
The Middle East and North Africa 2003
. Psychology Press.
ISBN
9781857431322
Walmsley, Hugh Mulleneux (1 Ebrill 1858).
"Sketches of Algeria During the Kabyle War"
. Chapman and Hall.
Wysner, Glora M. (30 Ionawr 2013).
The Kabyle People
. Read Books Ltd.
ISBN
9781447483526
The Encyclopedia Americana
. Grolier. 1 Ebrill 1990.
ISBN
9780717201211
"The art journal London"
. Virtue. 1 Ebrill 1865.
Field, Henry Martyn (1 Ebrill 1893).
"The Barbary Coast"
. C. Scribner's Sons.
19.0
19.1
Jonathan Conant, Staying Roman, 2012, pp. 364–365
ISBN
978-0-521-19697-0
"Qantara"
. Qantara-med.org. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 9 Hydref 2013
. Cyrchwyd
13 Medi
2013
"Qantara – Les Almoravides (1056–1147)"
. Qantara-med.org. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 21 Medi 2013
. Cyrchwyd
13 Medi
2013
The Zīrids of Granada
Andrew Handler
University of Miami Press, 1974
The Cambridge History of Africa, Volume 3
- J.D. Fage
Iliffe, John (2017-07-13).
Africans: The History of a Continent
(yn Saesneg). Cambridge University Press.
ISBN
978-1-107-19832-6
Meredith, Martin (2014-09-11).
Fortunes of Africa: A 5,000 Year History of Wealth, Greed and Endeavour
(yn Saesneg). Simon and Schuster.
ISBN
978-1-4711-3546-0
Singh, Nagendra Kr; Khan, Abdul Mabud (2001).
Encyclopaedia of the World Muslims: Tribes, Castes and Communities
(yn Saesneg). Global Vision.
ISBN
978-81-87746-05-8
du moyen age
Louis Cibrario
Libraire de Guillaumin et C.ie
Robinson, Neal (1999).
Islam, a Concise Introduction
(yn Saesneg). Georgetown University Press.
ISBN
978-0-87840-224-3
29.0
29.1
Jeff Huebner, "Al Qal'a of Beni Hammad (M'sila, Algeria)" in
Middle East and Africa: International Dictionary of Historic Places
(Vol. 4) (eds.
"Algeria – Ottoman Rule"
. Country Studies. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 14 Hydref 2012
. Cyrchwyd
4 Ionawr
2013
Mikaberidze, Alexander (2011).
Conflict and Conquest in the Islamic World: A Historical Encyclopedia, Volume 1
. ABC-CLIO. t. 847.
"Background Note: Algeria"
U.S. Department of State
. Cyrchwyd
24 Mehefin
2017
Horne, Alistair (2006).
A Savage War of Peace: Algeria 1954–1962
. New York, NY: NYRB Classics. tt.
29
–30.
ISBN
978-1-59017-218-6
Kiernan, Ben (2007).
Blood and Soil: A World History of Genocide and Extermination from Sparta to Darfur
. Yale University Press. t.
374
ISBN
978-0-300-10098-3
. Cyrchwyd
21 Mai
2017
Bennoune, Mahfoud (2002).
The Making of Contemporary Algeria, 1830–1987
. t. 42.
ISBN
978-0-521-52432-2
"Had planning been better (barracks, hospitals, medical services), the drain on men would have been miniscule [
sic
]: it has been calculated that between 1831 and 1851, 92,329 died in hospital, and only 3,336 in battle."
Lahmeyer, Jan (11 Hydref 2003).
"Algeria (Djazaïria) historical demographic data of the whole country"
Population Statistics
. populstat.info. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 18 Gorffennaf 2012
. Cyrchwyd
9 Mehefin
2012
Ruedy, John Douglas (2005).
Modern Algeria: The Origins And Development of a Nation
. Indiana University Press. t. 103.
ISBN
978-0-253-21782-0
. Cyrchwyd
20 Mehefin
2015
Sowerwine, Charles (2018).
France since 1870
. t. 37.
ISBN
9781137406118
dolen farw
Ricoux, René (1880).
La démographie figurée de l'Algérie: étude statistique des...
The figurative demographics of Algeria
]. G. Masson. tt. 260–261
. Cyrchwyd
14 Chwefror
2013
Baten, Jörg (2016).
A History of the Global Economy. From 1500 to the Present
. Cambridge University Press. t. 220.
ISBN
9781107507180
United States Military Academy. Department of Military Art and Engineering (1947).
The War in North Africa Part 2--The Allied Invasion
. West Point, NY: Department of Military Art and Engineering, United States Military Academy. tt. 4–5.
"French 'Reparation' for Algerians"
BBC News
. 6 December 2007. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 20 Ebrill 2010
. Cyrchwyd
16 Tachwedd
2009
Horne, Alistair (1978).
A Savage War of Peace
. t.
538
ISBN
978-0-670-61964-1
Windrow, Martin (1997-11-15).
The Algerian War 1954–62
. t. 13.
ISBN
1-85532-658-2
"France's colonial-era crimes 'unforgotten' in Algeria"
aa.com.tr
"Freedom in the World"
Freedom House
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Ionawr 2013
. Cyrchwyd
19 Ionawr
2013
Monitor, Euro-Med (December 2016).
"Algeria must stop crushing dissent by imprisoning journalists and activists"
Euro-Mediterranean
(yn Saesneg). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2 Chwefror 2017
. Cyrchwyd
21 Mai
2017
Izouaouen, Noreddine (4 December 2017).
"Algérie : Dissolution du Snateg, le secrétaire général conteste"
Maghreb Emergent
(yn Ffrangeg). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 15 Mawrth 2018.
"Le Snategs dénonce et décide de porter plainte | Le Matin d'Algérie"
Le Matin d'Algérie
(yn Ffrangeg). Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 15 Mawrth 2018
. Cyrchwyd
15 Mawrth
2018
"Algérie : Les droits des travailleurs bafoués"
Human Rights Watch
(yn Ffrangeg). 27 Mai 2014. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 21 Ebrill 2017
. Cyrchwyd
15 Mawrth
2018
"Here are the 10 countries where homosexuality Mai be punished by death"
The Washington Post
. 16 Mehefin 2016. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 11 Tachwedd 2016
. Cyrchwyd
21 Mai
2017
"2010 Human Rights Report: Algeria"
US Department of State
. Cyrchwyd
24 Mehefin
2017
"Are Arabs turning their backs on religion?"
(yn Saesneg). 2019-06-24
. Cyrchwyd
17 Gorffennaf
2021
"During Pandemic, Algeria Tightens Vise on Protest Movement"
Human Rights Watch
. Cyrchwyd
29 Ebrill
2020
"Wildfire Management Policies in Algeria: Present and Future Needs1,2"
(PDF)
"Algeria"
. African Economic Outlook. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 26 Mawrth 2013
. Cyrchwyd
6 Ionawr
2013
58.0
58.1
58.2
58.3
"The World Factbook – Algeria"
. Central Intelligence Agency. 4 Rhagfyr 2013. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2021-01-04
. Cyrchwyd
24 Rhagfyr
2013
"Algeria: 2011 Article IV Consultation"
(PDF)
. IMF. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 11 Mawrth 2014
. Cyrchwyd
6 Ionawr
2013
"Doing Business in Algeria"
. Embassy of the United States Algiers, Algeria. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 December 2012.
"OPEC Bulletin 8-9/12"
. t. 15. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 24 December 2013
. Cyrchwyd
6 Ionawr
2013
"Country Comparison: Natural Gas – Proved Reserves"
. Cia.gov. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 7 Mawrth 2017
. Cyrchwyd
17 Ionawr
2013
"Archived copy"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 1 Tachwedd 2016
. Cyrchwyd
31 Hydref
2016
CS1 maint: archived copy as title (
link
UNESCO.
"UNESCO World Heritage Centre"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 19 Medi 2011
. Cyrchwyd
25 Medi
2011
"Algérie a atteint 40,4 millions d'habitants (ONS)"
. ons. 17 Ebrill 2013. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 5 Rhagfyr 2013
. Cyrchwyd
24 Rhagfyr
2013
Arredi, Barbara; Poloni, Estella S.; Paracchini, Silvia; Zerjal, Tatiana; Dahmani, M. Fathallah; Makrelouf, Mohamed; Vincenzo, L. Pascali; Novelletto, Andrea et al. (7 Mehefin 2004).
"A Predominantly Neolithic Origin for Y-Chromosomal DNA Variation in North Africa"
Am. J. Hum. Genet.
75
(2): 338–45.
doi
10.1086/423147
PMC
1216069
PMID
15202071
"Algeria – Population"
. Library of Congress Country Studies. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 13 Mehefin 2011
. Cyrchwyd
17 Ionawr
2013
Constitution of Algeria
"L'Algérie crée une académie de la langue amazigh"
. Magharebia.com. 2 Mehefin 2006. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 16 Chwefror 2011.
Dargin, Justin (19 Tachwedd 2008).
"Algeria's Liberation, Terrorism, and Arabization"
. blogs.nytimes.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 10 Mai 2013.
Leclerc, Jacques (5 Ebrill 2009).
"Algérie: Situation géographique et démolinguistique"
L'aménagement linguistique dans le monde
(yn Ffrangeg).
Université Laval
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 24 Ionawr 2010
. Cyrchwyd
8 Ionawr
2010
"Tahar Djaout"
. French Publishers' Agency. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 20 Mehefin 2017
. Cyrchwyd
17 Ionawr
2013
73.0
73.1
"Mohammed Khadda"
. Khadda.com. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2 Ebrill 2013
. Cyrchwyd
18 Ionawr
2013
"Luce Ben Aben, Moorish Women Preparing Couscous, Algiers, Algeria"
World Digital Library
. 1899. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Medi 2013
. Cyrchwyd
26 Medi
2013
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
People's Democratic Republic of Algeria
Official government website
Portal of the First Ministry
Archifwyd
2015-08-02 yn y
Peiriant Wayback
Portal of the First Ministry
Algeria
Archifwyd
2021-01-04 yn y
Peiriant Wayback
The World Factbook
(Central Intelligence Agency)
Algeria profile
from the BBC News
Algeria Atlas Map
(PDF)
(Map). United Nations High Commissioner for Refugees (UNHCR). Ebrill 2007. Archifwyd o'r
gwreiddiol
(PDF)
ar 9 December 2016
. Cyrchwyd
9 Rhagfyr
2016
ency education
Archifwyd
2020-07-21 yn y
Peiriant Wayback
ency education
Key Development Forecasts for Algeria
from International Futures
EU Neighbourhood Info Centre: Algeria
gw
sg
go
Y Cynghrair Arabaidd
Aelodau
Yr Aifft
Algeria
Bahrain
Catar
Y Comoros
Coweit
Yr Emiradau Arabaidd Unedig
Iemen
Gwlad Iorddonen
Irac
Jibwti
Libanus
Libia
Mawritania
Moroco
Oman
Palesteina
Sawdi Arabia
Somalia
Swdan
Syria
Tiwnisia
Arsyllwyr
Eritrea
Feneswela
India
gw
sg
go
Gwledydd
y Môr Canoldir
Yr Aifft
Albania
Algeria
Bosnia a Hertsegofina
Croatia
Cyprus
Yr Eidal
Ffrainc
Gwlad Groeg
Israel
Libanus
Libia
Malta
Monaco
Montenegro
Moroco
Palesteina
Sbaen
Slofenia
Syria
Tiwnisia
Twrci
Wiciadur
Chwiliwch am
Algeria
yn
Wiciadur
Wedi dod o "
Categorïau
CS1 Arabeg-language sources (ar)
Algeria
Gwledydd Affrica
Aelod-wladwriaethau'r Cenhedloedd Unedig
Aelod-wladwriaethau'r Cynghrair Arabaidd
Aelod-wladwriaethau'r Undeb Affricanaidd
Aelod-wladwriaethau OPEC
Gwledydd a thiriogaethau Ffrangeg
Gwledydd a thiriogaethau Arabeg
Gweriniaethau
Categorïau cudd:
CS1 Saesneg-language sources (en)
CS1 Ffrangeg-language sources (fr)
CS1 maint: archived copy as title
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen lle Wicidata
Erthyglau sy'n cynnwys testun di-Gymraeg
Erthyglau sy'n cynnwys testun Arabeg
Webarchive template wayback links
Pages using the Kartographer extension
Algeria
Ychwanegu pwnc
US