UK
Genedigaethau, marwolaethau a phriodasau - Office for National Statistics
Genedigaethau, marwolaethau a phriodasau - Office for National Statistics
Genedigaethau, marwolaethau a phriodasau
Mae ystadegau am ddigwyddiadau bywyd yn dweud wrthym am faint a chyflwr y boblogaeth. Rydym yn cyhoeddi data awdurdodol am nifer y genedigaethau a marwolaethau fesul blwyddyn galendr. Ar gyfer diweddaru amcangyfrifon o'r boblogaeth, rydym yn defnyddio data o ganol y flwyddyn hyd ganol y flwyddyn (1 Gorffennaf hyd 30 Mehefin), gyda rhai gwahaniaethau bach.
Yn yr adran hon
Heneiddio
Mae dadansoddi heneiddio yn adeiladu ar amcangyfrifon ynglŷn â disgwyliad oes a'r boblogaeth, gan grynhoi'r dadansoddiad diweddaraf o'r ystadegau swyddogol ar heneiddio ymysg y boblogaeth, a bywydau pobl hŷn. Maent hefyd yn rhoi dangosyddion heneiddio megis oedran canolrifol a chymarebau rhyw ymysg oedrannau hŷn ar lefelau cenedlaethol a lleol.
Cymarebau beichiogi a ffrwythlondeb
Rydym yn edrych ar gyfanswm y beichiogiadau, wedi eu dadansoddi yn ôl oedran, yn ogystal â maint cyfartalog teuluoedd cyflawn, a nifer y bobl sy'n ddi-blant.
Marwolaethau
Rydym yn derbyn data am farwolaethau o'r gofrestr marwolaethau, felly dim ond data am farwolaethau cofrestredig sydd ar gael. Caiff y wybodaeth hon ei dadansoddi yn ôl oedran, rhyw, ardaloedd yn y DU, a'r achos marwolaethau. Mae rhai o'r setiau data ar gael ar ffurf cyfres hirdymor.
Ysgaru
Rydym yn llunio adroddiadau am ystadegau ysgariadau yn ôl oedran a rhyw y bobl sy'n ysgaru, yn ôl pwy gafodd ysgariad, ac yn ôl ardaloedd yn y DU.
Teuluoedd
Ffigurau am gyfansoddiad aelwydydd, gan gynnwys data ar rieni unigol, cyplau priod, a phartneriaid sifil.
Disgwyliadau oes
Rydym yn defnyddio amcangyfrifon o'r boblogaeth a nifer y marwolaethau i amcangyfrif pa mor hir, ar gyfartaledd, gall pobl ddisgwyl byw. Mae llywodraethau canolog a lleol yn defnyddio'r ffigurau hyn i wneud penderfyniadau ynglŷn â chynllunio a dyrannu adnoddau.
Genedigaethau byw
Mae nifer y genedigaethau byw yn is-set o'r data rydym yn ei gasglu o gofrestriadau genedigaethau a marwolaethau. Maent ar gael yn ôl rhyw, mis y flwyddyn a rhanbarth o'r DU.
Priodi, cyd-fyw a phartneriaethau sifil
Rydym yn edrych ar briodi, cyd-fyw a phartneriaethau sifil.
Marw-enedigaethau
Data am farw-enedigaethau, wedi'i ddadansoddi yn ôl rhanbarth.
Archwiliwch ystadegau lleol
Darganfyddwch, cymharwch, a dewch yn fyw ystadegau am leoedd yn y Deyrnas Unedig.