Home - Gwlad

Source: https://gwlad.org/cy/home

Archived: 2026-04-23 16:39

Home - Gwlad
Skip to content
GWLAD
Llais Newydd Dros
Annibyniaeth i Gymru
YMUNWCH GWLAD
Yn ein byd modern, gwelwn rif y gwlith o wledydd bychain sydd wedi brasgamu yn eu blaenau yn economaidd a chymdeithasol ers ennill eu hannibyniaeth.
Credwn y dylai Cymru fod yn eu plith hefyd: yn wlad lewyrchus a llwyddiannus sy’n gyffyrddus ynddi ei hun ac ar delerau da gyda’i chymdogion.
Ddaw hyn ddim trwy wag siarad. Bydd angen pobol sydd yn barod i edrych o ddifrif ar Gymru fel ag y mae heddiw – i weld be sy’n gweithio a be sy’ ddim yn gweithio yma, ac edrych am atebion positif ac ymarferol. Polisïau a fydd yn tyfu economi Cymru, yn cynnig cyfleoedd gwirioneddol i bobol ar draws ein gwlad a chaniatáu i bawb sy’n byw yma i ddal eu pen yn uchel.
Dyna hanfod cenhadaeth GWLAD.
YMUNWCH GWLAD
Dim ond un clic sydd angen er ymuno â Gwlad. Gallwn wyrdroi dirywiad hir Cymru i dlodi a dinodedd a’i throi yn wlad falch, lewyrchus fel y dylai fod – ond mae arnom ni angen eich help chi.
YMUNWCH GWLAD
CYFRANNWCH YMA
Pe hoffech chi wneud rhodd ariannol i hybu ein hymgyrch dros Gymru annibynol, cliciwch ar y botwm isod. Diolch ymlaen llaw am eich cefnogaeth.
CYFRANNWCH
CYLCHLYTHYR
Cliciwch y botwm isod i danysgrifio i’n cylchlythyr electronig. Fyddan ni ddim yn eich blino gyda sothach dyddiol; dim ond cynnwys achlysurol pan fod materion o bwys.
CYLCHLYTHYR
FFORWM AELODAU
Wrth ymuno gyda ni, cewch enw defnyddiwr a chyfrinair yn eich galluogi i gymryd rhan yn ein fforwm trafod. Os ydych eisoes yn aelod, cliciwch y botwm isod.
FFORWM AELODAU
Wedi 25 mlynedd o ddatganoli, pam er mwyn popeth y mae
Cymru’n dlotach o’i chymharu â gweddill y DU, nag a fu erioed?
Pam fod 90% o’r etholwyr Cymreig yn gwrthod pleidleisio dros Blaid Cymru, er fod y blaid honno mewn bodolaeth ers dros i 90 mlynedd? Mae’n bryd symud tu hwnt i’r pethau a fu, a meddwl am bethau o’r newydd. Gan hepgor sosialaeth fethiannus y Blaid Lafur sydd heb gyflawni yr un dim heblaw tynhau gafael y blaid honno dros Gymru a’i chadw hi’n dlawd.
Yn yr un modd, mae angen gwrthod y syniad mai’r unig ffordd y gall Gymru oroesi yw wrth dderbyn cymorth ariannol parhaus gan feistri pwerus a phellennig, boed rheiny yn Llundain neu Frwsel. Ni fyddwn yn clymu ein hunain i unrhyw ideoleg neilltuol, ond byddwn yn barod i dderbyn syniadau sy’n gweithio o unrhyw gyfeiriad. Gall eraill ein gosod ar y sbectrwm wleidyddol os mynnant. Fyddwn ni ddim.
Mae pob greddf sydd ynom ni fodd bynnag, yn eirias dros ryddid. Mae’n rhaid cysylltu rhyddid cenedlaethol gyda rhyddid yr unigolyn – rhyddid meddwl, rhyddid barn a rhyddid i weithredu. A hyn oll wedi ei seilio ar ymrwymiad i fentergarwch a marchnadoedd rhydd.
Does yr un grym arall yn dod yn agos ato o ran dileu gorthrwm a thlodi a chaniatáu i bobol gyflawni eu holl botensial unigol. Wrth gefnogi Brexit yn ddigamsyniol ym 2016 a gwrthod y ‘Cynghrair Aros’ ym 2019, mae pleidleiswyr Cymru wedi dangos yn glir eu bod nhw’n credu mewn pwysisgrwydd y Cenedl fel uned naturiol llywodraeth, yn hytrach nag Undeb pellennig a diwyneb. Cymru ydy’n Cenedl ni; yng Nghymru dylai’n llywodraeth bod. Heddiw, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae angen i Gymru sefyll ar ei thraed ei hun er mwyn rheoli ei dyfodol ei hun. Allwn ni ddim llwyddo trwy feio eraill am ein problemau.
Mae’n rhaid inni ysgwyddo’n cyfrifoldebau yn llawn, os ydan ni am gael budd o’r holl enillion posib.
EIN MANIFFESTO
EIN MANIFFESTO
Defnyddio pwerau presennol y Senedd i’r eithaf
Dileu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag gweithio
Denu buddsoddiad i gwmnïau Cymreig
Cefn gwlad sy’n gweithio, gyda chyfleoedd i bobl ifanc
Gwella seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd ledled y wlad
Adeiladu system addysg sy’n galluogi plant i lwyddo
Defnyddio’n hadnoddau ynni i bweru’n diwydiannau ein hunain
Cadw buddion sector twristiaeth ffyniannus yng Nghymru
ERTHYGLAU NEWYDDION DIWEDDARAF
Ein hymgeiswyr – i gyd yn yr un lle
Huw Pritchard
Mawrth 8, 2026
No Comments
Brad i ymladd Sir Fynwy Torfaen
Huw Pritchard
Mawrth 2, 2026
No Comments
Stef i ymladd Pontypridd Cynon Merthyr
Huw Pritchard
Mawrth 2, 2026
No Comments
Philip i ymladd Brycheiniog Tawe Nedd
Huw Pritchard
Mawrth 2, 2026
No Comments
Jeremy i ymladd Gwynedd Maldwyn
Huw Pritchard
Mawrth 2, 2026
No Comments
Wayne i ymladd Sir Gaerfyrddin
Huw Pritchard
Chwefror 2, 2026
No Comments
Gwyn i ymladd Ceredigion Penfro
Huw Pritchard
Ionawr 28, 2026
No Comments
Ymunwch ag un o’n canghennau llawr gwlad
Huw Pritchard
Tachwedd 27, 2025
No Comments
Holl Erthyglau Newyddion
Cysylltu Gwlad
I gysylltu â Gwlad, rhowch eich manylion a’ch neges yn ein ffurflen gysylltu.
Byddwn yn ymateb i chi cyn gynted â phosibl.
Fel arall, gallwch ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Gwlad
Dalton House
35 Chester Street
Wrecsam
LL13 8AH
Teleffôn 07886 399410