Addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd < CARDIFF MET BLOGS
APPLY THROUGH CLEARING
Addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd
July 22, 2024
Lois Campbell
TAR Uwchradd Cymraeg
Addysg
Helo! Fy
enw
yw
Lois a
dw
ar
fin
cwblhau
fy
nghwrs
TAR
Uwchradd
yn
hyfforddi
ddod
yn
athrawes
Gymraeg.
Yn
wreidddiol
dwi’n dod
Landeilo
yn
Sir
Gaerfyrddin
ond
wedi
bod
yng
Nghaerdydd
ers
pedair
blynedd
bellach
ar
gyfer
fy
astudiaethau
ble
wnes
raddio
llynedd
Brifysgol
Caerdydd
gyda
gradd
mewn
Cymraeg a
Newyddiaduraeth
Ar
ôl
cwblhau
fy
ngradd
israddedig
doedd
dim
syniad
gyda
fi beth
wneud
nesaf
Trwy
gydol
fy
ngradd
mi
wnes
gymryd
yn
ganiataol
bydd
i’n
mentro
fyd
newyddiaduraeth
neu’r
cyfryngau
ond
am
ryw
reswm
mi
wnes
benderfyniad
sydyn
mai
nid
dyna’r
llwybr
fi. Tuag at
ddiwedd
fy
nhrydedd
flwyddyn
mi
wnes
ddewis
astudio
modiwl
Yr
Ystafell
Ddosbarth
gydag
Ysgol y Gymraeg,
nid
oherwydd
fy
mod
ar
pryd
yn
ystyried
mentro
fyd
addysg
ond
oherwydd
bod
diddordeb
gen
yn
yr
ochr
caffael
throsglwyddo
iaith
Ond
wrth
i’r
modiwl
fynd
yn
ei
flaen
ac
wrth
mi
gael
blas
theorïau
dysgu
ac
addysgu
chael
gwrando
ar
athrawon
presennol
mi
wnes
ddechrau
ystyried
syniad
addysgu
fel
llwybr
gyrfa
posib
Es
mlaen
ymchwilio’r
syniad
yn
fwy
chofrestru
gyda’r
Coleg Cymraeg
Cenedlaethol
wneud
cwrs
ar-lein
Dysgu’r
Dyfodol
’.
Mi
wnes
elwa
cymaint
o’r
cwrs
hwn
a’r
cyfle
gael
mentor
profiadol
roi
mewnwelediad
mi
o’r
cwrs
TAR
a’r
byd
addysg
. Es
ati
wedyn
ymgeisio
chael
lle
ar
cwrs
TAR,
ond
yr
un
cynradd
yn
hytrach
nag
yr
un
uwchradd
Bues
i’n
gwneud
peth
gwaith
cynorthwyo
mewn
ysgolion
cynradd
yn
ystod
yr
Haf
adeiladu
ar
fy
mhrofiad
ac
ro’n
i’n
sicr
mai
addysgu
oed
Cynradd
oedd
yr
hyn
ro’n
am
wneud
Ond
rhyw
bythefnos
cyn
i’r
cwrs
gychwyn
mi
wnes
newid
fy
meddwl
phenderfynu
mentro
addysg
Uwchradd
. Mi
wnes
ystyried
newid
am
gyfnod
phwyso
mesur
fy
nghryfderau
a’n
rhinweddau
fel
unigolyn
phenderfynu
bod
fy
sgiliau
a’r
hyn
yr
allen
gynnig
yn
allgyrsiol
yn
fwy
addas
ar
gyfer
yr
uwchradd
Profiad ar y cwrs TAR Uwchradd Cymraeg
Wrth edrych yn ôl ar fy amser ar y cwrs TAR mi allai ddweud yn hyderus fy mod wedi mwynhau pob agwedd ohono. Ydy, mae’n gwrs trwm sy’n gofyn am drefn, ymroddiad ac agwedd broffesiynol barhaus ond mae hefyd yn gwrs sy’n hynod o wobrwyol ac sy’n rhoi sgiliau heb eu hail i chi.
Mi ges i brofiadau hyfryd mewn dwy ysgol uwchradd Gymraeg, un yng Nghaerdydd a’r llall ym Mhen-y-bont. Mi roedd y profiad cyntaf yna o sefyll o flaen dosbarth o blant yn eu harddegau yn naturiol yn un eithaf ofnus ond yn gyflym iawn mae’r teimlad yna’n diflannu. Mae ennyn diddordeb y disgyblion yn raddol a threulio amser yn ceisio adeiladu a ffurfio perthnasau gyda’r dosbarthiadau yn rhywbeth arbennig iawn. Ydy, mae’n gallu cymryd amser i sicrhau fod pob disgybl yn ymddiried ynoch chi fel athro ond dw i ‘di mwynhau cael arbrofi gyda gwahanol dechnegau a strategaethau i geisio annog yr ymddiriedaeth honno. Heb os, derbyniais gymorth barhaus gan yr athrawon a’r staff yn yr ysgolion a gan staff y brifysgol i sicrhau fy mod o hyd yn cael fy nghefnogi ym mhob agwedd o’r cwrs.
Dw i hefyd wedi mwynhau ochr gymdeithasol y cwrs a chael y cyfle i ddod i ‘nabod myfyrwyr o bynciau eraill. Mae llawer o waith cyd-weithio ar y cwrs, gyda myfyrwyr cyfrwng Cymraeg eraill, yn draws bynciol ac yn draws gyfnod felly mae digon o gyfleoedd i gwrdd â phobl newydd ac i wneud ffrindiau. Dw i’n sicr wedi gwneud ffrindiau oes ar y cwrs TAR.
I unrhyw un sy’n ystyried dilyn y cwrs TAR – ewch amdani! Mae’r sgiliau ry’ chi’n eu magu, yr hyder ry’ chi’n ei ddatblygu, y profiadau a chyfleoedd ry’ chi’n eu derbyn a’r ffrindiau ry’ chi’n eu creu yn amhrisiadwy. Mae addysgu wir yn broffesiwn arbennig, a dw i’n hynod o falch fy mod i ‘di penderfynu mentro i’r maes ac yn methu aros i gael dechrau fy swydd gyntaf fel athrawes Gymraeg ym mis Medi.
Darganfod mwy am astudio’r cwrs
TAR Uwchradd Cymraeg
drwy gyfrwng y Gymraeg
Previous article
How Cardiff Met and a Placement at Peter’s Food Shaped My Career in the Food Industry
Next article
Diving into Computer Security at Cardiff Met whilst maintaining my passion for competitive swimming
Postiadau diweddar
Dod o Hyd i Fy Llais mewn Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd
Manteisio ar brofiad gwaith gyda fy nghwrs Busnes a Rheoli ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs MA Addysg (Cymru) drwy gyfrwng y Gymraeg
Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) drwy gyfrwng y Gymraeg
Newid byd er gwell. Ffeirio’r gyfraith am yr ystafell ddosbarth
Sut gwnaeth y cwrs Blas ar Ddysgu fy mharatoi ar gyfer yr ystafell ddosbarth
Fy mhrofiad yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Fy uchafbwyntiau yn astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg
Fy mhrofiad ar ddechrau bywyd prifysgol yn astudio Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol
Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
UK