Fy uchafbwyntiau yn astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg < CARDIFF MET BLOGS APPLY THROUGH CLEARING Fy uchafbwyntiau yn astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg February 13, 2024 Gwynon Williams BSc (Anrh) Therapi Lleferydd ac Iaith Gwyddorau Iechyd Gwynon wyf myfyrwraig drydedd flwyddyn yn astudio Therapi Iaith a Lleferydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd Pam dewis astudio Therapi Iaith a Lleferydd? Roedd gennyf chwant i gael gyrfa oedd yn cael effaith positif ar fywydau pobl. Rwy’n hoff o weithio gyda phobl ac rwy’n mwynhau dysgu pethau newydd yn fawr iawn. Roedd y faith bod bwrsari o’r GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru) ar gael i astudio’r cwrs yn gwneud hi’n bosib, ac rwy’n falch iawn es i amdani! Disgwyliadau Vs Realiti Fy mhrif ddisgwyliad oedd y bysau’r cwrs yn wahanol i unrhyw beth rwyf wedi gwneud o’r blaen, ac yn hynny o fodd roeddwn i’n gywir. Mae yna lawer o theori i ddysgu. Mae’r amrywiaeth o bynciau rydym ni’n astudio yn helaeth o Anatomi a ffisioleg ag awdioleg, hyd at Ieithyddiaeth, ffonoleg, a seicoleg. Mae llyncu ag anhwylderau llyncu yn rhan sylweddol o waith nifer o therapyddion iaith a lleferydd felly roedd angen dysgu am hyn hefyd. Diolch byth mae’r darlithwyr yn deall bod y pynciau yma yn newydd sbon i’r rhan fwyaf ohonom ac felly yn ei chyflwyno mewn modd hygyrch a diddorol. Mae yna bwyslais mawr ar adlewyrchu ar ein gwaith, a dysgu o’r broses yma. Roedd hyn ychydig yn ddychrynllyd i fi i yn y cychwyn. Yn awr mae pwrpas gwneud hyn yn amlwg i fi, ac mae’n dechrau dod yn naturiol. Syndod arall oedd y perthnasau rwyf wedi creu. Mae’r darlithwyr yn ein hadnabod ni gyd ac yn hapus i drafod unrhyw fater. Mae fy nghyd-fyfyrwyr hefyd yn gyfeillgar ag angerddol. Mae bob amser rhywun yn hapus sgwrsio gyda dros ginio. Yn ôl y sôn mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn enwog am fwynhau sgwrs! Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Mantais astudio ym Met Caerdydd yw bod modd astudio traean o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r cyfle hwn wedi bod yn bwysig oherwydd rwy’n gobeithio cael gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol, felly mae’n bwysig bod gennyf yr eirfa ar wybodaeth yn y ddwy iaith. Gan fod amlieithrwydd, a sut i weithio a phobl ddwyieithog yn beth pwysig i ni ystyried yn ein proffesiwn, rydym ar hyn o bryd yn astudio modiwl am ddwyieithrwydd. Yn y modiwl mae’n ddefnyddiol iawn gallu trafod enghreifftiau o fwy nag un iaith, a thrafod ein gwahanol brofiadau o fod yn ddwyieithog. Mae ein dosbarth Cymraeg yn llai o faint na’r prif ddosbarth sydd yn golygu bod trafodaethau dosbarth yn gallu bod yn fwy naturiol a bod pawb yn cael cyfle i rannu syniadau. Lleoliad Clinigol Rwyf newydd ddychwelyd o Wynedd lle roeddwn ar leoliad pum wythnos gyda thîm therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Dyma oedd fy mhedwerydd leoliad clinigol o’r cwrs. Gyda bob lleoliad clinigol rwy’n ymwybodol o’m sgiliau clinigol yn cadarnhau a chynyddu, sydd yn deimlad grêt. Dyma le mae’r holl theori yr ydym yn dysgu yn dod at ei gilydd a chwympo mewn i le. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o weithio yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hynny’n wahanol – mewn ffordd dda. Ar adegau roedd fy ngallu i siarad Cymraeg yn gwbl angenrheidiol, er enghraifft wrth asesu dealltwriaeth iaith plentyn ifanc. Ar adegau arall roedd defnyddio’r Gymraeg yn hwyluso ymddiriedaeth gyda chlaf, sydd yn mynd ffordd bell, yn enwedig wrth drafod materion emosiynol. Er mod i’n teimlo bod digonedd gen i ddysgu o hyd; mae’n rhyfeddol edrych nôl ar faint rwyf wedi dysgu a’r sgiliau rwyf wedi datblygu dros fy amser ym Met Caerdydd. Rwy’n gyffrous iawn i gael dechrau gweithio yn y maes, ac yn teimlo bod fy mhrofiad ym Met Caerdydd wedi fy ymbaratoi yn wych i gael gwneud. Darganfod mwy am astudio Therapi Lleferydd ac Iaith drwy gyfrwng y Gymraeg Previous article My amazing experience at a Sustainability Summer School in Sweden Next article My experience attending a law human library networking event as a first year LLB Law student at Cardiff Met Postiadau diweddar Dod o Hyd i Fy Llais mewn Darlledu Chwaraeon ym Met Caerdydd Manteisio ar brofiad gwaith gyda fy nghwrs Busnes a Rheoli ac astudio drwy gyfrwng y Gymraeg Addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gyda TAR Uwchradd Cymraeg ym Met Caerdydd Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs MA Addysg (Cymru) drwy gyfrwng y Gymraeg Fy mhrofiad yn astudio’r cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (Dwyieithog) drwy gyfrwng y Gymraeg Newid byd er gwell. Ffeirio’r gyfraith am yr ystafell ddosbarth Sut gwnaeth y cwrs Blas ar Ddysgu fy mharatoi ar gyfer yr ystafell ddosbarth Fy mhrofiad yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Fy mhrofiad ar ddechrau bywyd prifysgol yn astudio Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Fy mhrofiad fel Arweinydd Strategol i’r Ddarpariaeth Gymraeg yn yr Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd