Fy mhrofiad yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol < CARDIFF MET BLOGS APPLY THROUGH CLEARING Fy mhrofiad yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol February 29, 2024 Ioan Evans BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Chwaraeon Fy enw i yw Ioan Evans ac rwyf ar hyn o bryd yn astudio’r cwrs BSc (Anrh) Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) ym Met Caerdydd.  Rhaid cyfaddef trwy gydol fy amser yn yr ysgol doeddwn i ddim yn sicr beth roeddwn i eisiau gwneud ar ôl gadael yr ysgol. Roedd gen i syniad o fynd i’r brifysgol ond yn ansicr ar gwrs a lleoliad. Ar ôl edrych ar nifer o gyrsiau chwaraeon mewn prifysgolion gwahanol, y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) oedd yn sefyll allan. Rwyf yn byw yn Aberdâr yn Ne Cymru, ac felly ddim yn ardal sydd yn defnyddio’r iaith Gymraeg. Fel canlyniad, ar ôl ysgol doedd dim llawer o gyfleoedd i mi gyfathrebu a thrafod yn y Gymraeg. Rhoddodd y cwrs AChAG gyfle i mi barhau defnyddio’r iaith Gymraeg. Dyma oedd fy mhrif reswm i astudio’r cwrs AChAG gan roeddwn yn ofni byswn i’n colli’r gallu i drafod Cymraeg yn rhugl ac i safon uchel. Ar ôl trafod gydag athrawon am y cwrs darganfyddais nifer o fuddion arall o astudio‘r cwrs trwy’r Gymraeg. Rhai o’r prif fanteision i mi oedd dysgu a defnyddio’r un derminoleg a ddefnyddiais trwy gydol ysgol, siawns gwell o gael swydd ar ôl graddio a hefyd y cyfle i gael cymorth ariannol. Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Wrth astudio trwy gyfrwng y Gymraeg mae siawns o ennill ysgoloriaeth o £500 neu £1000 y flwyddyn, trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyflwynais gais a derbyniais yr ysgoloriaeth am £500. Fel diwrnod Nadolig yw’r unig ffordd gellir disgrifio’r dydd ble derbyniais y £500! I rai bydd £500 yn swnio’n lot, i eraill bydd yn arian poced, ond i unrhyw sydd yn y brifysgol, mae wir yn cael effaith enfawr. Bywyd ym Mhrifysgol ar y cwrs AChAG Os ydych fel fi ac yn hoffi derbyn llawer o gymorth a sylw academaidd, mae’r cwrs AChAG yn arbennig. Gan fod dim mwy na 15 person ar ein cwrs mae yna lawer o gyfle i dderbyn adborth a help personol gan ein darlithwyr a thiwtoriaid. Gan fod criw bach, gellir creu perthnasau llawer gwell gyda’r darlithwyr ac eich cyd-ddisgyblion. Manteisiwch ar hyn gan ei fod yn gwella eich profiad academaidd a cymdeithasol yn y brifysgol. Rwyf yn chwaraewr rygbi ond wedi cael anaf am y ddau dymor chwaraeon mynychwyd hyd at hyn ym Met. Er gwaethaf hyn, mae’r ddwy flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gofiadwy i ddweud y lleiaf. Mae’r ochr gymdeithasol chwaraeon ym Met Caerdydd yn ail i ddim. Gyda nifer enfawr o chwaraeon a chymdeithasau gwahanol, maent yn gyfle enfawr i gwrdd â phobl newydd a mwynhau bywyd cymdeithasol. Ar ba bynnag raddfa sydd yn siwtio chi, bydd bywyd ym Met Caerdydd yn gadael atgofion i bara am oes. Previous article From studying International Tourism Management at Cardiff Met to managing a team of ten at British Transport Police Next article How achieving my MBA at Cardiff Met empowered me to write my first book Postiadau diweddar Dod o Hyd i Fy Llais mewn Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd Manteisio ar brofiad gwaith gyda fy nghwrs Busnes a Rheoli ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs MA Addysg (Cymru) drwy gyfrwng y Gymraeg Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) drwy gyfrwng y Gymraeg Newid byd er gwell. Ffeirio’r gyfraith am yr ystafell ddosbarth Sut gwnaeth y cwrs Blas ar Ddysgu fy mharatoi ar gyfer yr ystafell ddosbarth Fy uchafbwyntiau yn astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg Fy mhrofiad ar ddechrau bywyd prifysgol yn astudio Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd