Ein hastudiaethau - Office for National Statistics

Source: https://cy.ons.gov.uk/surveys

Archived: 2026-04-23 17:34

Ein hastudiaethau - Office for National Statistics
Ein hastudiaethau
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw cynhyrchydd ystadegau mwyaf y wlad. Mae’r wybodaeth a gasglwn yn helpu i adeiladu darlun o fywyd yn y DU heddiw. Mae’r ystadegau a gynhyrchir gennym ar ein cymdeithas a’n heconomi yn cael eu defnyddio gan lywodraeth ganolog a llywodraeth leol, busnesau ac unigolion i wneud penderfyniadau a chynllunio ar gyfer y dyfodol. I sicrhau bod ein hystadegau yn ddibynadwy ac yn berthnasol, rydym angen gwybodaeth sy’n adlewyrchu’r holl boblogaeth.
Gwybodaeth ar gyfer busnesau
Darganfod mwy ynghylch pa wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gan fusnesau a sut yr ydym yn ei defnyddio.
Astudiaethau am bobl, teuluoedd ac aelwydydd
Darganfod mwy ynghylch beth mae ein hastudiaethau yn ei olygu a sut y caiff yr wybodaeth a gasglwn ei defnyddio.
Cyfrifiad 2021 a'n hastudiaethau a'n harolygon eraill
Dysgwch fwy am ein hastudiaethau a'n harolygon eraill a gaiff eu cynnal ochr yn ochr â'r cyfrifiad
Cyfrifiad 2021
Cwblhewch Gyfrifiad 2021. Mae cymryd rhan yn hanfodol er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch cymuned yn cael y gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi.
Sut mae'r coronafeirws (COVID-19) yn effeithio ar ein hastudiaethau
Rydym wedi gwneud rhai newidiadau i'r ffordd rydym yn cynnal ein hastudiaethau fel arfer er mwyn eich cadw chi a'n holl gydweithwyr yn ddiogel.
Darllenwch fwy am y newidiadau rydym wedi'u gwneud yn
ein datganiad
.
Casglu Data’n Ddiogel
Gwefan Casglu Data’n Ddiogel
i'w ddefnyddio gan fusnesau sydd wedi'u dewis i'w cwblhau ar-lein. Noder nad yw pob arolwg ONS ar-lein ar hyn o bryd.