Cymraeg - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Cymraeg
Ardal
Y Deyrnas Unedig (
Cymru
Lloegr
), yr Ariannin (
Talaith Chubut
Ethnigedd
Y Cymry
Siaradwyr
Cymru
: 538,300 (2021)
(17.8% o boblogaeth Cymru yn ôl
cyfrifiad 2021
y Deyrnas Unedig, gan gynnwys siaradwyr
L1
ac
L2
speakers)
Lloegr
: 110,000 (2007, amcangyfrifiad)
Yr Ariannin (Chubut)
: 1,500–5,000
Canada
: <3,885 (
L1
(2011)
Unol Daleithiau America
: 2,003
Awstralia
: 1,737
Teulu ieithyddol
Indo-Ewropeaidd
Celteg
Celteg Ynysig
Brythoneg
Brythoneg Gorllewinol
Cymraeg
Ffurfiau cynnar
Brythoneg
Hen Gymraeg
Cymraeg Canol
Tafodieithoedd
Gwyndodeg
Powyseg
Dyfedeg
Gwenhwyseg
Cymraeg y Wladfa
System ysgrifennu
Lladin
y wyddor Gymraeg
Braille Cymraeg
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn
Cymru
y Deyrnas Unedig
Iaith leiafrifol
gydnabyddedig yn
Yr Ariannin
Talaith Chubut
Rheolir gan
Comisiynydd y Gymraeg
(2012–heddiw)
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
(1993–2012)
Codau iaith
ISO 639-1
cy
ISO 639-2
wel
cym
ISO 639-3
cym
Glottolog
wels1247
ELP
Welsh
Linguasphere
50-ABA
Y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg
yng
Nghymru
yn ôl cyfrifiad 2021
Mae'r Gymraeg yn
mewn perygl
yn ôl
Atlas o Ieithoedd y Byd mewn Perygl
(2010) UNESCO.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys symbolau ffonetig
IPA
Heb
gymorth rendro
priodol, efallai y byddwch yn gweld
marciau cwestiwn, blychau, neu symbolau eraill
yn lle nodau
Unicode
. Am ganllaw cyflwyniadol ar symbolau IPA, gweler
Help:IPA
Map o Gymru yn 1891, gan ddangos dosbarthiad y Gymraeg yn ôl ardal mewn pum categori (o dan 10% i dros 80%)
Mae'r Gymraeg yn iaith mewn perygl yn ôl
UNESCO
Atlas Ieithoedd y Byd
(2010)
Iaith Geltaidd
a ddaeth o'r
Frythoneg
sy'n frodorol i'r
Cymry
yw
Cymraeg
[kəmˈraːiɡ]
neu
y Gymraeg

ɡəmˈraːiɡ]
gyda'r fannod). Siaredir y Gymraeg fel iaith frodorol yng Nghymru gan tua 18% o'r boblogaeth, gan rai yn
Lloegr
, ac yn
y Wladfa
(y wladfa Gymreig yn
Nhalaith Chubut
yr Ariannin
).
Rhoddodd
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
statws swyddogol i'r iaith Gymraeg yng Nghymru.
Mae'r Gymraeg a'r Saesneg ill dau yn ieithoedd swyddogol
de jure
Senedd
10
11
ond nid yw eu statws yn gyfartal yn ymarferol achos bod cyfieithiadau o'r Gymraeg i'r Saesneg a nid y gwrthwyneb.
Yn ôl
cyfrifiad 2021
, roedd 538,300 o breswylwyr arferol yng Nghymru oedd yn dair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg (17.8% o'r boblogaeth), tra bod ychydig dros chwarter (25.1%) yn nodi bod ganddynt rywfaint o sgiliau iaith Gymraeg.
12
Cafwyd ffigurau uwch gan arolygon eraill: canfu arolwg yn 2022–2023 fod 34% o bobl 16 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg (dywedodd 18 y cant ohonynt eu bod yn gallu siarad Cymraeg, a dywedodd 16 y cant fod ganddynt rywfaint o allu i siarad Cymraeg).
13
Ym mis Mawrth 2025, dangosodd data arolwg arall fod oddeutu 828,600 o bobl (26.9%) tair oed neu hŷn yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.
14
Mae bron i hanner yr holl siaradwyr Cymraeg yn ystyried eu hunain yn rhugl, tra bod 20% yn gallu siarad cryn dipyn.
15
Mae 56% o siaradwyr Cymraeg yn siarad yr iaith bob dydd, ac mae 19% yn siarad yr iaith yn wythnosol.
15
Flwyddyn ar ôl blwyddyn ers 1951, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi cynyddu
angen ffynhonnell
, er bod canran y siaradwyr hynny o fewn poblogaeth Cymru wedi gostwng bob degawd ar wahân i'r niferoedd a adroddwyd trwy Gyfrifiadau'r Deyrnas Unedig yn 1991 a 2001.
Mae
Llywodraeth Cymru
yn bwriadu cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn, a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith, erbyn 2050.
16
Ers 1980, mae nifer y plant sy'n mynychu
ysgolion Cymraeg
wedi cynyddu, tra bod y nifer sy'n mynd i ysgolion dwyieithog a chyfrwng deuol Cymraeg wedi gostwng.
17
Ystyrir y Gymraeg fel yr iaith Geltaidd sydd leiaf mewn perygl gan
UNESCO
18
Cymraeg
Iaith
Gramadeg
Morffoleg
Orgraff
Seinyddiaeth
Yr wyddor
Cymraeg llafar
Cymraeg ysgrifenedig
Benthyg geiriau
Hanes
Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg
Cymraeg Cynnar
Hen Gymraeg
Cymraeg Canol
Cymraeg Modern Cynnar
Cymraeg Modern Diweddar
Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg
Addysg Gymraeg
Diwylliant
Cerddoriaeth
Eisteddfod
Ffilm
Llenyddiaeth
Theatr
Cyfryngau
Papurau newydd
Radio
Rhyngrwyd
Teledu
Tafodieithoedd
Cymraeg y gogledd
Cymraeg y de
Y Bowyseg
Y Ddyfedeg
Y Wenhwyseg
Y Wyndodeg
Cymraeg y Wladfa
Wenglish
Mudiadau a sefydliadau
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Cymdeithas yr Iaith
Y Cymmrodorion
Cymuned
Merched y Wawr
Yr Urdd
WiciBrosiect Cymru
Mae'r Gymraeg yn un o'r 55 o ieithoedd i gael eu cynnwys fel cyfarchiad ar
Record Aur y Voyager
er mwyn cynrychioli'r Ddaear yn rhaglen Voyager NASA a lansiwyd ym 1977.
19
Mae pob cyfarchiad yn unigryw i'r iaith, a dywed y Gymraeg "
Iechyd da i chwi yn awr ac yn oesoedd
".
20
Hanes
golygu
golygu cod
Prif:
Hanes y Gymraeg
Tarddodd y Gymraeg o'r
Frythoneg
yn y
6g
, hynafiad cyffredin y Gymraeg,
Llydaweg
Cernyweg
, a'r iaith farw,
Cymbreg
Fel y mwyafrif o ieithoedd, mae cyfnodau canfyddadwy o fewn hanes y Gymraeg, ond mae'r ffiniau rhwng y rheiny yn aneglur fel arfer.
Tarddodd yr enw Saesneg ar yr iaith, sef
Welsh
, o'r enw a roddwyd i'w siaradwyr gan yr
Eingl-Sacsoniaid
, sy'n golygu "iaith estron" (gweler
Walha
). Yr enw brodorol ar yr iaith yw
Cymraeg
, a'r enw brodorol ar y wlad yw
Cymru
wrth gwrs.
Niferoedd
golygu
golygu cod
Prif:
Poblogaeth siaradwyr Cymraeg
Graff o ganran y boblogaeth a oedd yn gallu siarad Cymraeg, 1911–2001.
Gellir disgrifio’r tueddiadau o 1891 hyd at 1971 yn weddol syml: gydag ychydig o eithriadau, gostyngodd y ganran oedd yn siarad Cymraeg ymhob grŵp oedran o’r naill gyfrifiad i’r llall. Cynyddodd y nifer absoliwt o siaradwyr o 1891 i gyrraedd bron i filiwn (977,366) yn 1911.
Dosraniad o siaradwyr Cymraeg
golygu
golygu cod
Marciau ffyrdd dwyieithog ar bwys
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd
Bro Morgannwg
Ceir dadansoddiad cynhwysfawr o sefyllfa'r Gymraeg yng Nghymru yn adroddiad 5-mlynedd
Comisiynydd y Gymraeg
21
, sy'n defnyddio arolwg
22
ynghyd â ffynonellau eraill. Yn ôl
Cyfrifiad 2011
roedd 19.0% yn gallu siarad Cymraeg, gostyngiad o 1.8% ers
Cyfrifiad 2001
, ond yn uwch na'r 18.7% ym 1991. Dangosodd cyfrifiad 2011 y ganwyd tua 25% o breswylwyr Cymru y tu allan i Gymru. Nid oes ystadegau ar faint o bobl sy'n siarad Cymraeg yng ngweddill Prydain ond adroddodd Cyfrifiad 2011 fod 8,248 o bobl (3 oed a throsodd) yn Lloegr yn ystyried y Gymraeg yn brif iaith iddynt.
23
Ym 1993, cyhoeddodd
S4C
ganlyniadau arolwg ar faint o bobl a allai siarad neu ddeall Cymraeg. Darganfu'r arolwg yma fod tua 133,000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Lloegr, gyda thua 50,000 ohonynt yn byw yn Llundain Fawr.
24
Amcangyfrifodd
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
fod 110,000 o bobl yn 2001 a oedd yn gallu siarad Cymraeg ar ddyddiad cynharach yn byw yn Lloegr.
25
Yn sgil mudo a thwf yn nylanwad y Saesneg ar fröydd Cymraeg, cafwyd lleihad yn y niferoedd sy'n siaradwyr uniaith Cymraeg
26
. Bellach nid oes siaradwyr
uniaith
y Gymraeg i gael. Ar y cyfan, mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn siarad y Saesneg (yn
Nhalaith Chubut
, yr Ariannin, Sbaeneg yw iaith y mwyafrif —
gweler
Y Wladfa
). Serch hynny, mae llawer o siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn fwy cyffyrddus yn mynegi eu hunain drwy gyfrwng y Gymraeg na'r Saesneg. Gall yr iaith y mae siaradwyr yn ei dewis amrywio yn ôl yr angen, pwnc, cyd-destun cymdeithasol, ac o fewn
mynegiant
(a elwir yn
ieithyddiaeth
yn cyfnewid côd).
Caiff y Gymraeg ei siarad yn iaith gyntaf yng Ngogledd a Gorllewin Cymru yn bennaf, yng
Ngwynedd
Conwy
Sir Ddinbych
Ynys Môn
Sir Gâr
, gogledd
Sir Benfro
Ceredigion
, ardaloedd ym
Morgannwg
, a gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain eithafol
Powys
, ond canfyddir siaradwyr iaith gyntaf a siaradwyr rhugl ar draws Cymru gyfan.
Ymgyrchu dros y Gymraeg
golygu
golygu cod
Cefndir
golygu
golygu cod
Bu agweddau negyddol tuag at y Gymraeg yn y 19g a disgrifodd golygydd y 'Times' y Gymraeg fel "the curse of Wales" yn 1866. Er gwaethaf hyn, siaradodd y prif weinidog Gladstone yn Eisteddfod yr Wyddgrug gan sôn am yr heniaith, ac yn 1877, dan ddylanwad
Matthew Arnold
, sefydlwyd Llywydd Astudiaethau Celtaidd. Yn 1888 galwodd Gladstone am adnabyddiaeth yr Eglwys o'r Gymraeg a fyddai'n awgrymu adnabyddiaeth y Llywodraeth yn ei dro.
27
Ymgyrchu
golygu
golygu cod
Trefnodd
Cymdeithas y Cymmrodorion
sesiynau yng Nghapel Penlan yn ystod
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pwllheli 1925
i drafod "Cadwraeth yr Iaith". Roedd y Parchedig Ddr. G Hartwell Jones, Elfed a Phedrog yn pwysleisio creu ewyllys da tuag at y Gymraeg tra roedd
Thomas Gwynn Jones
a J.H. Jones, golygydd
Y Brython
, yn mynnu nad oedd gobaith ei chynnal heb wleidyddiaeth ymosodol o'i phlaid.
Roedd Syr
John Morris-Jones
yn cyfiawnhau darlithio i'w fyfyrwyr yn Saesneg am ei fod am weld y Cymry yn genedl ddwyieithog ac nad oedd ar y Gymraeg angen termau ar gyfer trafod y byd cyfoes. Mynnai
Prosser Rhys
Edward Morgan Humphreys
a'r Parch
D. Tecwyn Evans
y dylid hyrwyddo'r Gymraeg mewn storïau poblogaidd i'r ifanc, mewn drama a ffilm a rhaglenni radio.
28
29
Statws swyddogol
golygu
golygu cod
Er mai iaith leiafrifol ydyw'r Gymraeg, cynyddodd y gefnogaeth iddi yn ystod ail hanner y 20g, ynghyd â chynnydd mewn sefydliadau megis y blaid wleidyddol
genedlaethol
Plaid Cymru
ers 1925, a
Chymdeithas yr Iaith Gymraeg
ers 1962.
Yn ôl
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Deddf Llywodraeth Cymru 1998
, roedd yn rhaid i'r sector gyhoeddus drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, cyn belled ag oedd hynny'n rhesymol ac ymarferol. Roedd yn rhaid i gyrff cyhoeddus ysgrifennu
Cynllun yr Iaith Gymraeg
, oedd yn rhaid ei gymeradwyo ymlaen llaw, oedd yn nodi ymrwymiad i drin y Gymraeg yn gyfartal. Anfonwyd y drafft hwn am ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o dri mis, lle gellid cynnwys sylwadau awgrymedig yn y fersiwn derfynol. Wedyn, roedd angen ar
Fwrdd yr Iaith
ei gymeradwyo cyn iddo gael ei dderbyn yn derfynol gan y cwmni dan sylw. Ar ôl hynny, roedd yn rhaid i'r corff cyhoeddus weithredu ei rwymedigaethau yn unol â'i Gynllun.
Ar 7 Rhagfyr 2010, cymeradwyodd y Cynulliad yn unfrydol set o fesurau i'w defnyddio er mwyn datblygu defnydd y Gymraeg yng Nghymru.
30
Ar 9 Chwefror 2011, derbyniodd y mesur hwn Gydsyniad Brenhinol a chafodd ei gymeradwyo, a chan hynny yn gwneud y Gymraeg yn iaith a gydnabyddir yn swyddogol yng Nghymru.
31
Mae
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
yn:
cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg;
creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
creu comisiynydd yr Iaith Gymraeg newydd a chanddo bwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
sefydlu Tribiwnlys Iaith Gymraeg newydd;
rhoi’r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
creu cyngor Partneriaeth Iaith Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effeithiau ei pholisïau ar y Gymraeg;
caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.
32
O ganlyniad i gymeradwyo'r mesur hwn, y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond ni wyddys eto'r pa gwmnïau a fydd yn gorfod cydymffurfio. Meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, "
Mae’r Gymraeg yn destun balchder i bobl Cymru, p’un a ydynt yn ei siarad neu beidio ac rwy’ wrth fy modd felly bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo’r Mesur. Rwy’n falch fy mod wedi cael llywio’r ddeddfwriaeth trwy’r Cynulliad sy’n cadarnhau statws swyddogol yr iaith; sy’n creu eiriolydd cryf dros siaradwyr y Gymraeg ac a fydd yn cynyddu’n sylweddol nifer y gwasanaethau fydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Rwy’n credu dylai pawb sydd eisiau derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, gael y cyfle i wneud hynny, a dyna beth mae’r llywodraeth yma wedi bod yn gweithio tuag ato. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn gam pwysig a hanesyddol ymlaen i’r iaith, eu siaradwyr ac i’r genedl
".
32
Ni dderbyniwyd y mesur gan bawb; ysgogodd Bethan Williams, cadeirydd
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
, ymateb cymysg, gan ddweud, "
Through this measure we have won official status
for the language and that has been warmly welcomed. But there was a core principle missing in the law passed by the Assembly before Christmas. It doesn't give language rights to the people of Wales in every aspect of their lives. Despite that, an amendment to that effect was supported by 18 Assembly Members from three different parties, and that was a significant step forward
".
33
Ar 5 Hydref 2011, penodwyd Meri Huws, Cadeirydd
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
, yn Gomisiynydd newydd dros y Gymraeg.
34
Mewn datganiad a ryddhawyd ganddi, dywedodd ei bod "wrth ei bodd" i gael ei phenodi i'r "rôl bwysig bwysig," hon, gan ychwanegu, "
Bydda i'n adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac eraill er mwyn cryfhau'r Gymraeg a sicrhau ei bod yn parhau i ffynnu.
" Dywedodd
Carwyn Jones
, Prif Weinidog Cymru, y byddai Meri yn "eiriolwr ardderchog dros y Gymraeg," ond roedd pryderon gan ambell i berson; dywedodd Bethan Jenkins o
Blaid Cymru
, "
I have concerns about the transition from Meri Huws's role from the Welsh Language Board to the language commissioner, and I will be asking the Welsh government how this will be successfully managed. We must be sure that there is no conflict of interest, and that the Welsh Language Commissioner can demonstrate how she will offer the required fresh approach to this new role
."
35
Cychwynnodd Meri ei gwaith fel Comisiynydd Iaith ar 1 Ebrill 2012.
Defnyddia cynghorau lleol a
Chynulliad Cenedlaethol Cymru
y Gymraeg yn iaith lled-swyddogol, gan ddosbarthu deunydd llenyddol a hyrwyddol yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg (e.e., llythyron at rieni o'r ysgol, gwybodaeth llyfrgelloedd, gwybodaeth cynghorau ac ati) ac mae'r mwyafrif o arwyddion ffyrdd yng Nghymru yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys enwau lleoedd. Serch hynny, defnyddir yr enw Saesneg yn unig am leoedd mewn rhai mannau yn Lloegr er bod enwau Cymraeg arnynt ers llawer dydd (e.e.
London
: Llundain;
The [English] Midlands
: Canolbarth Lloegr).
Ers 2000, mae hi'n orfodol i addysgu'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion hyd at 16 oed, ac mae hyn wedi cyfrannu at sefydlogi ac i ryw raddau at wrthdroi dirywiad yr iaith mewn rhai mannau.
Er bod arwyddion ffyrdd dwyieithog yng Nghymru, mae'r geiriad ar arian o hyd yn uniaith Saesneg. Yr unig eithriad i hyn fu'r arysgrif ar bunnoedd Cymru yn 1985, 1990, a 1995, a ddywedai,
Pleidiol wyf i'm gwlad
o anthem genedlaethol Cymru,
Hen Wlad fy Nhadau
. Nid yw'r Gymraeg ar y ceiniogau Prydeinig newydd (2008 ymlaen), er iddynt gael eu dylunio gan Ogleddwr a'u bathu yn y
Bathdy Brenhinol
yn Llantrisant, yn ne Cymru. Er bod llawer o siopau yn arddangos arwyddion dwyieithog, prin ydy'r defnydd o'r Gymraeg ar ddeunydd pacio a chyfarwyddiadau.
Geirfa
golygu
golygu cod
Prif:
Benthyg geiriau i'r Gymraeg
Mae geirfa'r Gymraeg yn tarddu o eiriau'r
Frythoneg
yn bennaf (megis
wy
carreg
), gydag ambell i air benthyg o'r
Lladin
(megis
ffenestr
< Lladin
fenestra
gwin
< Lladin
vinum
), a'r
Saesneg
(megis
silff
gât
). Mae'r Gymraeg, fel ieithoedd eraill y byd, yn benthyca geirfa oddi ar ieithoedd eraill. Benthyciwyd i'r Gymraeg o'r Lladin, yr
Wyddeleg
, y
Ffrangeg
, a'r Saesneg yn bennaf. Ceir rhai geiriau Cymraeg sy'n tarddu o'r Hen
Norseg
, y
Roeg
, a'r
Hebraeg
. Ar hyn o bryd, o'r Saesneg y benthycir gan fwyaf, ac o ieithoedd eraill y byd drwy'r Saesneg.
Orgraff
golygu
golygu cod
Prif:
Orgraff y Gymraeg
Yr wyddor Gymraeg
Ysgrifennir y Gymraeg gyda
gwyddor Ladin
, sydd defnyddio 28 llythyren yn draddodiadol, lle bo wyth ohonynt yn
ddeugraffau
(dwy lythyren a drinnir yn un) ar gyfer
coladiad
a, b, c, ch, d, dd, e, f, ff, g, ng, h, i, l, ll, m, n, o, p, ph, r, rh, s, t, th, u, w, y
Yn wahanol i'r Saesneg, ystyrir "w" ac "y" yn llafariaid yn y Gymraeg, ynghyd ag "a", "e", "i", "o" ac "u".
Defnyddir y llythyren "j" mewn geiriau benthyg o'r Saesneg, megis
jam
jôc
, a
garej
. Prin iawn yw'r defnydd o "k", "q", "v", "x", a "z", ond fe'u defnyddir o fewn rhai cyd-destunau technegol, megis
kilogram
volt
zero
, ond defnyddir amnewidiadau Cymraeg fel arfer:
cilogram
folt
sero.
36
Roedd y llythyren "k" yn gyffredin hyd y 16g, ond fe'i collwyd adeg cyhoeddi'r Testament Newydd yn y Gymraeg, fel yr eglurodd
William Salesbury
: "
C for K, because the printers have not so many as the Welsh requireth
". Nid oedd y newid yma yn boblogaidd ar y pryd.
37
Yr
acen grom
yw'r marc diacritig mwyaf cyffredin, sy'n gwahaniaethu llafariaid hir a byr, fel arfer gyda homograffau yn bennaf, lle bo'r llafariad yn fyr mewn un gair ac yn hir yn y llall: e.e.,
man
mân
Gramadeg y Gymraeg
golygu
golygu cod
Prif:
Gramadeg y Gymraeg
Ffonoleg
golygu
golygu cod
Prif:
Ffonoleg y Gymraeg
Nodweddir
ffonoleg
y Gymraeg gan nifer o synau nad ydynt yn bodoli yn y Saesneg ac sy'n
deipolegol
brin mewn ieithoedd Ewropeaidd. Mae'r
acen bwys
fel arfer yn disgyn ar y goben (y sillaf olaf ond un) mewn geiriau aml-sillafog.
Morffoleg
golygu
golygu cod
Prif:
Morffoleg Cymraeg llafar
Morffoleg Cymraeg llenyddol
Cystrawen
golygu
golygu cod
Prif:
Cystrawen y Gymraeg
Cymraeg ysgrifenedig
golygu
golygu cod
Arwyddion dwyieithog
yng
Nghaerfyrddin
Prif:
Cymraeg ysgrifenedig
Aethpwyd ati i ysgrifennu Cymraeg yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin a Groeg), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan,
Tywyn
y ceir y geiriau Cymraeg cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.
Perthynas Cymraeg ysgrifenedig a Chymraeg llafar
golygu
golygu cod
Gan fod datblygiad Cymraeg Fodern ysgrifenedig yn lled araf mae gagendor eang wedi agor rhyngddi a Chymraeg llafar. Yn wir, mae rhai o'r gwahaniaethau rhwng yr ysgrifenedig a'r llafar yn hen iawn. Ysgrifennir ffurf trydydd person lluosog y ferf yn
–ant
ond fe'i hyngenir yn
–an
. Dengys barddoniaeth y 12g, lle odlid geiriau'n diweddu ag
–ant
gyda rhai yn diweddu ag
–an
, fod y gwahaniaeth hwn eisoes yn bodoli bryd hynny. Dim ond yn ddiweddar y cydnabuwyd llawer o newidiadau yr iaith lafar yn y Gymraeg ysgrifenedig newydd a elwir yn Gymraeg Cyfoes.
Tafodieithoedd ac iaith lafar
golygu
golygu cod
Prif:
Cymraeg llafar
Cymraeg llafar
yw'r iaith fel y'i siaredir yn hytrach na'i hysgrifennu. Mae hi'n wahanol i'r iaith ysgrifenedig o ran geirfa, gramadeg a
morffoleg
. Ceir ynddi sawl cywair ieithyddol tra gwahanol, a sawl
tafodiaith
Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg
golygu
golygu cod
Prif:
Hanes siaradwyr, tiriogaeth a statws y Gymraeg
Credir bod tua 90% o boblogaeth Cymru yn Gymry Cymraeg ddechrau'r
19g
a rhyw 70% yn Gymry uniaith. Erbyn 2001, mae rhyw 20.5% o bobl yn siarad Cymraeg (un mewn pump),
38
sef rhyw 580,000 o bobl yn ôl y cyfrifiad.
Ieithoedd Cymru 1750 - 1900
1750
1800
1850
1900
Allwedd
: • Cymraeg
• Dwyieithog
• Saesneg
Y Wladfa
golygu
golygu cod
Arwydd dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg yn
Nhrelew
, yr Ariannin.
Prif:
Cymraeg y Wladfa
Mae cymuned fechan o ddisgynyddion i Gymry Cymraeg wedi goroesi yn
y Wladfa
, ym
Mhatagonia
yr Ariannin
. Siaredir Cymraeg ym Mhatagonia er
1865
pan aeth grŵp o ymsefydlwyr o Gymru yno i fyw, i chwilio am fywyd gwell ac i gael byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn rhydd o orthrwm.
Diwylliant Cymraeg
golygu
golygu cod
Prif:
Diwylliant Cymraeg
Diwylliant Cymru
Iaith
Cymraeg
Y Fro
Hanes y Gymraeg
Ieithoedd Cymru
Traddodiad
Gwisg Gymreig
Cyfraith Hywel
Cantref
Llenyddiaeth
Llenyddiaeth Gymraeg
Llenyddiaeth Saesneg
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth Cymru
Bwyd
Coginiaeth Cymru
Dathliadau a gwyliau
Rhestr dathliadau Cymru
Eisteddfod
Gorsedd y Beirdd
Cerddoriaeth a dawns
Dawns Gymreig
Clocsio
Cerddoriaeth draddodiadol Cymru
Cerdd Dant
Crwth
Cymanfa Ganu
Cynghanedd
Noson Lawen
Pibgorn
Tabwrdd
Telyn deires
Twmpath
Pibau Cymreig
Drama
Theatr Genedlaethol Cymru
Chwaraeon
Chwaraeon yng Nghymru
Symbolau
Symbolau cenedlaethol
Y Ddraig Goch
Baneri Cymru
Baner Cymru
Crefydd
Crefydd yng Nghymru
Hanes
Hanes Cymru
WiciBrosiect Cymru
Adeg twf Anghydffurfiaeth yn ystod y
19g
, daeth y capeli yng Nghymru yn ganolbwynt bywyd Cymraeg. Ymysg y llu o weithgareddau cymdeithasol a drefnwyd gan y capeli ceid eisteddfodau, corau a theithiau gwib. Ond erbyn diwedd y 19eg ganrif yn yr ardaloedd diwydiannol roedd gan y boblogaeth arian yn eu pocedi a'r gallu i dalu am adloniant y tu allan i furiau'r capel. Roedd difyrrwch ar gael yn y theatr, yn y trefi gwyliau, ac yn ddiweddarach mewn ffilm, ar y radio ac ar y teledu. Tanseiliwyd lle'r capeli Cymraeg, a fu'n ganolbwynt cymdeithas, gan yr adloniant newydd hudolus. Erbyn dechrau'r 20g, cyrhaeddai'r diwylliant Eingl-Americanaidd y byd a'r betws drwy ffilm, radio a theledu gan gystadlu ag adloniant a diwylliant traddodiadol y cartref a'r gymuned leol.
Sefydlwyd rhai mudiadau cenedlaethol Cymraeg eu cyfrwng yn ystod yr
20g
, sydd i raddau yn llenwi'r bwlch a adawyd wrth i weithgaredd cymdeithasol y capeli ddihoeni. Mudiad yr
Urdd
a ffurfiwyd ym
1922
yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae
Merched y Wawr
a'r
Ffermwyr Ifainc
hefyd yn fudiadau o bwys yn cynnal gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir nifer o fudiadau cenedlaethol eraill Cymraeg eu hiaith megis
Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg
Cymdeithas Edward Llwyd
, a'r
Gymdeithas Wyddonol
. Sefydlwyd
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
ym
1751
gan Forrisiaid Môn yn gymdeithas lenyddol i amddiffyn y Gymraeg.
Eisteddfodau
golygu
golygu cod
Mae gan
eisteddfodau
le canolog yn niwylliant Cymru a'r Gymraeg. Wedi nychdod yr hen gyfundrefn eisteddfodol yn y canrifoedd wedi'r Deddfau Uno adnewyddwyd yr eisteddfod gyda chyfarfodydd taleithiol yn ystod y 19eg ganrif. Sefydlwyd yr
Eisteddfod Genedlaethol
yn y 1860au ond defnyddiwyd mwy a mwy o Saesneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda threigl y blynyddoedd. Erbyn
1931
Saesneg oedd prif iaith y llwyfan, y beirniadaethau a seremonïau gorsedd y Beirdd, sefyllfa annerbyniol i lawer. Gwnaethpwyd y Gymraeg yn iaith swyddogol yr Eisteddfod ym
1937
ond parhau wnaeth y defnydd o'r Saesneg ar lwyfan yr eisteddfod tan
1952
pan gyflwynwyd y Rheol Gymraeg. O hyn ymlaen, y Gymraeg yn unig a glywid ar lwyfan yr Eisteddfod (heblaw am rai anerchiadau gan westeion gwadd). Mae'r Rheol Gymraeg hithau'n bwnc llosg sydd wedi peri i rai awdurdodau lleol atal eu cyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniedir yr Eisteddfod Genedlaethol gan rai am safon anwastad y llenyddiaeth a wobrwyir. Ar y llaw arall, clodforir yr Eisteddfod am ei bod yn ŵyl ddiwylliannol i'r werin, am roi llwyfan cenedlaethol i artistiaid Cymru, am feithrin barddoni, ac am hybu dysgu Cymraeg.
Trefnir eisteddfodau gan gymdeithasau megis yr Urdd,
Mudiad y Ffermwyr Ifainc
, ac
Undeb Cenedlaethol y Glowyr
. Cynhelir rhai eisteddfodau taleithiol o hyd, megis eisteddfod Pontrhydfendigaid ac ambell eisteddfod drefol neu bentrefol, ond nid oes cymaint o fri ar y rhain ag a fu ac nid yw'r capeli'n trefnu eisteddfodau fel ag y buont ychwaith.
Llenyddiaeth Gymraeg
golygu
golygu cod
Prif:
Llenyddiaeth Gymraeg
Llenyddiaeth Gymraeg
Rhestr llenorion
550-1600
1600-heddiw
Cyfnodau
Canu cynnar
Oesoedd Canol
16eg ganrif
17eg ganrif
18fed ganrif
19eg ganrif
20fed ganrif
Rhestr llenorion
Yr Hengerdd
Canu'r Bwlch
Beirdd y Tywysogion
Beirdd yr Uchelwyr
Blodeugerddi
Mesurau
Hen Benillion
Canu Rhydd
Drama
Anterliwt
Rhyddiath
Rhyddiaith Cymraeg Canol
Mabinogi
Y Tair Rhamant
Trioedd Ynys Prydain
Nofelau
Erthyglau eraill
Llawysgrifau
Llên gwerin
Mynegai i erthyglau cysylltiedig
WiciBrosiect Cymru
Llyfrau argraffedig Cymraeg
golygu
golygu cod
Dyfyniadau Ynglŷn â'r Iaith Gymraeg
Argraffwyd llyfrau Cymraeg yn gynnar o gymharu â llawer o ieithoedd eraill Ewrop nad oeddent yn ieithoedd gwladwriaeth. Nifer fechan o lyfrau a gyhoeddwyd, cyfanswm o 116 rhwng 1546 a 1670. Crefydd oedd pwnc mwyafrif y llyfrau hyn. Yna cynyddodd nifer y llyfrau a gyhoeddwyd i gyfartaledd o 4 y flwyddyn rhwng 1670 a 1700 a 14 y flwyddyn rhwng 1700 a 1730, yn rhannol drwy nawdd y Welsh Trust a'r SPCK. Erbyn y 18g, roedd pris llyfr wedi disgyn yn sylweddol, ac o fewn cyrraedd y werin. Ymhlith y llyfrau a gyhoeddwyd yr oedd rhai o glasuron y Dadeni Dysg a llenyddiaeth grefyddol Cymru:
Cannwyll y Cymry
gan y
Ficer Prichard
1681
) a
Gweledigaetheu y Bardd Cwsc
gan
Ellis Wynne
1703
). Esgorodd cynnydd aruthrol llythrennedd yn ystod y 18g yn esgor ar alw am lyfrau o bob math, yng Nghymru fel ag yn Lloegr. Sefydlwyd nifer o argraffdai yng Nghymru i gyflenwi'r farchnad newydd â llyfrau. Cyhoeddwyd dros 2,500 o lyfrau Cymraeg yn ystod y 18g.
Heddiw, cyhoeddir 500-600 llyfr Cymraeg yn flynyddol, llawer ohonynt yn lyfrau i blant. Ymysg y cyhoeddwyr pennaf mae Gwasg Gomer, Gwasg Prifysgol Cymru a'r Lolfa (
rhestr gyflawn o gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg
). Ariennir y gwaith o gyhoeddi llawer o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan y Llywodraeth drwy
Gyngor Llyfrau Cymru
a sefydlwyd fel y Cyngor Llyfrau Cymraeg ym
1961
. Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd yn dosbarthu llyfrau Cymreig yn Saesneg.
Ceir casgliad helaeth o lawysgrifau, cyfnodolion a llyfrau Cymraeg yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Un o swyddogaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw rhoi ar gadw copi o bob llyfr gaiff ei gyhoeddi ym Mhrydain. Yn ogystal â deunydd ar bapur cesglir yno ddeunydd ar gyfryngau sain a llun.
Llenyddiaeth am y Gymraeg
golygu
golygu cod
Mae'r Gymraeg wedi bod yn elfen flaenllaw yn yr
ymwybyddiaeth o'r hunaniaeth Gymreig
. Mae'r ymwybyddiaeth hon yn treiddio i waith llenorion Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Efallai mai'r man lle mae'r Gymraeg yn fwyaf amlwg yw'r anthem genedlaethol "
Hen Wlad fy Nhadau
": "a bydded i'r heniaith barhau". Mae'r Gymraeg, Cymreictod a cholli iaith yn themâu i nifer o weithiau llenyddol. Ymhlith y mwyaf amlwg o'r rhain yw nofel
Islwyn Ffowc Elis
Wythnos yng Nghymru Fydd
, a cherddi
Gerallt Lloyd Owen
gan gynnwys "Etifeddiaeth", cerdd
Gwyneth Lewis
Y Llofrudd Iaith
, cerddi
Jac Glan-y-gors
Dic Siôn Dafydd
", a cherddi
Waldo Williams
"Yr Heniaith" a "Cymru a Chymraeg". Dylid hefyd grybwyll cerdd arall gan Waldo Williams, "Cofio", sy'n alarnad i ieithoedd a phobloedd golledig y ddaear gyfan.
Yn ogystal â cherddi sy'n moli'r Gymraeg neu weithiau yn galaru amdani neu'n ymgyrchu trosti, ceir hefyd weithiau sy'n mynegi'r profiad o fod yn Gymro Cymraeg. Mae'r profiad hwn yn annatod glwm wrth ddylanwad cenedligrwydd, cenedlaetholdeb, galar, cymhleth israddoldeb, rhamant y gorffennol, gwawd y Sais, ymgecru ymysg y Cymry, perthyn i draddodiad hir a gwerthfawr, a pherthyn i fro.
39
Ceir ymateb cymhleth i'r Gymraeg a'r ymwybyddiaeth o Gymreictod hefyd yng ngweithiau rhai llenorion Cymreig yn ysgrifennu yn Saesneg yn enwedig o'r 1930au ymlaen. Yn eu plith mae gweithiau
Caradoc Evans
, Cymro Cymraeg, megis
My People
, gweithiau
R. S. Thomas
a ddysgodd Gymraeg (megis "
Reservoirs
" yn ei
Collected Poems 1945-1990
), a
Gwyn Thomas
, yn Gymro di-Gymraeg o'r union genhedlaeth na fagwyd yn Gymry Cymraeg. Rhoddwyd mynegiant am y tro cyntaf i ymdeimlad o Gymreictod di-Gymraeg gan rai o'r llenorion hyn. Ffenomenon yn perthyn i Gymru'r 20g yw'r diwylliant Cymreig di-Gymraeg a dyfodd yn sgil y mewnlifiad mawr i'r cymoedd diwydiannol yn ystod y ddau ddegawd cyntaf o'r ganrif. Diddorol sylwi bod
T. Llew Jones
, a hanai o'r un ardal â Caradoc Evans, wedi galw ei hunangofiant o fwriad yn
Fy Mhobol i
; ynddo mae'n trafod ymateb Caradoc Evans i'r Gymraeg.
Er mai digon gelyniaethus oedd rhai o'r llenorion Cymraeg a Saesneg tuag at ei gilydd ar ddechrau'r 20g, ond erbyn diwedd y ganrif roeddynt yn tueddi i gymodi yn lle ymgecru. Llwyddwyd i gyhoeddi casgliad o farddoniaeth yn
The Oxford Book of Welsh Verse in English
ym
1977
a gynhwysai gerddi Saesneg a cherddi a gyfieithwyd o'r Gymraeg mewn un gyfrol. Ym
1986
cyhoeddwyd
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
ar y cyd â
The Oxford Companion to the Literature of Wales
. Erbyn hyn, ceir nifer o gyfrolau a gyhoeddir yn Saesneg a Chymraeg ar y cyd, megis llyfrau yn adrodd hanes bro neu'n dathlu digwyddiad hanesyddol.
Celfyddydau eraill
golygu
golygu cod
Prif:
Theatr Gymraeg
Ffilm Gymraeg
Cymraeg a'r cyfryngau
golygu
golygu cod
Prif:
Cyfryngau Cymraeg
Yn gyffredinol mae datblygiadau technolegol yn y cyfryngau cyfathrebu wedi hyrwyddo'r Saesneg yng Nghymru, fel ag yn y byd yn gyffredinol. Galluogai'r dechnoleg newydd, yn bapur newydd ac yna'n radio, teledu a'r rhyngrwyd, i'r Saesneg dreiddio i aelwydydd Cymraeg, lle na chlywsid erioed Saesneg gynt. Dylanwadai'r radio a'r teledu, a gyrhaeddai aelwydydd Prydain gyfan, ar agweddau ac arferion gwrandawyr a gwylwyr.
40
Ym mhob un o'r cyfryngau newydd fe geisiai rhai sicrhau bod y Gymraeg yn ennill ei phlwyf yn wyneb y gystadleuaeth Saesneg, weithiau'n llwyddiannus ac weithiau'n aflwyddiannus.
Papurau newydd
golygu
golygu cod
Prif:
Papurau newydd Cymraeg
Yn ystod y
19g
tyfodd diwydiant
papur newydd
ffyniannus yng Nghymru. Erbyn 20au a 30au'r
20g
, fodd bynnag, roedd y farchnad papurau newydd drwy Brydain yn mynd yn fwy-fwy canolog dan bwysau'r farchnad a bu cwymp yn nifer y papurau newydd a gyhoeddid. Peidiodd
Y Darian
ym
1934
, traflyncwyd
Y Genedl Gymreig
gan gwmni'r Herald ym
1932
, a pheidiodd
Y Faner
ym
1992
Heddiw, mae nifer o bapurau a chylchgronau Cymraeg wythnosol neu fisol ar gael megis
Golwg
Y Cymro
Barn
ond does dim un papur dyddiol. Cafwyd ymdrech i lansio papur wythnosol o'r enw 'Y Byd', ond yn 2007 rhoddwyd y gorau i'r syniad oherwydd diffyg nawdd cyhoeddus. Noddir nifer o gylchgronau arbenigol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Erbyn heddiw, mae'r galw am newyddion lleol trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ddiwallu gan y papurau bro. Mae'r
papurau bro
yn aelodau o'r Gymdeithas Papurau Bro, ac yn derbyn nawdd o'r llywodraeth i ariannu'r papurau hyn. Mae dau gylchgrawn ar gyfer dysgwyr ar gael — Lingo (Golwg) ac Acen ar gyfer dysgwyr ar y lefelau isaf.
Radio
golygu
golygu cod
Prif:
Radio Cymraeg
Teledu
golygu
golygu cod
logo
S4C
Prif:
S4C
Darlledwr sy'n darparu gwasanaethau teledu yn y Gymraeg yw Sianel Pedwar Cymru neu S4C. Dechreuodd ddarlledu ar y 1af Tachwedd 1982.
Ei gyfrifoldeb yw darparu gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg. Cyn sefydlu S4C roedd Cymry Cymraeg yn ddibynnol ar raglenni achlysurol ar BBC Cymru a HTV Cymru, yn aml yn hwyr yn y nos neu ar adegau amhoblogaidd eraill. Roedd hyn yn annerbyniol i'r Cymry Cymraeg ac i'r di-Gymraeg hefyd am fod rhaglenni Saesneg o weddill Prydain yn cael eu disodli neu'n cael ei darlledu ar amseroedd gwahanol.
Datblygiadau Technoleg yn yr Iaith Gymraeg
golygu
golygu cod
Cymraeg ar y rhyngrwyd
golygu
golygu cod
Prif:
Cymraeg ar y rhyngrwyd
Yn ôl ymchwil diweddar,
41
postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar 15 Awst 1989
42
Ar 13 Tachwedd 1992, agorwyd y rhestr e-bost WELSH-L, sef y
Welsh Language Bulletin Board
43
Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer fawr o feysydd ar y rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.
Yn sgil goblygiadau
Deddf Iaith 1993
, mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchu
gwefannau
dwyieithog. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain.
O ran y
cyfryngau cymdeithasol
Cymraeg, mae dros 300 o flogiau Cymraeg
44
erbyn 2015, a thros 4,500 o gyfrifon yn defnyddio Cymraeg ar Twitter.
45
Nid yw'n glir beth yn union yw'r defnydd o Facebook, ond adnabu ymchwil a gynhaliwyd yn 2008
46
bod 238 grŵp Facebook lle roedd defnydd o'r Gymraeg.
Mae llenyddiaeth Gymraeg wedi hawlio ei le ar y we hefyd. Yn 1996 rhoddwyd holl farddoniaeth y
Prifardd Robin Llwyd ab Owain
ar y we fyd eang dan yr enw
Rebel ar y We
47
; dyma oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg ar y rhyngrwyd.
48
49
Bu
Gwasg y Lolfa
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
a'r
Llyfrgell Genedlaethol
hefyd yn flaenllaw iawn yn y dyddiau cynnar hyn.
Gweler hefyd
golygu
golygu cod
Yr wyddor Gymraeg
Enwau'r Cymry
Rhestr gramadegau ac adnoddau ieithyddol Cymraeg
Rhestr gramadegau Cymraeg (hyd 1900)
Rhestr geiriaduron Cymraeg
Llyfryddiaeth
golygu
golygu cod
Cyffredinol
golygu
golygu cod
H Pedersen,
Vergleichende Grammatik dêr keltischen Sprachen
, 1909-1913, (yn Almaeneg)
Henry Lewis & Holger Pedersen,
A Concise Comparitive Celtic Grammar
(1937)
Canu Heledd – testun a nodiadau Canu Llywarch Hen
, Gol. Ifor Williams (1935)
Ifor Williams,
Y Gododdin: testun a thrafodaeth ragarweiniol Canu Aneirin
, (1938)
Glyn Jones,
The Dragon Has Two Tongues
(1968) sy'n trafod gwaith a hanes yr awduron Eingl-*Gymreig yn hanner cyntaf yr 20g.
Llyfryddiaeth yr Iaith Gymraeg
, JE Caerwyn Williams (gol), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)
Gwefannau
golygu
golygu cod
Gwybodaeth am y Gymraeg ar wefan Bwrdd yr Iaith
Archifwyd
2011-06-17 yn y
Peiriant Wayback
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
dolen farw
a leolir yn Aberystwyth
Tudalen ar y Gymraeg ar wefan Undeb Ewrop (yn Saesneg)
Cyfrifiad 2001: Adroddiad y Swyddfa Ystadegol Gwladol ar y Gymraeg
Say Something in Welsh
Archifwyd
2013-01-17 yn y
Peiriant Wayback
Dysgu Cymraeg
golygu
golygu cod
Rhan o wefan ELWA
Archifwyd
2006-06-19 yn y
Peiriant Wayback
yn rhoi gwybodaeth am ddysgu Cymraeg
Acen
- yn cynnig defnyddiau amlgyfrwng ar gyfer dysgwyr a dolen i wefan S4C i ddysgwyr ar www.learnons4c.co.uk
Y Gwybodiadur
– casgliad o adnoddau Cymraeg a dysgu Cymraeg
Mwydro Ynfyd Dedwydd - Mudiad y Dysgwyr
Archifwyd
2011-09-20 yn y
Peiriant Wayback
- Cyfarfodydd sgwrs a gweithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg
Clwb Malu Cachu
- gwefan adnoddau i ddysgwyr
Archifwyd
2009-02-16 yn y
Peiriant Wayback
- dyfyniadau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg
- geiriadur amlieithog yn cynnwys y Gymraeg
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
Hywel Jones.
"Estimation of the number of Welsh speakers in England"
(PDF)
calls.ac.uk
Devine, Darren (30 Mawrth 2013).
"Patagonia's Welsh settlement was 'cultural colonialism' says academic"
Wales Online
. Cyrchwyd
6 Mai
2017
Prior, Neil (30 Mai 2015).
"Patagonia 150 years on: A 'little Wales beyond Wales
BBC News
(yn Saesneg)
. Cyrchwyd
2020-07-30
Harris, Trevor (Hydref 2018). "The Welsh language in Patagonia".
European Journal of Language Policy
10
(2): 277–295.
doi
10.3828/ejlp.2018.15
"Population of immigrant mother tongue families, showing main languages comprising each family, Canada, 2011"
Statistics Canada
. Cyrchwyd
21 Awst
2017
"Detailed Languages Spoken at Home and Ability to Speak English for the Population 5 Years and Over: 2017-2021"
"Cultural diversity: Census 2021"
Australian Bureau of Statistics
. 12 Ionawr 2022
. Cyrchwyd
8 Hydref
2023
Moseley, Christopher; Nicolas, Alexandre (2010).
Atlas of the world's languages in danger / editor-in-Chief, Christopher Moseley ; cartographer, Alexandre Nicolas
. Memory of peoples series (arg. 3rd ed. entirely revised, enlarged and updated.). Paris: UNESCO, Intangible Cultural Heritage Section.
ISBN
978-92-3-104095-5
"Welsh Language (Wales) Measure 2011"
legislation.gov.uk
. Cyrchwyd
2016-05-30
"National Assembly for Wales (Official Languages) Act 2012"
www.
legislation.gov.uk
. Cyrchwyd
2018-04-19
Dunbar, R (2007).
Diversity in addressing diversity: Canadian and British legislative approaches to linguistic minorities and their international legal context. Yn
Language and Governance
, gol. C. Williams
. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 104.
"Welsh language in Wales (Census 2021) [HTML] | GOV.WALES"
www.gov.wales
(yn Saesneg). 2022-12-06
. Cyrchwyd
2025-08-27
"Welsh language speaking ability and use (National Survey for Wales): April 2022 to March 2023 [HTML] | GOV.WALES"
www.gov.wales
(yn Saesneg). 2025-08-14
. Cyrchwyd
2025-08-27
"Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Ebrill 2024 i Fawrth 2025"
llyw.cymru
. 2025-07-03
. Cyrchwyd
2025-08-29
15.0
15.1
"Y defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru (canfyddiadau cychwynnol): Gorffennaf 2019 i Fawrth 2020 (diwygiedig)"
llyw.cymru
. 2022-02-17
. Cyrchwyd
2025-08-29
"Cymraeg 2050: rhaglen waith 2021 i 2026"
llyw.cymru
. 2021-07-12
. Cyrchwyd
2025-08-29
"Almost a quarter of children in Wales are taught only in Welsh, as the language experiences a revival"
. ITV News. 2017-09-04
. Cyrchwyd
2020-06-01
Luain, Cathal Ó.
"Unesco: Status of Celtic languages outlined by atlas"
Agence Bretagne Presse
(yn Ffrangeg)
. Cyrchwyd
2023-05-25
(Saesneg)
Greetings to the Universe in 55 Different Languages
NASA
(Saesneg)
Welsh greetings
NASA
"Sefyllfa’r Iaith Gymraeg 2012–2015"
Archifwyd
2016-10-11 yn y
Peiriant Wayback
"Y Defnydd o'r Gymraeg yng Nghymru, 2013-2015"
Archifwyd
2018-05-02 yn y
Peiriant Wayback
Cyfrifiad 2011 QS204EW
Nigel Callaghan (1993). ''More Welsh Speakers than Previously Believed'' (ar-lein). Cyrchwyd 21 Mawrth 2010
[1]
Janet Davies,
Gwasg Prifysgol Cymru
Caerfaddon
(1993).
The Welsh Language
, t. 34
Morgan, Kenneth O. (1981).
Rebirth of a nation : Wales, 1880-1980
. Internet Archive. New York : Oxford University Press. t. 4.
ISBN
978-0-19-821736-7
Yr Eisteddfod Genedlaethol a Phwllheli
Hywel Teifi Edwards
, Clwb y Bont, Pwllheli 1987
Cadwraeth yr Iaith Trafodion y Commrodorion 1924-5
'Historic' assembly vote for new Welsh language law
BBC_News_Online
, 7 Rhagfyr 2010
Mesur Arfaethedig y Gymraeg (Cymru)
Archifwyd
2011-01-22 yn y
Peiriant Wayback
Adalwyd: 13 Chwefror 2011]
32.0
32.1
Llywodraeth Cynulliad Cymru | Mesur Iaith Gymraeg yn derbyn Cydsyniad Brenhinol
Adalwyd: 13 Chwefror 2011]
Royal Assent for official status of Welsh language - Wales News - News - WalesOnline
Adalwyd: 13 Chwefror 2011]
BBC Newyddion - Meri Huws yw'r Comisiynydd Iaith newydd
(cyrchwyd 5 Hydref 2011)
BBC News - Language board chief Meri Huws is Welsh commissioner
(cyrchwyd 5 Hydref 2011)
Thomas, Peter Wynn (1996)
Gramadeg y Gymraeg.
Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru: 757.
English and Welsh
Archifwyd
2008-04-09 yn y
Peiriant Wayback
, traethawd gan
J. R. R. Tolkien
BBC NEWS| Wales - Census shows Welsh language rise
(Saesneg)
R. M. Jones,
Ysbryd y Cwlwm: Delwedd y Genedl yn ein Llenyddiaeth
(Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
Eu Hiaith a Gadwant? Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif
, goln R Geraint Jenkins a Mari A. Williams (Prifysgol Cymru, 2000)
Jones, R.J., (2010). 'Cilfachau Electronig: geni'r Gymraeg ar-lein, 1989-1996' yn
Cyfrwng: Cyfnodolyn Cyfryngau Cymru
, Cyfrol 7
need_Welsh_translation - soc.culture.celtic | Google Groups
Jones, R.J., (2010, 28-31)
Gwybodaeth ar flogiau Cymraeg
ar Hedyn
"Gwybodaeth ar
tweets
Cymraeg"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2011-12-03
. Cyrchwyd
2011-12-16
The Use of Welsh language on Facebook
gan Courtenay Honeycutt a Daniel Cunliffe
Gwefan Robin Llwyd ab Owain
Llais_Llyfrau
, Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd gan
Gyngor Llyfrau Cymru
Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
Wicillyfrau
Mae gan
Wicilyfrau
gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:
Cymraeg
The Evolution of Welsh in 22 Words
fideo ieithyddol yn dangos esblygiad 22 gair Cymraeg cyfoes o'r
Frythoneg
(2024)
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
golygu
golygu cod
Ar gael yn y
Gymraeg
a'r
Saesneg
Cymraeg
Hanes y Gymraeg
Brythoneg
Hen Gymraeg
Cymraeg Canol
Cymraeg Fodern
Welsh Not
Brad y Llyfrau Gleision
Arwyddion ffyrdd
Ieithyddiaeth
Gramadeg
Rhifau yn y Gymraeg
Orgraff y Gymraeg
Braille Cymraeg
Geiriau
Geiriadur yr Academi
Geiriadur Prifysgol Cymru
Toponymeg Cymru
Yn UDA
llenyddiaeth
Rhestr awduron Cymraeg (1600–heddiw)
Mytholeg Gymreig
Trioedd Ynys Prydain
Mabinogion
Addysg Gymraeg
Mudiad Ysgolion Meithrin
Wlpan
Demograffeg
Poblogaeth siaradwyr Cymraeg
Y Fro Gymraeg
Llinell Landsker
Cyfryngau Cymraeg
Rhestr rhaglenni teledu Cymraeg
S4C
BBC Radio Cymru
Capital Cymru
Golwg
Golwg360
Maes-e
Tafod y Ddraig
Y Cymro
Barn
Cerddoriaeth
a gwyliau
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Sesiwn Fawr Dolgellau
Diwrnod Shwmae Sumae
Tafwyl
Gwobrau’r Selar
Dydd Miwsig Cymru
Dysgwr y Flwyddyn
Nant Gwrtheyrn
Llywodraethiant
Gweinidog Addysg a'r iaith Gymraeg:
Jeremy Miles
Comisiynydd yr Iaith Gymraeg
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
(darfod)
Grwpiau
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Cymdeithas Cymreigyddion Y Fenni
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Cymuned
Dyfodol i'r Iaith
Menter Iaith
Mudiad Adfer
Urdd Gobaith Cymru
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Cyfraith
Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542
Deddf Llysoedd Cymreig 1942
Deddf yr Iaith Gymraeg 1967
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
WiciBrosiect Cymru
Ieithoedd
Celtaidd/Celteg
Brythoneg
(Celteg P)
Goedeleg
(Celteg Q)
Cernyweg
Cymraeg
Llydaweg
Gaeleg
Gwyddeleg
Manaweg
Gwelwch hefyd:
Ieithyddiaeth
Y Celtiaid
Gwledydd Celtaidd
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o
wefan Comisiynydd y Gymraeg
. Caniateir atgynhyrchu deunydd y Comisiynydd
am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’i fod yn cael ei atgynhyrchu’n gywir ac na chaiff ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.
Uwchlwythwyd y gwaith hwn i'r Wicipedia Cymraeg o dan hawliau trwydded 'Defnydd Teg'.
Wedi dod o "
Categorïau
Erthyglau iaith heb ddyddiad ar nifer siaradwr
Erthyglau iaith heb faes cyfeirio
Pages with Welsh IPA
Erthyglau sy'n cynnwys testun Cymraeg
Tudalennau ag angen ffynonellau
Cymraeg
Ieithoedd Celtaidd
Categorïau cudd:
Pages with script errors
CS1 Saesneg-language sources (en)
CS1 Ffrangeg-language sources (fr)
Webarchive template wayback links
Language articles with Linglist code
Ieithoedd gyda chod ISO 639-2
Ieithoedd gyda chod ISO 639-1
Cymraeg
Ychwanegu pwnc