Gwefr Heb Wifrau - Hafan

Source: https://www.wirelessinwales.org.uk/cy

Archived: 2026-04-23 15:39

Gwefr Heb Wifrau - Hafan
Yr amgueddfa radio gymreig
Mae Gwefr heb Wifrau yn ymddiriedolaeth elusennol ac yn amgueddfa radio fechan, wahanol. Mae ein pwyslais ar hanes darlledu yng Nghymru, dylanwad darlledu ar ein hunaniaeth genedlaethol a chyfraniad y Cymry i ddatblygiad technoleg ddi-wifr yn gwneud yr amgueddfa yn unigryw. Mae gennym gasgliad diddorol o hen offer radio a llyfrau, yn ogystal ag arddangosfeydd addysgol a chynhwysfawr.  Sail yr Amgueddfa yw casgliad y diweddar David Evan Jones ac fe'i hagorwyd ychydig o wythnosau ar ôl ei farwolaeth yn 2008.
Cawsom ein hachredu yn swyddogol gan Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru yn Ebrill 2025.
Mae Gwefr heb Wifrau yn darparu amgylchedd diogel ar gyfer gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, yn cynnwys mynediad trwy'r adeilad i gadeiriau olwyn, dolen glywed ac arddangosion sy'n ddiogel i'w trin.  Mae gan ein staff hyfforddiant a phrofiad o ofalu am ymwelwyr ag anableddau.
Diweddariad Ebrill 2026
Y Bore Coffi, Cacen a Glanhau diwethaf am y gaeaf.
Bore prysur i Martyn a Phil yn trwsio’r peiriant profi falfiau …..
.….. a’r generadur signalau.
Rhoddion diweddar
Radio carchar
RYn ddiweddar, nododd ymwelydd fod ein radio "Roberts Rambler", a gynhyrchwyd ddiwedd y 1970au, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn carchardai ac am rai blynyddoedd, dyma'r unig radio a ganiatawyd yno! Dim ond tonnau Canolig a Hir oedd yn eu derbyn; ni ellid derbyn unrhyw ddarllediadau FM. Roedd hyn yn golygu nad oedd ganddo antena telesgopig y gellid ei ddefnyddio fel arf, ac ni ellid ei ail-diwnio i wrando ar gyfathrebiadau swyddogion y carchar, oedd trwy radio VHF. Roedd y batri yn PP9 mawr, drud, felly roedd rhaid i'r carcharorion ei ddefnyddio'n gynnil. Newidiodd hyn pan gafwyd trydan ar gyfer radios yn y celloedd, a gellid defnyddio derbynyddion gwahanol.
Radio Carchar, Radio Roberts Rambler
Falf math “R”
Y falf radio gynharaf oedd ar gael i'r cyhoedd oedd yr Osram math "R". Rai blynyddoedd yn ôl, roedd yr amgueddfa'n ffodus i dderbyn enghraifft brin, a wnaed yn 1918, sydd, er ei bod yn ddiffygiol, yn arddangosyn diddorol ar gyfer ein hymwelwyr. Yn ddiweddar, rhoddwyd enghraifft arall i’r Amgueddfa, â lliw melyn y tu mewn i'r gwydr. Pan fydd falf yn cael ei chynhyrchu, caiff yr aer ei bwmpio allan, a chaiff unrhyw aer sy'n weddill ei losgi, fel arfer gan ddefnyddio pelen o fagnesiwm. Yn yr un yma, defnyddiwyd pelen o ffosfforws, a dyna’r rheswm am y lliw melyn. Dyma hi gyda'n falf "R" wreiddiol, ynghyd â falf "R" arall ddiweddarach yn y cefn.
**********************************************************************************************************************************************************
Ymwelwyr o Fwlgaria, ar eu ffordd i’r Alban
Ymweld â’r Amgueddfa
Mae’r Amgueddfa ar agor bob dydd Sadwrn 11.00 – 16.00.
Os ydych am ymweld ar adeg arall sy’n fwy cyfleus i chi, cysylltwch â
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
i drefnu apwyntiad. Croeso cynnes i bawb!
Diweddariad Mawrth 2026
Diweddariad Chwefror 2026
January 2026 Update
Diweddariad Rhagfyr 2025
Tudalen 1 o 64
Atal y Wasg
Mae'r Amgueddfa ar agor bob dydd Sadwrn 11:00 - 16.00 tan diwedd mis Medi.
I ymweld ar unrhyw adeg arall, cysylltwch â:
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Digwyddiadau
Mae’r Amgueddfa a
Cwmulu
s yn trefnu sgyrsiau Cymraeg a Saesneg ar nos Wener am 7.00 y.h. yn fisol.  Mae cyfieithu i’r Saesneg ar gael yn ystod y sgyrsiau Cymraeg.  Er mwyn gweld sgyrsiau a digwyddiadau’r dyfodol, ewch i
wefan Cwmulus
neu dudalen
facebook Gwefr heb Wifrau
os gwelwch yn dda.
Newyddion Diweddaraf
Diweddariad Ebrill 2026
Diweddariad Mawrth 2026
Diweddariad Chwefror 2026
January 2026 Update
Diweddariad Rhagfyr 2025