Sbaeneg - Wicipedia
Neidio i'r cynnwys
Oddi ar Wicipedia
Sbaeneg (español)
Siaredir yn:
Sbaen
a'r mwyafrif o wledydd Canol a De America.
Parth:
Affrica
Ewrop
America
Cyfanswm o siaradwyr:
bron i 600 miliwn
Safle yn ôl nifer siaradwyr
Achrestr ieithyddol
Indo-Ewropeaidd
Italeg
Romáwns
Italo-Gorllewimol
Galo-Iberaidd
Ibero-Romáwns
Iberaidd Gorllewinol
Sbaeneg
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn:
Sbaen
a llawer o wledydd eraill.
Rheolir gan
Real Academia Española
a'r
Asociación de Academias de la Lengua Española
Codau iaith
ISO 639
-1
es
ISO 639-2
spa
ISO 639-3
spa
Gweler hefyd:
Iaith
Rhestr ieithoedd
Glas tywyll: iaith swyddogol. Glas golau: 20% o'r boblogaeth yn ei siarad.
Iaith a darddodd yn
Sbaen
yw'r
Sbaeneg
neu weithiau
Castileg
, sy'n un o'r ieithoedd
Romáwns
yn y teulu
Indo-Ewropeaidd
, a esblygodd o
Ladin
llafar ym
Mhenrhyn Iberia
yn
Ewrop
. Heddiw, mae'n iaith fyd-eang gyda bron i 500 miliwn o siaradwyr brodorol, yn bennaf yn
America
Sbaen
. Sbaeneg yw iaith swyddogol 20 gwlad a hi yw'r
ail famiaith a siaredir fwyaf
yn y byd ar ôl
Tsieineeg Mandarin
y bedwaredd iaith a siaredir fwyaf yn y byd ar ôl
Saesneg
, Tsieinëeg Mandarin, a
Hindustani
(Hindi-Wrdw); a'r
iaith Romáwns
fwyaf yn y byd. Mae'r boblogaeth fwyaf o siaradwyr brodorol y Sbaeneg ym
Mecsico
Sbaeneg yw'r drydedd iaith a ddefnyddir fwyaf ar
y We Fyd-Eang
ar ôl Saesneg a Tsieineeg.
Fe'i siaredir hefyd ar draws Canol America, ac yng ngwledydd gorllewinol De America (gan gynnwys yr
Ariannin
Pheriw
). Fe'i siaredir gan rhyw 500 miliwn fel mamiaith - mwy nag unrhyw iaith arall ar wahân i
Tsieineeg Mandarin
, a thua 600 miliwn ledled y byd.
Mae'r Sbaeneg yn rhan o'r grŵp Ibero-Romáwns o ieithoedd, a esblygodd o sawl tafodiaith o
Ladin Llafar
yn Iberia ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol yn y
5g
. Daw'r testunau
Lladin
hynaf ag olion Sbaeneg arnynt o ganol gogledd Iberia yn y
9g
a digwyddodd y defnydd ysgrifenedig systematig cyntaf o'r iaith yn
Toledo
, dinas amlwg
Teyrnas Castile
, yn y
13g
. Gwladychodd Sbaen llawer o wledydd tramor, gan adael ei hiaith yno ar wefusau'r brodorion, yn fwyaf nodedig yn yr Americas.
Fel iaith Romáwns, mae'r Sbaeneg yn ddisgynnydd i Ladin ac mae ganddi un o'r graddau llai o wahaniaeth ohoni (tua 20% o wahaiaeth) ochr yn ochr â Sardinia ac
Eidaleg.
Mae tua 75% o eirfa Sbaeneg fodern yn deillio o Ladin, gan gynnwys benthyciadau Lladin o'r Hen Roeg.
10
Ochr yn ochr â Saesneg a
Ffrangeg
, mae hefyd yn un o'r ieithoedd tramor a addysgir fwyaf ledled y byd. Nid yw Sbaeneg yn nodwedd amlwg fel iaith wyddonol; fodd bynnag, fe'i cynrychiolir yn well mewn meysydd fel y
dyniaethau
a'r
gwyddorau cymdeithasol
11
Mae'r Sbaeneg yn un o chwe iaith swyddogol y
Cenhedloedd Unedig
, ac fe'i defnyddir hefyd fel iaith swyddogol gan yr
Undeb Ewropeaidd
, Sefydliad Taleithiau America,
Undeb Cenhedloedd De America
Cymuned Taleithiau America Ladin a'r Caribî
, yr
Undeb Affricanaidd
a llawer o sefydliadau rhyngwladol eraill.
12
Dosbarthiad daearyddol
golygu
golygu cod
Trefn yr wyddor
Nifer o siaradwyr iaith gyntaf
Yr Almaen
(140,000)
Andorra
(30,000)
Yr Ariannin
(33,000,000)
Awstralia
(97,000)
Belîs
(80,477)
Bolifia
(3,483,700)
Brasil
(43,901)
Canada
(177,425)
Ciwba
(10,000,000)
Colombia
(34,000,000)
Costa Rica
(3,300,000)
De Corea
(90,000)
Y Deyrnas Unedig
(900,000)
Ecwador
(9,500,000)
Yr Eidal
(455,000)
El Salvador
(5,900,000)
Feneswela
(21,480,000)
Y Ffindir
(17,200)
Ffrainc
(220,000)
Gaiana
(198,000)
Gini Gyhydeddol
(11,500)
Gorllewin Sahara
(16,648)
Gwatemala
(4,673,000)
Gweriniaeth Dominica
(6,886,000)
Haiti
(1,650,000)
Hondwras
(5,600,000)
Israel
(50,000)
Japan
(500,000)
Libanus
(2,300)
Mecsico
(86,211,000)
Moroco
(20,000)
Nicaragwa
(4,347,000)
Panama
(2,100,000)
Paragwái
(2,805,880)
Periw
(20,000,000)
Puerto Rico
(3,437,120)
Y Philipinau
(2,658)
Rwmania
(7,000)
Rwsia
(1,200,000)
Sbaen
(28,173,600)
Sweden
(56,000)
Trinidad a Tobago
(4,100)
Tsieina
(250,000)
Tsile
(13,800,000)
Twrci
(23,175)
Unol Daleithiau America
(32,184,293)
Wrwgwái
(3,000,000)
Mecsico
(86,211,000)
13
Colombia
(34,000,000)
13
Yr Ariannin
(33,000,000)
13
Unol Daleithiau America
(32,184,293)
14
Sbaen
(28,173,600)
13
Feneswela
(21,480,000)
13
Periw
(20,000,000)
13
Tsile
(13,800,000)
13
Ciwba
(10,000,000)
13
Ecwador
(9,5000,000)
13
Gweriniaeth Dominica
(6,886,000)
13
El Salvador
(5,900,000)
13
Hondwras
(5,600,000)
13
Gwatemala
(4,673,000)
13
Nicaragwa
(4,347,000)
13
Bolifia
(3,483,700)
13
Puerto Rico
(3,437,120)
13
Costa Rica
(3,300,000)
13
Wrwgwái
(3,000,000)
13
Paragwái
(2,805,800)
15
Panama
(2,100,000)
13
Haiti
(1,650,000)
Rwsia
(1,200,000)
Y Deyrnas Unedig
(900,000)
Japan
(500,000)
Yr Eidal
(455,000)
Tsieina
(250,000)
Ffrainc
(220,000)
15
Gaiana
(198,000)
Canada
(177,425)
15
Yr Almaen
(140,000)
15
Awstralia
(97,000)
15
De Corea
(90,000)
Belîs
(80,477)
13
Sweden
(56,000)
15
Israel
(50,000)
15
Brasil
(43,901)
15
Andorra
(30,000)
15
Twrci
(23,175)
15
Moroco
(20,000)
15
Y Ffindir
(17,200)
Gorllewin Sahara
(16,648)
15
Gini Gyhydeddol
(11,500)
13
Rwmania
(7,000)
Trinidad a Tobago
(4,100)
13
Y Philipinau
(2,658)
13
Libanus
(2,300)
Mae'n anodd cyfrifo'r union nifer o siaradwyr Sbaeneg, gan nad yw pawb sy'n byw yng ngwledydd lle mae'n iaith swyddogol yn ei siarad. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Sbaeneg yr Unol Daleithiau hefyd yn siarad
Saesneg
Enw'r iaith a'r geirdarddiad
golygu
golygu cod
Map yn dangos lleoedd lle gelwir yr iaith yn
castellano
(mewn coch) neu
(mewn glas)
Enw'r iaith
golygu
golygu cod
Yn Sbaen ac mewn rhai rhannau eraill o'r byd Sbaeneg ei hiaith, gelwir Sbaeneg nid yn unig yn
ond hefyd yn
castellano
(Castileg), sef iaith
teyrnas Castile
, gan ei gwahanu oddi wrth
ieithoedd eraill a siaredir yn Sbaen
megis y
Galiseg
Basgeg
Astwrieg
Catalaneg
Aragoneg
ac
Ocsitaneg
Mae Cyfansoddiad Sbaen 1978 yn defnyddio'r term
castellano
a chaiff ei nodi fel
iaith swyddogol
Sbaen cyfan. Mae Erthygl III yn darllen fel a ganlyn:
El castellano es la lengua española oficial del Estado. ... Las demás lenguas españolas serán también oficiales en las respectivas Comunidades Autónomas...
Castilian yw iaith Sbaeneg swyddogol y Wladwriaeth. ... Bydd yr ieithoedd Sbaenaidd eraill hefyd yn swyddogol yn eu Cymunedau Ymreolaethol priodol...
Ar y llaw arall, mae'r Academi Frenhinol y Sbaeneg (
Real Academia Española
), ar hyn o bryd yn defnyddio'r term
yn ei chyhoeddiadau. Fodd bynnag, rhwng 1713 a 1923, galwodd yr iaith yn
castellano
Yn y canllaw iaith / geiriadur
Diccionario panhispánico de dudas,
a gyhoeddwyd gan yr Academi Frenhinol y Sbaeneg) nodir hefyd, er bod yn well ganddi ddefnyddio'r term
yn ei chyhoeddiadau wrth gyfeirio at yr iaith, caiff y ddau air—
castellano
— eu hystyried yn gyfystyron a'r un mor ddilys.
16
Geirdarddiad
golygu
golygu cod
Daw'r term
castellano
o'r gair Lladin
castellanus
,  sy'n golygu " o neu'n ymwneud â
chaer
neu
gastell
",
17
sydd hefyd yn enw ardal yn yr hyn a adnabyddir heddiw'n Sbaen.
Mae geirdarddiad gwahanol wedi'i awgrymu ar gyfer y term
(Sbaeneg). Yn ôl yr Academi Frenhinol y Sbaeneg , mae'r gair
yn deillio o'r gair
Profensaleg
espaignol
ac mae hwnnw, yn ei dro'n deillio o'r
Lladin Llafar
hispaniolus,
sef yr enw Lladin ar dalaith
Hispania
a oedd yn cynnwys tiriogaeth bresennol
Penrhyn Iberia
18
Hanes
golygu
golygu cod
Fel yr
ieithoedd Romáwns
eraill, esblygodd y Sbaeneg o
Ladin Llafar
, a ddygwyd yma i
Benrhyn Iberia
gan y
Rhufeiniaid
yn ystod yr
Ail Ryfel Pwnig
, gan ddechrau yn 210 CC. Roedd nifer o ieithoedd cyn-Rufeinig (a elwir hefyd yn ieithoedd Paleohispanic) - rhai yn perthyn o bell i Ladin fel
ieithoedd Indo-Ewropeaidd
, a rhai nad ydynt yn perthyn o gwbl - yn cael eu siarad ym Mhenrhyn Iberia. Roedd yr ieithoedd hyn yn cynnwys
Celtibereg
Proto-Fasgeg
, Ibereg, Lwsitaneg a
Gallaecian
Mae'r dogfennau cyntaf i ddangos olion o'r hyn a ystyrir heddiw yn rhagflaenydd i'r Sbaeneg yn dyddio o'r
9g
. Trwy gydol yr
Oesoedd Canol
ac i mewn i'r
oes fodern
, daeth y dylanwadau pwysicaf ar y geiriadur Sbaeneg o'r
ieithoedd Romáwns
cyfagos — Mozarabeg (Romáwns Andalusi), Navarro-Aragoneseg, Leoneg,
Catalaneg
Portiwgaleg
Galiseg
Ocsitaneg
, ac yn ddiweddarach,
Ffrangeg
ac
Eidaleg
Benthycodd
Sbaeneg hefyd nifer sylweddol o eiriau o'r
Arabeg
, yn ogystal â mân ddylanwad o'r
iaith Gotheg
Germanaidd trwy ymfudiad llwythau a chyfnod o reolaeth y
Fisigothiaid
yn Iberia. Yn ogystal, benthycwyd llawer mwy o eiriau o'r
Lladin
trwy ddylanwad iaith ysgrifenedig ac iaith litwrgaidd yr Eglwys. Cymerwyd y geiriau benthyg o Ladin Clasurol a Lladin y Dadeni, sef y math o Ladin a ddefnyddid bryd hynny.
Yn ôl damcaniaethau Ramón Menéndez Pidal, esblygodd tafodieithoedd lleol o Ladin Llafari fath cynnar o Sbaeneg, a hynny yng ngogledd Iberia, yn yr ardal o gwmpas dinas
Burgos
, a daethpwyd â'r dafodiaith hon yn ddiweddarach i ddinas
Toledo
, lle cafodd ei safoni'n ysgrifenedig am y tro cyntaf, yn y
13g
. Yn y cyfnod ffurfiannol hwn, datblygodd y Sbaeneg amrywiad tra gwahanol i'w chefnder agos, y Leoneg, a gwelwyd dylanwad Basgaidd trwm arni. Ymledodd y dafodiaith nodedig hon i dde Sbaen gyda dyfodiad y
Reconquista. Y
n y cyfamser dylanwadwyd arni gan eirfa sylweddol o
Arabeg
Al-Andalus
(tua 4,000 o eiriau sy'n tarddu o'r
Arabeg
, tua 8% o Sbaeneg heddiw).
19
Datblygwyd y safon ysgrifenedig ymhellach, gan ymledu o
Toledo
, yn y 13eg i'r 16g, i
Fadrid
yn y
1570au
20
System ysgrifennu
golygu
golygu cod
Ysgrifennir y Sbaeneg yn yr
wyddor Ladin
, gan ychwanegu'r cymeriad ⟨
⟩ a yngenir fel
eñe
, sy'n cynrychioli'r ffonem /ɲ/, llythyren sy'n wahanol i ⟨n⟩, er ei fod wedi'i gyfansoddi'n deipograffegol o ⟨n⟩ gyda
tilde
. Yn flaenorol mae'r
deugraffau
⟨ch⟩ (
che
, sy'n cynrychioli'r ffonem /t͡ʃ/ ) a ⟨ll⟩ (
elle
, sy'n cynrychioli'r ffonem /ʎ / neu /ʝ/ ), hefyd yn cael eu hystyried yn llythrennau sengl. Fodd bynnag, mae'r deugraff ⟨rr⟩ (
erre fuerte
, 'r cryf',
erre doble
, 'r ddwbl', neu'n syml
erre
), sydd hefyd yn cynrychioli ffonem /r/, ar wahân, yn cael ei hystyried yn un llythyren. Ers 1994 mae ⟨ch⟩ a ⟨ll⟩ wedi cael eu trin fel par o llythrennau at ddibenion coladu, er eu bod wedi parhau’n rhan o’r wyddor tan 2010. Mae geiriau gyda ⟨ch⟩ bellach wedi'u didoli yn nhrefn yr wyddor rhwng y rhai sydd â ⟨cg⟩ a ⟨ci⟩, yn lle dilyn ⟨cz⟩ fel yr arferai wneud. Mae'r drefn yn debyg ar gyfer ⟨ll⟩.
Felly, mae gan yr wyddor Sbaeneg y 27 llythyren a ganlyn:
A, B, C, D, E, F, G, H, I, J, K, L, M, N, Ñ, O, P, Q, R, S, T, U, V, W, X, Y, Z.
Ers 2010, nid yw'r deugraffau (
ch, ll, rr, gu, qu
) yn cael eu hystyried yn llythrennau gan yr Academi Frenhinol y Sbaeneg.
21
Yn debyg i'r Gymraeg, defnyddir y llythyrennau
mewn geiriau ac enwau sy'n dod o ieithoedd tramor yn unig (
kilo, folklore, whisky, kiwi
ayb).
Ac eithrio nifer fach iawn o dermau rhanbarthol megis
México
, gellir pennu'r ynganiad yn gyfan gwbl o sillafu, yn eitha ffonetic. O dan y confensiynau orgraff, mae pwyslaid pob gair, yn nodweddiadol ar y
sillaf
cyn yr olaf (y goben), os yw'n gorffen gyda llafariad (heb gynnwys ⟨y⟩) neu gyda llafariad wedi'i ddilyn gan ⟨n⟩ neu ⟨s⟩; fel arall, rhoddir y pwyslais ar y sillaf olaf un. Mae hyn hefyd yn debyg i'r Gymraeg, lle mae'r pwyslais, fel rheol, ar y goben. Nodir eithriadau i'r rheol hon trwy osod acen acíwt ar y
llafariad acennog
Sefydliadau
golygu
golygu cod
Arfbais Academi Frenhinol y Sbaeneg
Pencadlys Academi Frenhinol y Sbaeneg ym
Madrid
Sbaen
Academi Frenhinol y Sbaeneg
golygu
golygu cod
Y dylanwad pennaf ar safon yr iaith yn Sbaen yw Academi Frenhinol y Sbaeneg (
Sbaeneg
Real Academia Española
), a sefydlwyd ym 1713,
22
trwy gyhoeddi geiriaduron a chanllawiau gramadeg ac arddull.
23
Fel hyn, ceir ffurf safonol ar yr iaith (Sbaeneg Safonol) a gaiff ei chydnabod yn eang mewn llenyddiaeth, cyd-destunau academaidd a'r cyfryngau.
Cymdeithas yr Academïau Sbaeneg
golygu
golygu cod
Gwledydd sy'n aelodau o Gymdeithas yr Academïau Sbaeneg (ASALE).
24
Y Gymdeithas o Academïau Sbaeneg (
Asociación de Academias de la Lengua Española
, neu
ASALE
) yw'r endid sy'n
rheoleiddio
'r iaith Sbaeneg. Fe'i crëwyd ym
Mecsico
yn 1951 ac mae'n cynrychioli'r holl academïau unigol yn y byd Sbaeneg ei hiaith. Mae'n cynnwys academïau o 23 o wledydd, a drefnwyd yn ôl dyddiad sefydlu'r Academi: Sbaen (1713),
25
Colombia (1871),
26
Ecwador (1874),
27
Mecsico (1875),
28
El Salfador ( 1876),
29
Feneswela (1883),
30
Tsile (1885),
31
Periw (1887),
32
Gwatemala (1887),
33
Costa Rica (1923),
34
y Philipinau (1924)),
35
Panama (1926),
36
Ciwba (1926),
37
Paragwái (1927),
38
Y Weriniaeth Ddominicaidd (1927),
39
Bolifia (1927),
40
Nicaragwa (1928),
41
yr Ariannin (1931),
42
Wrwgwái (1943),
43
Hondwras (1949),
44
Pwerto Rico (1955),
45
yr Unol Daleithiau (1973)
46
a Gini Cyhydeddol (2016).
47
Y Sefydliad Cervantes
golygu
golygu cod
Sefydliad dielw byd-eang a grëwyd gan lywodraeth Sbaen yn 1991 yw'r
Instituto Cervantes
(Sefydliad Cervantes). Mae gan y sefydliad hwn ganghennau mewn 45 o wledydd, gydag 88 o ganolfannau wedi'u neilltuo i ddiwylliannau Sbaenaidd ac America Sbaenaidd a'r Sbaeneg.
48
Nodau'r Sefydliad yw hyrwyddo addysg, astudiaeth, a'r defnydd o'r Sbaeneg fel ail iaith, cefnogi dulliau a gweithgareddau sy'n helpu'r broses o addysgu Sbaeneg, a chyfrannu at hyrwyddo'r Sbaeneg a diwylliannau Sbaenaidd-Americanaidd mewn gwledydd lle nad ydynt yn siarad Sbaeneg. Amcangyfrifodd adroddiad y sefydliad yn 2015 "
El español, una lengua viva
" (Sbaeneg, iaith fyw) fod 559 miliwn o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd. Mae ei adroddiad blynyddol diweddaraf "
El español en el mundo 2018
" (Sbaeneg yn y byd yn 2018) yn awgrymu fod 577 miliwn o siaradwyr Sbaeneg ledled y byd. Ymhlith y ffynonellau a ddyfynnir yn yr adroddiad
mae Biwro Cyfrifiad yr UD
, sy'n amcangyfrif y bydd gan yr Unol Daleithiau 138 miliwn o siaradwyr Sbaeneg erbyn 2050, sy'n golygu mai hi yw'r genedl Sbaeneg fwyaf yn y byd, gyda'r Sbaeneg yn famiaith i bron i draean o'i dinasyddion.
Ffynonellau
golygu
golygu cod
Wiciadur
Chwiliwch am
Sbaeneg
yn
Wiciadur
Abercrombie, David (1967).
Elements of General Phonetics
. Edinburgh:
Edinburgh University Press
ISBN
978-0-85224-451-7
Eberhard, David M.; Simons, Gary F.; Fennig, Charles D. (2020).
Ethnologue: Languages of the World
(arg. 23rd). Dallas, Texas: SIL International.
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 6 Ebrill 2006
. Cyrchwyd
22 Mehefin
2002
Butt, John; Benjamin, Carmen (2011).
A New Reference Grammar of Modern Spanish
(arg. 5th). Oxford: Oxford University Press.
ISBN
978-1-4441-3769-9
Cressey, William Whitney (1978).
Spanish Phonology and Morphology: A Generative View
. Georgetown University Press.
ISBN
0-87840-045-1
Dalby, Andrew (1998).
Dictionary of Languages: The Definitive Reference to More Than 400 Languages
. Columbia University Press.
ISBN
0-231-11568-7
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 17 August 2021
. Cyrchwyd
28 October
2020
Eddington, David (2000).
"Spanish Stress Assignment within the Analogical Modeling of Language"
Language
76
(1): 92–109.
doi
10.2307/417394
JSTOR
417394
. Adalwyd 7 Ebrill 2010
Ginsburgh, Victor; Weber, Shlomo (2011).
How Many Languages Do We Need?: The Economics of Linguistic Diversity
. Princeton University Press.
ISBN
978-0-691-13689-9
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 16 August 2021
. Cyrchwyd
28 October
2020
Harris, James (1967). "Sound Change in Spanish and the Theory of Markedness".
Language
45
(3): 538–52.
doi
10.2307/411438
JSTOR
411438
Hualde, José Ignacio (2014).
Los sonidos del español
. Cambridge University Press.
ISBN
978-0-521-16823-6
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 10 December 2020
. Cyrchwyd
28 October
2020
Jensen, John B. (1989).
"On the Mutual Intelligibility of Spanish and Portuguese"
Hispania
72
(4): 848–852.
doi
10.2307/343562
JSTOR
343562
Martínez-Celdrán, Eugenio; Fernández-Planas, Ana Ma.; Carrera-Sabaté, Josefina (2003). "Castilian Spanish".
Journal of the International Phonetic Association
33
(2): 255–59.
doi
10.1017/S0025100303001373
Ladefoged, Peter
; Johnson, Keith (2010),
A Course in Phonetics
(6th ed.), Boston, Massachusetts: Wadsworth Publishing,
ISBN
978-1-4282-3126-9
, adalwyd 17 Mehefin 2015
Moreno Fernández, Francisco
; Otero, Jaime (2008),
Atlas de la lengua española en el mundo
, Barcelona: Ariel
Penny, Ralph (1991).
A History of the Spanish Language
. Cambridge University Press.
ISBN
0-521-39784-7
Archifwyd
o'r gwreiddiol ar 14 August 2021
. Cyrchwyd
28 October
2020
Penny, Ralph (2000).
Variation and Change in Spanish
. Cambridge University Press.
ISBN
0-521-78045-4
(XLS)
Population by age, both sexes, annual; estimate for 2012
, UN
, adalwyd 11 Mawrth 2012
Rubino, Carl (2008),
"Zamboangueño Chavacano and the Potentive Mode."
, in Michaelis, Susanne,
Roots of Creole Structures: Weighing the Contribution of Substrates and Superstrates
, Amsterdam: Benjamins, pp. 279–299,
ISBN
978-90-272-5255-5
, adalwyd 28 October 2020
Zamora Vicente, Alonso (1967),
Dialectología española
, Madrid: Gredos
Cyfeiriadau
golygu
golygu cod
"Geiriadur Prifysgol Cymru"
geiriadur.ac.uk
. Cyrchwyd
2022-06-25
Eberhard, David M.; Simons, Gary F.; Fennig, Charles D. (2019).
"Summary by language size"
Ethnologue
. SIL International. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 6 Awst 2019
. Cyrchwyd
3 Mawrth
2022
Salvador, Yolanda Mancebo (2002). "Hacia una historia de la puesta en escena de La vida es sueño".
Calderón en Europa
(yn Sbaeneg). Vervuert Verlagsgesellschaft. tt. 91–100.
doi
10.31819/9783964565013-007
ISBN
978-3-96456-501-3
"Countries with most Spanish speakers 2021"
Devlin, Thomas Moore (30 January 2019).
"What Are The Most-Used Languages On The Internet?"
+Babbel Magazine
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 6 December 2021
. Cyrchwyd
13 July
2021
(yn es)
La RAE avala que Burgos acoge las primeras palabras escritas en castellano
, ES: El Mundo, 7 November 2010
, adalwyd 24 November 2010
Rice, John (2010).
"sejours linguistiques en Espagne"
sejours-linguistiques-en-espagne.com
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 18 Ionawr 2013
. Cyrchwyd
3 Mawrth
2022
Pei, Mario (1949). Story of Language.
ISBN
03-9700-400-1
Robles, Heriberto Camacho Becerra, Juan José Comparán Rizo, Felipe Castillo (1998).
Manual de etimologías grecolatinas
(arg. 3.). México: Limusa. t. 19.
ISBN
968-18-5542-6
Comparán Rizo, Juan José.
Raices Griegas y latinas
(yn Sbaeneg). Ediciones Umbral. t. 17.
ISBN
978-968-5430-01-2
. Cyrchwyd
22 Awst
2017
Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 744: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
"Official Languages | United Nations"
www.un.org
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 17 October 2015
. Cyrchwyd
19 November
2015
13.00
13.01
13.02
13.03
13.04
13.05
13.06
13.07
13.08
13.09
13.10
13.11
13.12
13.13
13.14
13.15
13.16
13.17
13.18
13.19
13.20
13.21
13.22
Ethnologue
"U.S. Census Bureau"
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 2007-03-14
. Cyrchwyd
2006-12-06
15.00
15.01
15.02
15.03
15.04
15.05
15.06
15.07
15.08
15.09
15.10
15.11
Centro Virtual Cervantes
Diccionario panhispánico de dudas, 2005, p. 271–272.
"Definition of castellanus"
Latin Lexicon
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 22 Ebrill 2021
. Cyrchwyd
13 July
2021
"español, la"
Diccionario de la lengua española
. Real Academia Espańola. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 24 Ebrill 2017
. Cyrchwyd
13 July
2021
"Concise Oxford Companion to the English Language"
. Oxford University Press. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 25 September 2008
. Cyrchwyd
24 July
2008
Nodyn:Harvcoltxt
"Exclusión de ch y ll del abecedario | Real Academia Española"
www.rae.es
. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Ebrill 2020
. Cyrchwyd
1 Ebrill
2020
"Scholarly Societies Project"
. Lib.uwaterloo.ca. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 September 2010
. Cyrchwyd
6 November
2010
Batchelor, Ronald Ernest (1992).
Using Spanish: a guide to contemporary usage
. Cambridge University Press. t. 318.
ISBN
0-521-26987-3
. Cyrchwyd
28 October
2020
"Association of Spanish Language Academies"
(yn Sbaeneg). Asale. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 Medi 2010
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Real Academia Española"
. Spain: RAE. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 29 Medi 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Colombiana de la Lengua"
(yn Sbaeneg). Colombia. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 19 Chwefror 2008
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Ecuatoriana de la Lengua"
(yn Sbaeneg). Ecuador. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Mai 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Mexicana de la Lengua"
. Mecsico. 22 Medi 2010. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 15 Medi 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Salvadoreña de la Lengua"
. El Salvador. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 4 Medi 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Venezolana de la Lengua"
(yn Sbaeneg). Feneswela. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Mai 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Chilena de la Lengua"
. Tsile. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 5 Medi 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Peruana de la Lengua"
. Periw. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 12 Hydref 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Guatemalteca de la Lengua"
(yn Sbaeneg). Guatemala. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 4 Awst 2008
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Costarricense de la Lengua"
. Costa Rica. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 23 Mawrth 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Filipina de la Lengua Española"
(yn Sbaeneg). Philippines. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Mai 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Panameña de la Lengua"
. Panama. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 29 Tachwedd 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Cubana de la Lengua"
. Cuba. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 19 Rhagfyr 2010
. Cyrchwyd
6 Tachwedd
2010
"Academia Paraguaya de la Lengua Española"
. Paragwái. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Gorffennaf 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Dominicana de la Lengua"
. República Dominicana. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 22 Rhagfyr 2010
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Boliviana de la Lengua"
. Bolifia. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 29 Tachwedd 2010
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Nicaragüense de la Lengua"
(yn Sbaeneg). Nicaragua. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Mai 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Argentina de Letras"
. yr Ariannin. 25 Mawrth 2010. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 28 Gorffennaf 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Nacional de Letras del Uruguay"
. Uruguay. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 19 Mawrth 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Hondureña de la Lengua"
(yn Sbaeneg). Honduras. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 27 Mai 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Puertorriqueña de la Lengua Española"
. Puerto Rico. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 24 Awst 2010
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Norteamericana de la Lengua Española"
. Unol Daleithiau America. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 12 Chwefror 2011
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2011
"Academia Ecuatoguineana de la Lengua Española"
. Equatorial Guinea. Archifwyd o'r
gwreiddiol
ar 31 Mawrth 2016
. Cyrchwyd
5 Chwefror
2016
"Información sobre el Instituto Cervantes. Quiénes somos: qué es el Instituto Cervantes"
www.cervantes.es
. Cyrchwyd
2022-03-22
Dolenni allanol
golygu
golygu cod
Sefydliadau
Real Academia Española (RAE)
, Academi Sbaeneg Frenhinol. Sefydliad swyddogol Sbaen, gyda chenhadaeth i sicrhau sefydlogrwydd yr iaith Sbaeneg
Instituto Cervantes
, Sefydliad Cervantes. Asiantaeth o lywodraeth Sbaen, sy'n gyfrifol am hyrwyddo astudio a dysgu iaith a diwylliant Sbaen.
FundéuRAE
, Sefydliad Sbaeneg Datblygol. Sefydliad di-elw gyda chydweithrediad yr RAE sy'n ceisio egluro amheuon ac amwysedd Sbaeneg.
Gwefannau addysgol
ProfeDeEle
, Ymarferion wedi'u targedu at athrawon iaith Sbaeneg (ELE)
AprenderEspanol
, gweithgareddau a deunydd Sbaeneg
Awdurdod
WorldCat
LCCN
sh85126261
GND
4077640-2
BNF
cb119312813
(data)
NDL
00571703
NKC
ph127867
Wedi dod o "
Categorïau
Sbaeneg
Ieithoedd Romáwns
Ieithoedd Feneswela
Ieithoedd Wrwgwái
Ieithoedd yr Unol Daleithiau
Ieithoedd Sbaen
Ieithoedd Periw
Ieithoedd Mecsico
Ieithoedd Gwatemala
Ieithoedd Ecwador
Ieithoedd Colombia
Ieithoedd Tsile
Ieithoedd Bolifia
Ieithoedd yr Ariannin
Categorïau cudd:
Pages with script errors
CS1 Sbaeneg-language sources (es)
Nodion
Erthyglau sy'n cynnwys testun Sbaeneg
Erthyglau sy'n cynnwys testun Lladin
Nodyn
Wikipedia articles with LCCN identifiers
Wikipedia articles with GND identifiers
Wikipedia articles with BNF identifiers
Sbaeneg
Ychwanegu pwnc