Môr - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Môr
Math
water area, marine water body, saline water body
Yn cynnwys
sea water, tir
Dynodwyr
Freebase
/M/06npx
Thesawrws y BNCF
6512
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Corff eang o ddŵr hallt yw
môr
. Mae
cefnfor
yn ehangach na môr.
Cilfach fôr gyda thir ar hyd at dair ochr iddi yw
bae
. Trwyn o dir gyda môr ar ddwy neu dair ochr iddi yw
pentir
neu
benrhyn
. Tir gyda môr o'i gwmpas yw
ynys
Mae'n bosib teithio'r môr ar
long
a chael
bwyd
o'r môr, er enghraifft
pysgod
pysgod cregyn
neu
wymon
Rhestr Cefnforoedd a Moroedd
golygu
golygu cod
Golygfa ar y môr yng
Ngwlad Tai
Cefnfor Arctig
Môr Barents
Y Môr Gwyn
Môr Kara
Môr Laptev
Môr Dwyrain Siberia
Môr Beaufort
Môr Norwy
Cefnfor Iwerydd
Y Môr Baltig
Y Môr Caribî
Y Môr Canoldir
Môr Aegaea
Môr Adria
Môr Ionia
Môr Liguria
Môr Marmara
Môr Tirrenia
Y Môr Du
Môr Asov
Môr y Gogledd
Môr Iwerddon
Y Môr Celtaidd
Môr Hafren
(Sianel Bryste),
Môr Udd
(y Sianel)
Môr Labrador
Cefnfor India
Môr Arabia
Y Môr Coch
Cefnfor Tawel
Môr Bering
Môr Bismarck
Môr Japan
Môr Jawa
Môr Arafura
Môr Banda
Môr Timor
Y Môr Cwrel
Y Môr Melyn
Môr Tsieina
Môr Dwyrain Tsieina
Môr De Tsieina
Môr Okhotsk
Môr Solomon
Môr Tasman
Cefnfor y De
Môr Ross
Môr Weddell
Llynnoedd a gyfrifir yn foroedd
golygu
golygu cod
Môr Aral
Môr Caspia
Y Môr Marw
Moroedd Cymru
golygu
golygu cod
Prif:
Moroedd Cymru
Map o foreoedd Cymru gan Lywodraeth Cymru
Mae
Moroedd Cymru'
n cynnws y môr o gwmpas
arfordir Cymru
; fe reolir hyd at 24 milltir (uchafswm) o'r dyfroedd hyn yn bennaf gan Lywodraeth Cymru. Ystyrir Moroedd Cymru yn asedau gwerthfawr, yn rhan annatod o hanes Cymru a'i mytholeg, ei heconomi a'i ffordd o fyw. Ceir ynddynt nifer fawr o rywogaethau, cynefinoedd ac ecosystemau gwahanol iawn ac maent yn ffynhonnell incwm sylweddol ee tyrbinau gwynt. Mae'r moroedd hyn, a adnabyddir weithiau fel 'moroedd tiriogaethol' tua'r un faint, o ran arwynebedd, a moroedd tiriogaethol yr Almaen.
Mae arfordir Cymru'n 2,120 km o hyd. Mae
arwynebedd
moroedd tiriogaethol Cymru tua 32,000 km sgwâr, sy’n golygu bod ardal forol Cymru tipyn mwy na'i thir, sef 21,218 km sg. Cyfanswm tir a moroedd Cymru, felly yw 53,218 km sg. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bwerau i ddatblygu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Oherwydd hyn gall Llywodraeth Cymru bellach warchod ardaloedd cadwraeth morol yn ogystal â helpu manteisio ar botensial economaidd y moroedd mewn ffordd gynaliadwy. Mae'r Cynllun hwn i'w gael
yma ar ffurf PDF
Mytholeg a llên gwerin
golygu
golygu cod
Y Weilgi
golygu
golygu cod
Gair arall am y môr neu'r cefnfor yw “weilgi”. Mae hwn yn hen air sydd, yn ôl Geiriadur y Brifysgol, yn dyddio o leia i'r 13g, e.e. “eistedd yd oedynt ar garrec hardlech uch penn y weilgi”. Ystyr gweilgi yw blaidd ac yn ôl y Geiriadur: “math o bersonoliad o'r môr yw gweilgi neu ryw syniad mytholegol amdano fel anifail yn udo, neu… yn delweddu'r môr fel blaidd”. Mae'n bosib mai o'r hen goel fod y blaidd yn greadur tywyllodrus a pheryglus y cododd hyn – yn cynrychioli stormydd.
Ceir arwydd tywydd o ardal
Clynnog Fawr
Gwynedd
yn cyfeirio at y “bwlff” neu “wlff” (woolf) fel enw ar y pytiau bach o enfys welir weithiau y nail ochr i'r haul ac sydd yn aml iawn yn arwydd bod storm ar ei ffordd. Enwau eraill ar y rhain yw "ci drycin" neu "cyw drycin", ac o Glynnog y cyfeiriad arferol i'w gweld yw i'r gorllewin – dros y môr – rhyw ddwy neu dair awr cyn y machlud.
Casgliad Marie Trevelyan
golygu
golygu cod
Rhywbeth i'w barchu fu'r môr inni'r Cymry erioed ac fel pob cenedl
arfordirol
arall mae ein llên gwerin morol yn gyfoethog iawn – yn enwedig ym mysg morwyr a physgotwyr. I'r sawl y dibynnai ei fywoliaeth a'i fywyd arno byddai defodau a choelion a pharch tuag at y môr yn yswiriant rhag trychineb.
Mae gan
Marie Trevelyan
yn ei
Folk-lore and Folk Stories of Wales
(1909), gasgliad o straeon a choelion o'r fath. Er enghraifft dywed fod y seithfed neu'r nawfed ton yn gryfach na thonnau eraill ac os llwyddith dyn sy'n boddi i ddal un o'r rhain mae siawns dda y caiff ei achub. Ar y llaw arall os yw rhywun yn nofio tua'r lan mae ei fywyd mewn peryg os caiff ei oddiweddyd gan un o'r tonnau hyn.
Byddai ymdrochi yn y môr (a'r naw bore canlynnol) yn iachau rhywun sâl, a byddai ymdrochi naw gwaith ar yr un bore yn dda i rywun sy'n diode â'i nerfau. Dywed hefyd y byddai rhywun a yfai ychydig o ddŵr y môr bob bore o'i blentyndod yn sicr o fyw i oedran mawr. A bod pobl a aned ger y môr yn naturiol ddewr.
Ar un adeg 'chydig o bysgod a fwyteid yng Nghymru oherwydd credid bod pysgod yn byw ar gyrff pobl a foddwyd.
Byddai tonnau gwynion yn cael eu hystyried â pharchedig ofn a chredid mai ysbrydion rhai a foddwyd oeddent yn codi i'r wyneb ar wynt i gael hwyl yn marchogi eu cesyg gwynion. Gelwid y tonnau gwynion gwylltion oddiar Trwyn yr As ger
Sain Dunwyd
ym Morgannwg y “
merry dancers
”.
Daeth cwpwrdd Dafydd Jones neu “Davy Jones' Locker” yn enw adnabyddus am y môr. Dyddia'r enw o tua canol y
18g
yn ôl
Geiriadur Rhydychen
ac mae ei darddiad yn ansicr. O blith morwyr o Gymru y death yn ôl Marie Trevelyan, ond does gan neb glem pwy oedd y Dafydd Jones gwreiddiol chwaith –
môr leidr
yn ôl rhai.
Weithiau gwelid goleuadau rhyfedd yn dawnsio o gwmpas y mast a'r rigin. "Cannwyll yr ysbryd" neu "Gannwyll yr Ysbryd Glân" oedd enwau'r morwyr Cymraeg arnynt ("
St Elmo's Fire
" i'r Saeson a morwyr y Cyfandir). Byddai gweld un o'r goleuadau hyn ar ben ei hun yn anlwcus, dau yn arwydd o dywydd braf a mordaith lwyddiannus a llawer ohonynt yn ystod storm yn arwydd fod y gwaetha drosodd ac y deuai hindda'n fuan.
Hen stori o Forgannwg oedd bod y diafol ar un adeg yn hwylio oddi ar glannau Cymru mewn llong dri mast i gasglu eneidiau pechaduriaid. Fe'i hadeiladwyd o goed a dorrwyd yn
Anwfn
ac roedd yr aroglau
swlffwr
a ddeuai ohoni yn erchyll. Gorfoleddai'r hen ddiafol bob tro y cawsai gargo newydd o eneidiau ond fe wylltiodd hynny
Dewi Sant
, yn ôl rhai, neu Sant Dynnwyd yn ôl eraill, nes iddo drywannu'r llong â phicell fawr. Prin y llwyddodd y Diafol i ddianc ac fe ddryllwyd y llong ar greigiau
Gŵyr
lle gwnaeth rhyw gawr mawr bric dannedd o'i mast a hances boced o'i hwyl.
Lwc ag anlwc
golygu
golygu cod
Ceir nifer fawr o ofergoelion yn ymwneud â'r môr – dyma ddyrnaid bychan ohonynt:
Mae clust-dlws aur yn arbed morwr rhag boddi.
Plentyn ar fwrdd llong yn dod a lwc dda.
Peidied chwibannu ar fwrdd llong rhag tynnu storm.
Ddylsai neb dorri ei wallt na'i ewinedd ar fwrdd llong.
Mae colli bwced dros yr ochr yn anlwcus iawn.
Hoelio pedol ar y mast yn arbed rhag drwg.
Sticio cyllell yn y mast i gael gwynt têg i hwylio
Ni ddylsid cychwyn mordaith ar ddydd Gwenner oherwydd dyna'r dydd y croeshoiliwyd Crist.
Mae hwylio o'r harbwr ar ddydd Sul yn lwcus.
Ddylsai'r gwragedd ar y lan ddim golchi dillad ar y dydd yr hwyliai eu gwŷr – rhag i'r llong gael ei golchi ymaith.
Mae cau cath mewn cwt neu ei rhoi dan dwb yn codi gwynt mawr a byddai rhai merched yn gwneud hyn i gadw eu gwŷr neu gariadon adre.
Taflu cath i'r môr yn tynnu andros o storm.
Anlwcus gweld rhywun â gwallt coch cyn hwylio.
Mae penwaig yn casau ffraeo ac os yw rhwydi dau gwch wedi tanglo – peidied a ffraeo neu ni ddelir mwy o benwaig.
Peidiwch â chyfri'r pysgod cyn cyrraedd y lan neu ddelir dim mwy.
Mae priodi yn tynnu stormydd, felly yr amser gorrau i briodi ydi ar ddiwedd y tymor pysgota.
Crefydd y Celtiaid
golygu
golygu cod
Roedd y môr yn bwysig iawn yng nghrefydd yr hen Geltiaid ac os edrychwn ar achau duwiau ac arwyr y Mabinogi gwelwn fod Llŷr, duw'r môr yn dad i
Bendigeidfran
Branwen
Manawydan
. I'r hen Gymry, duw crefft oedd Manawydan yn bennaf ond yn chwedlau Iwerddon roedd ef (
Manannán mac Lir
), fel ei dad, yn dduw'r môr fyddai'n marchogi'r tonnau ar ei geffyl gwyn. Ef amgylchynodd Iwerddon â môr i'w hamddiffyn ac a roddodd ei enw i Ynys Manaw.
Moeswersi
golygu
golygu cod
Ceir aml i foeswers yn codi o eigion y môr. Cymerwch yr hen stori gyfarwydd am pam fod y môr yn hallt. Y creadur dwl hwnnw ddwynodd y felin halen hud oedd yn gyfrifol. Roedd yn cofio'n iawn y swyn i gael y felin i gynhyrchu ond anghofiodd y swyn i wneud iddi stopio. Pan suddodd ei long dan bwysau'r holl halen doedd dim modd adfer na rhoi stop ar y felin byth wedyn. Y foeswers, yn naturiol, yw peidio â bod mor farus yn y lle cyntaf a bod canlyniadau pellgyrhaeddol iawn i esgeulustod syml weithiau.
A beth am stori Sinbad y morwr pan neidiodd hen ddyn y môr ar ei gefn. Ddeuai hwn byth oddi arno wedyn ac roedd yn amhosib ei dynnu na'i ysgwyd i ffwrdd chwaith. Yn y diwedd rhoddodd Sinbad
win
iddo nes i'r hen ddyn feddwi a llacio ei afael fel y gallodd Sinbad ddianc. Ceir hen ddywediad: “Os wyt ti am dynnu stanc neu bolyn ffens waeth iti heb a'i gurro ar ei ben hefo gordd – sigla di o yn ôl ac ymlaen ac fe ddaw o'r ddaear yn ddi-lol”. Os na fydded gryf bydded gyfrwys, mewn geiriau eraill.
Ceir stori o ardal Clynnog, a cheir fersiynau tebyg o'r un hanes yn
Nefyn
Môn
, am bysgotwyr penwaig dros ddwy ganrif yn ôl yn cael helfeydd toreithiog iawn am rai blynyddoedd. Roeddent yn dal a dal a dal, lawer mwy na ellid eu gwerthu na'u halltu na'u sychu at y gaeaf. Ond dal i bysgota wnai'r dynion gan wasgaru'r pysgod hyd y caeau fel gwrtaith hydynoed. Wel, yng ngwyneb yr holl wastraff ac am fod drewdod y pysgod pydredig ar y caeau yn chwythu dros dir rhyw hen wrach oedd yn byw gerllaw, dyma honno yn melltithio'r pysgotwyr gan ddweud na ddaliai neb yr un pysgodyn arall oddiar y rhan hwnnw o'r arfordir am ddau can mlynedd. Gwir y gair, oherwydd o hynny ymlaen fe beidiodd yr heigiau penwaig ddod ar gyfyl Clynnog a bu raid i'r pysgotwyr a'u teuluoedd symud oddiyno. Dyma, yn ôl rhai, sy'n cyfrif am y murddynod ar y traeth ger Ty'n y Coed.
Efallai bod elfen o wirionedd hanesyddol yn y stori hon oherwydd mae'n wir bod penwaig yn newid eu llwybrau ymfudo o bryd i'w gilydd ond hefyd roedd diwedd y
18g
yn gyfnod o newid yn y diwydiant pysgota. Bryd hynny fe danseilwyd bywoliaeth y pysgotwyr bach bron ymhobman wrth i gychod mwy ddechrau gweithio allan o borthladdoedd cyfagos gan gipio'r farchnad oddiarnynt. Beth bynnag am hynny y wrach yn cosbi'r pysgotwyr am eu gwastraff gaiff y bai, a'r stori wedi goroesi am fod ynddi foeswers a rhybudd am ganlyniadau bod yn wastraffus.
Llên gwerin llongau
golygu
golygu cod
Ceir llawer o ddefodau a choelion yn gysylltiedig â llongau:
Adeiladu – ystyrid, ar gychwyn adeiladu, bod gosod y cêl neu gilbren yn iawn yn holl bwysig a rhaid oedd defod briodol i sicrhau hynny. Byddid yn “yfed iechyd” y llong a rhaid oedd taro'r hoelen gyntaf yn gywir. Byddai rhai yn ei tharo drwy bedol ceffyl i sicrhau lwc dda a chlymid ruban coch (lliw gwaed a bywyd) am yr hoelen gynta i arbed rhag melltith a'r llygad ddrwg. Gwae os coda gwreichionyn wrth ei tharo oherwydd byddai'r llong yn siwr o gael ei dinistrio gan dân a byddai pawb yn ofalus rhag brifo a cholli gwaed oherwydd deuai hynny â chanlyniadau difrifol i'r criw rhyw ddydd. Ddylsai neb regi na thyngu chwaith.
Enwau – enwau benywaidd fel arfer a byddai'r hen forwyr yn amheus iawn o enwau rhy feiddgar a mawreddog. Dyma pam nad oedd rhai yn gweld llawer o lwc yn enw rhyfygus y Titanic. Pan ddeuai newyddion am anffawd neu longddrylliad byddai cryn ddyfalu am y rhesymau pam a rhai yn sicr o chwilio'n ofalus am rhyw ystyr cudd yn enw'r llong fyddai wedi rhoi arwydd o'i thynged.
Lansio – enwir y llong ar ei lansiad ac mae'n arfer erbyn hyn i dori potel o wïn neu siampên ar ei blaen i'w gyrru ar ei ffordd. Tardda hyn o'r hen ddefod o gyflwyno aberth dynol i dduw'r môr drwy glymu carcharor ar y llithr-ffordd y gwthid y llong neu gwch i'r dŵr. Roedd hyn yn hanfodol i long ryfel – er mwyn iddi fagu blas ar waed ar gychwyn ei gyrfa. Roedd y Llychlynwyr a'r Polynesiaid yn enwog am hyn a hydynoed mor ddiweddar a 1784 arferai Llywodraethwr Tripoli lansio ei longau rhyfel hefo caethwas wedi ei glymu ar ei blaen.
Y flaen-ddelw – cariai llongau'r Eifftiaid, y Groegiaid, Phoeniciaid a'r Rhufeiniaid allorau neu ddelwau o dduwiau neu dduwiesau gwarcheidiol. Byddai delwedd o lygad, e.e. llygad y duw Horus ar longau'r Eifftiaid, yn amddiffyn rhag stormydd a llongddrylliadau. Roedd hyn i'w weld yn y dwyrain pell yn ogystal ac fe welwch lun llygaid ar flaen pob jync Tsineaidd a chwch Polynesiaidd hyd heddiw. Roedd blaen-ddelw o'r rhan uchaf o gorff merch – hefo'i llygaid yn rhythu ac yn fron-noeth – yn gyffredin iawn ar longau Ewropeaidd ac Americanaidd yn oes yr hwyliau am fod y llygaid a'r bronnau noethion yn tawelu stormydd.
Y gloch – ar ôl y flaen-ddelw, y gloch oedd yr eitem bwysica ar y llong ac fe'i cedwid yn barchus ymhell ar ôl i'r llong ei hun orffen ei gyrfa – hynny yw, os nad oedd wedi suddo. Ac os suddodd y llong – bydd y gloch yn dal yn glywadwy dan y tonnau adeg drycin.
Ceir stori o
Gernyw
am forwr glywodd gloch yn canu a'r sŵn yn codi o fedd hen gapten foddwyd yn y môr. Boddwyd y morwr hwnnw ar ei fordaith nesa.
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
ymchwil.senedd.cymru;
adalwyd 6 Hydref 2024.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i
Twm Elias
ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan
Defnyddiwr:Twm Elias
. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).
Wiciadur
Chwiliwch am
môr
yn
Wiciadur
Wedi dod o "
Categorïau
Moroedd
Cyrff dŵr
Eigioneg
Tirffurfiau arfordirol a chefnforol
Categorïau cudd:
Tudalennau gyda meysydd deublyg yn y Nodion
Erthyglau gyda gwybodlen yn gyfan gwbl o Wicidata
Erthyglau sy'n defnyddio Nodyn Gwybodlen pethau Wicidata
Môr
Ychwanegu pwnc