Manteisio ar brofiad gwaith gyda fy nghwrs Busnes a Rheoli ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg < CARDIFF MET BLOGS
Archived: 2026-04-23 17:21
Manteisio ar brofiad gwaith gyda fy nghwrs Busnes a Rheoli ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg < CARDIFF MET BLOGS
APPLY THROUGH CLEARING
Manteisio ar brofiad gwaith gyda fy nghwrs Busnes a Rheoli ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
August 29, 2024
Cai Williams
BA (Anrh) Busnes a Rheoli
Busnes a Rheoli
Helo! Fy enw i yw Cai a dwi’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ac ar hyn o bryd yn astudio’r cwrs Busnes a Rheoli ym Met Caerdydd! Dwi newydd orffen fy ail flwyddyn ac ar fin mynd mewn i fy nhrydedd flwyddyn.
Er fy mod wedi cael fy ngeni a thyfu i fyny yng Nghaerdydd, mae fy nheulu i gyd yn dod o Ogledd Cymru heb law am fy mrawd a fy chwaer felly rwyf wedi cael fy magu’n siarad Cymraeg. Nes i hefyd gwblhau pob cam o fy addysg yn y Gymraeg gyda llawer o fy ffrindiau yn dod o deuluoedd di-gymraeg sy’n dangos sut mae’r iaith wedi tyfu cymaint yn y brif ddinas!
Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Roedd y penderfyniad i astudio rhan o fy ngradd drwy’r Gymraeg yn eithaf hawdd gan fod yna llawer o fanteision. Yn sicr, un rheswm ar gyfer y penderfyniad yw oherwydd dwi’n meddwl ei fod yn bwysig i gadw cysylltiad agos gyda’r iaith er fy mod yn ei siarad gyda fy nheulu. Ond dwi’n meddwl un o’r manteision roeddwn yn hoffi’r fwyaf, oedd bod y darlithoedd a seminarau yn fwy personol mewn ffordd, gan fod yna nifer llai o fyfyrwyr yno ac felly mae modd i gael fwy o sgyrsiau am y wybodaeth a lot llai o bwysau wrth ofyn cwestiynau – hyn yw bod y sesiynau’n teimlo’n fwy anffurfiol mewn ffordd dda!
Mae’r tîm darlithio wir yn wych! Ers y tro cyntaf i fi ymweld â’r campws yn Llandaf yn yr wythnos gyntaf, maent yn neud i chi deimlo’n gyfforddus wrth gael cyfarfod anffurfiol yn y caffi a phrynu diod i ni fel myfyrwyr newydd. Trwy fy ail flwyddyn yn astudio modiwlau Cymraeg ym Met Caerdydd, mae pob aelod o’r criw darlithio Cymraeg wastad yn barod i helpu ac rydych yn cael yr argraff eu bod wir eisiau i chi lwyddo a chael y mwyaf allan o’ch gradd. Dwi wedi sylwi bod fy ngraddau yn ystod yr ail flwyddyn wedi gwella’n sylweddol i gymharu gyda fy mlwyddyn gyntaf a byswn yn sicr yn dweud bod y criw darlithio Cymraeg wedi ategu at hyn gan eu bod yn barod i helpu gyda modiwlau arall os bod angen sydd wedi bod yn grêt.
Profiad Gwaith
Fel rhan o fy astudiaeth yn ystod yr ail flwyddyn, roedd rhaid cwblhau cyfnod o brofiad gwaith ar gyfer y modiwl profiad gwaith gyda’r amodau bod rhaid i’r gwaith bod yn rhywbeth i wneud ag elfen o’r radd Busnes a Rheoli. Gwnaeth un o’r darlithwyr Cymraeg fy helpu allan wrth drefnu cyfarfod gyda Menter Caerdydd ar gyfer trafod gwneud profiad gwaith. Aeth y cyfarfod yn dda a chefais fanylion Menter Caerdydd i drafod ymhellach felly diolch i astudio rhan o fy ngradd yn y Gymraeg gwnes i lwyddo cael profiad gwaith roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd iddo!
Mae’n werth trafod fy amser yn neud profiad gwaith ym Menter Caerdydd gan ei fod yn rhan bwysig o’r cwrs yn yr ail flwyddyn a gwnes i cyflawni trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Menter Caerdydd wedi bod yn ymgeisio i gyd-weithio gyda phrifysgolion Cymru ac felly roeddent yn hapus iawn i gael myfyriwr Cymraeg o Met Caerdydd i wneud profiad gwaith yno ac roedd fy amser byr yna yn wych gan fy mod yn cael y cyfle i weithredu a dysgu am y pethau rwyf wedi astudio yn y dosbarth a hynny o fewn y byd gwaith.
Gan fy mod yn astudio’r llwybr marchnata, roeddwn yn gweithio gyda’r tîm trefnu Gŵyl Fach y Fro o Fenter Bro Morgannwg a hefyd y tîm sy’n trefnu Tafwyl trwy helpu nhw i greu posteri ar y feddalwedd Canva a hefyd helpu gyda’u cyfryngau cymdeithasol. Roedd hyn yn ddiddorol iawn gan fy mod yn gallu gweld gyda fy llygaid fy hun sut mae digwyddiadau fel hyn yn cael eu trefnu a’u marchnata, yn enwedig gan fy mod wedi mynd i Tafwyl gyda fy nheulu a ffrindiau ers blynyddoedd! Credaf fod gwneud y cwrs yn ddwyieithog yn fanteisiol gan ei fod yn rhoi’r cyfle i gadw cysylltiad gyda’r iaith Gymraeg yn y brifysgol ac yn y gweithle ac fel rwyf wedi sôn, mae modd cael sgyrsiau a chymorth uniongyrchol gan y staff darlithio sy’n deall Cymru a’r Gymraeg yn helpu’n fawr iawn o fewn cyd-destun pob modiwl.
Previous article
Exploring Amsterdam and landing a summer work placement with Cancer Research Wales as an International Tourism Management student
Next article
From Cardiff Met and a year in industry at Deloitte to HR Professional at Ashton Gate
Postiadau diweddar
Dod o Hyd i Fy Llais mewn Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd
Addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd
Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs MA Addysg (Cymru) drwy gyfrwng y Gymraeg
Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) drwy gyfrwng y Gymraeg
Newid byd er gwell. Ffeirio’r gyfraith am yr ystafell ddosbarth
Sut gwnaeth y cwrs Blas ar Ddysgu fy mharatoi ar gyfer yr ystafell ddosbarth
Fy mhrofiad yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Fy uchafbwyntiau yn astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg
Fy mhrofiad ar ddechrau bywyd prifysgol yn astudio Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd