Cardiff Met University

Source: https://recruitment.cardiffmet.ac.uk/cy

Archived: 2026-04-23 17:13

Cardiff Met University
Cyflawnwch eich uchelgais gyda gyrfa ym
Met Caerdydd
Mae croeso cynnes yn eich disgwyl
Academaidd
Proffesiynol a Chymorth
Uwch Arweinwyr
Cyfleoedd i Fyfyrwyr
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Ym Met Caerdydd, rydym yn eich gwahodd i ymuno â’n cymuned gydweithredol. Gan ddyddio’n ôl i 1865, mae’n gwreiddiau yng Nghymru o hyd gyda chyrhaeddiad byd-eang sy’n cynnig byd o gyfle i chi. Rydym wedi cael cryn lwyddiant a chydnabyddiaeth yn y blynyddoedd diwethaf, ond megis cychwyn yw hynny. Mae Strategaeth 2023 yn egluro’n huchelgais i dyfu’n gwbl glir.
Rydym yn dîm amrywiol o feddyliau chwilfrydig, dyfeisgar – o’n staff academaidd ac ymchwil i’n staff proffesiynol a chymorth. Rydym yn rhoi’r amser i ddeall anghenion ein staff, ac yn eu llwyr gefnogi i archwilio a mabwysiadu syniadau newydd. Ymunwch â ni i ysgogi a sicrhau newid gwirioneddol, i ddatblygu’n enw da o ran ymchwil, gwella ein haddysgu a chryfhau’n hadrannau gwasanaethau proffesiynol – gan eich galluogi chi i gyflawni’ch potensial.
Cliciwch yma i weld ein buddion
Swyddi gwag yn ein timau
Athro/Athrawes Nofio
Campws Cyncoed
Rhan Amser
read-more
Uwch Ddarlithydd mewn Y Gyfraith
Campws Llandaf
Llawn amser
read-more
Darlithydd mewn Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi a Gweithrediadau
Campws Llandaf
Llawn amser
read-more
Cynorthwyydd Llyfrgell
Campws Cyncoed
Rhan Amser
read-more
Gweld pob swydd wag
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Yr Athro Katie Thirlaway
Dirprwy Is-Ganghellor a Phrofost, yn flaenorol Deon Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
“Mae gennym ni ddiwylliant gwych yma ym Met Caerdydd. Rydyn ni’n groesawgar, yn gynhwysol ac yn gweithio fel cymuned. Rydyn ni’n gymuned sy’n dysgu, ond wedi’n gwreiddio’n ddwfn iawn yn y gymuned leol hefyd.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Naeem Amir
Ymgynghorydd Gyrfaoedd, Gwasanaethau Myfyrwyr
“Mae fy nghydweithwyr i’n anhygoel. Dwi’n meddwl eu bod nhw’n ei wneud yn brofiad arbennig iawn hefyd. A dwi’n credu ar ddiwedd y dydd, mai’r myfyrwyr sy’n bwysig. Rydyn ni yma i helpu a chefnogi’r myfyrwyr, ac mae hynny’n rhan o ddiwylliant Met Caerdydd.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Jemma Oeppen-Hill
Deon Cyswllt, Ymgysylltiad Myfyrwyr
“Mae gennym ni ddywediad rydyn ni’n ei ddefnyddio ar ddyddiau agored ac mae’n mynd yr holl ffordd trwodd, sef ‘peidiwch â gadael neb ar ôl’, a dyma’r teimlad, eich bod chi’n fwy na dim ond rhif. Rydych chi’n rhan o rywbeth.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Ingrid Murphy
Prif Ddarlithydd, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
“Mae’n debyg, o ddydd i ddydd, mai dim ond gweld sut mae’r myfyrwyr hynny’n dod yn eu blaenau, sut maen nhw’n dod i mewn, mae’n debyg, ar ddechrau’r flwyddyn a’u gweld yn graddio gan fy mod i’n diwtor trydedd flwyddyn, a’u gweld nhw’n mynd ymlaen i gael llwyddiant anhygoel fel graddedigion.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Emma Manning
Rheolwr Symud Mwy, yn flaenorol Cydlynydd Campws Agored, Chwaraeon Met Caerdydd
“Mae pawb yno bob amser i helpu i roi hwb i chi a’ch helpu i fynd lle fynnwch chi, ac mae gan bawb gymaint o syniadau i’ch helpu gyrraedd yno hefyd.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Dr Mukul Madahar
Deon Cyswllt, Partneriaethau, Ysgol Reolaeth Caerdydd
“Dwi wedi bod yn gweithio gyda Met Caerdydd yn ei wahanol ffurfiau ers dros 20 mlynedd, felly dwi wedi gweithio gyda nhw am gryn amser a rhywsut mae wedi teimlo fel teulu i mi.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Dr Anna Bryant
Darllenydd mewn Addysg Iechyd Corfforol, Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
“Dwi’n meddwl mai’r teimlad o gymuned o amgylch y brifysgol, yr ymdeimlad o deulu, ond i’r un graddau, dwi’n meddwl mai natur gymwysedig y brifysgol sy’n arbennig hefyd.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn
Dyma aelodau cyfredol tîm Met Caerdydd…
Cecilia Bakare
Cynorthwy-ydd Cefnogi Diogelwch TG, Gwasanaethau Gwybodaeth
“Dwi’n teimlo mod i’n rhan o rywbeth gan fod y diwylliant, y bobl yn gynnes. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cefnogi cynhwysiant a chan eich bod chi’n cyfarfod pobl o gefndiroedd a chenhedloedd gwahanol, rydych chi’n gallu uniaethu â phobl.”
Cliciwch yma i weld y fideo’n llawn