Poblogaeth ac ymfudo - Office for National Statistics

Poblogaeth ac ymfudo - Office for National Statistics
Poblogaeth ac ymfudo
Ystadegau am faint, oedran, rhyw a dosbarthiad daearyddol poblogaeth y DU. Rydym hefyd yn archwilio newidiadau ym mhoblogaeth y DU, a'r ffactorau sy'n ysgogi'r newidiadau hyn. Mae amrywiaeth eang o ffyrdd y gellir defnyddio'r ystadegau hyn. Mae'r llywodraeth ganolog, llywodraeth leol a'r sector iechyd yn eu defnyddio ar gyfer cynllunio, dyrannu adnoddau a rheoli'r economi. Maent hefyd yn cael eu defnyddio gan bobl megis ymchwilwyr i'r farchnad ac academyddion.
Yn yr adran hon
Ymfudo rhyngwladol
Rydym yn edrych ar nifer y bobl sy'n symud i mewn ac allan o'r DU. Mae ystadegau am ymfudo hirdymor, ymfudo tymor byr, a data am ymwelwyr yn rhoi darlun o'r rhai sy'n dod i mewn i'r DU ac yn mynd allan, gan ymdrin ag arosiadau o bob hyd.
Ymfudo o fewn y DU
Mae ymfudo mewnol yn edrych ar achosion o symud tŷ rhwng gwahanol ardaloedd daearyddol yn y DU. Rhoddir yr ystadegau hyn at ei gilydd gan ddefnyddio tair prif ffynhonnell; Cofrestr Cleifion y GIG, Cofrestr Ganolog y GIG a'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch.
Amcangyfrifon poblogaeth
Amcangyfrifon blynyddol o faint y boblogaeth sydd fel arfer yn preswylio yn y DU. Rydym yn crynhoi ac yn cyhoeddi amcangyfrifon ar gyfer y DU gan ddefnyddio amcangyfrifon ar gyfer Lloegr a Chymru (a gynhyrchir yn uniongyrchol gan ONS), yr Alban (a gynhyrchir gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban) a Gogledd Iwerddon (a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon).
Amcanestyniadau poblogaeth
Mae amcanestyniadau poblogaeth ar gael yn ôl oedran a rhyw ar gyfer y DU a'i gwledydd cyfansoddol. Mae'r amcanestyniadau hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth ganol y flwyddyn, a set o dybiaethau sylfaenol ynglŷn â ffrwythlondeb, marwolaeth ac ymfudo yn y dyfodol. Maent yn dangos yr effaith y gallai newidiadau mewn patrymau demograffig ei chael ar faint a strwythur oedran y boblogaeth yn y dyfodol. Gwneir defnydd helaeth o'r amcanestyniadau hyn er mwyn dyrannu adnoddau a chynllunio.
Archwiliwch ystadegau lleol
Darganfyddwch, cymharwch, a dewch yn fyw ystadegau am leoedd yn y Deyrnas Unedig.