Amdanom Ni – HM Inspectorate of Probation

Amdanom Ni – HM Inspectorate of Probation
Cookies on HM Inspectorate of Probation
We use some essential cookies to make this service work.
We’d also like to use analytics cookies so we can understand how you use the service and make improvements.
View cookies
Skip to content
Amdanom Ni
Ein gweledigaeth
Hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwasanaethau prawf a throseddu ieuenctid.
Ein cenhadaeth
Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yw’r arolygydd annibynnol o wasanaethau prawf a throseddu ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo newidiadau cadarnhaol yn y gwasanaethau hyn. Mae ein hargymhellion, ein hymchwil a’n canllawiau ymarfer effeithiol yn cymell gwelliannau ar lefelau unigol, lleol a chenedlaethol.  Mae hyn yn arwain at well canlyniadau i oedolion ar brawf a phlant sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau troseddu ieuenctid, gwell gwybodaeth a chefnogaeth i ddioddefwyr; ac yn  amddiffyn y cyhoedd yn well.
Ein gwerthoedd
Dylanwadol
Rydyn ni’n frwd dros gael effaith gadarnhaol ar y sefydliadau rydyn ni’n eu harolygu a’r unigolion maen nhw’n gweithio â nhw.
Annibynnol
Rydyn ni’n gwneud yn siŵr fod tystiolaeth i gefnogi’r dyfarniadau rydyn ni’n eu gwneud, a’u bod yn deg ac yn ddiduedd.
Proffesiynnol
Rydyn ni’n gweithio mewn ffordd barchus, tryloyw, broffesiynnol, gan wrando ar yr hyn a ddysgir, a rhannu hynny’n fewnol ac yn allanol.
Cynhwysol
Byddwn ni’n gweithio fel ‘Un Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi’, gan werthfawrogi a pharchu barn a sgiliau ein gilydd, fel bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei wneud.
Amrywiol
Rydyn ni’n angerddol ynghylch amrywaieth a’r gwerth a ddaw yn sgil rhoi llais i bawb yn ein harolygiadau, a’r cyfle i lwyddo yn ein sefydliad.
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Nid yw Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi yn ymdrechu i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant dim ond am fod rheidrwydd arnynt i wneud hynny dan ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ond am mai dyna’r peth iawn i’w wneud. Rydyn ni am gael amgylchedd lle mae croeso i’r holl staff, a lle maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, a lle mae staff yn teimlo’n ddiogel ac yn hyderus i herio a chyfrannu tuag at y gwaith rydyn ni’n ei wneud ar amrywiaeth a chynhwysiant. Rydyn ni eisiau grŵp o staff sy’n gallu cynrhychioli eraill drwy eu profiadau personol ac sy’n deall byd y gwasanaeth prawf ac/ neu gyfiawnder ieuenctid o safbwynt staff, a hefyd o safbwynt defnyddwyr. Rydyn ni’n sefydliad cryfach pan ein bod yn cyflawni’r pethau hyn.
Cynllun Iaith Gymraeg
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd, wrth gyflawni ei arolygiadau yng Nghymru, yn trin y Gymraega’r Saesneg ar sail cydraddoldeb. Mae gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi Gynllun Iaith Gymraeg sy’n amlinellu’r modd rydyn ni’n darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Cymeradwywyd hyn gan Fwrdd Cymraeg ar 04 Mai 2011.
Memoranda Dealltwriaeth
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth (MoU) ar gyfer goruchwylio gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ledled Cymru a Lloegr
Memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y Trefniadau ar gyfer goruchwylio gwasanaethau prawf yng Nghymru a Lloegr
Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi – Hydref 2020