UK
Yr economi - Office for National Statistics
Yr economi - Office for National Statistics
Yr economi
Mae economi'r DU yn cynnwys cynhyrchu, dosbarthu, defnyddio a masnachu nwyddau a gwasanaethau.Mae unigolion, busnesau, sefydliadau a llywodraethau i gyd yn effeithio ar ddatblygiad yr economi.
Yn yr adran hon
Allgynnyrch economaidd a chynhyrchiant
Allgynnyrch economaidd yw cyfanswm gwerth nwyddau a/neu wasanaethau a gynhyrchir mewn proses. Rydym yn mesur hyn drwy ddefnyddio mynegeion gweithgynhyrchu, cynhyrchu a gwasanaethau. Mae cynhyrchiant yn fodd o fesur effeithlonrwydd, a gellir ei fynegi fel cymhareb o'r allgynnyrch yn erbyn y mewnbwn dros gyfnod amser penodol; er enghraifft, allgynnyrch fesul unigolyn bob awr.
Cyfrifon amgylcheddol
Mae'r cyfrifon hyn yn dangos y berthynas rhwng yr amgylchedd a'r economi. Mae hyn yn dangos sut mae'r amgylchedd yn cyfrannu at yr economi, yr effaith y mae'r economi yn ei chael ar yr amgylchedd, a sut y mae cymdeithas yn ymateb i faterion amgylcheddol.
Llywodraeth, y sector cyhoeddus a threthi
Rydym yn edrych ar y ffigurau diweddaraf ar gyfer yr hyn y mae sector cyhoeddus y DU wedi ei wario, wedi ei godi mewn refeniw, ac wedi ei fuddsoddi. Y prif ystadegyn yma yw Lefelau Benthycau Net y Sector Cyhoeddus, sef y swm o arian y mae'r Llywodraeth wedi ei fenthyg er mwyn llenwi'r bwlch rhwng refeniw a gwariant.
Cynnyrch Domestig Gros (CDG)
Mae hwn yn mesur gweithgarwch economaidd sy'n cynnwys gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir gan y DU mewn cyfnod penodol.
Gwerth Ychwanegol Gros
Mae hwn yn mesur cyfraniad pob cynhyrchydd unigol, diwydiant neu sector at yr economi. Rydym yn ei ddefnyddio i amcangyfrif y Cynnyrch Domestig Gros (CDG).
Mynegeion chwyddiant a phrisiau
Rydym yn defnyddio mynegeion prisiau, megis y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) i asesu chwyddiant - mesuriad o'r gyfradd cynnydd mewn prisiau ar gyfer nwyddau a gwasanaethau. Un modd o ddeall y CPI yw meddwl am fasged siopa fawr sy'n cynnwys detholiad o'r nwyddau a'r gwasanaethau a brynir gan aelwydydd. Mae'r CPI yn amcangyfrif newidiadau i gyfanswm cost y fasged hon.
Buddsoddiadau, pensiynau ac ymddiriedolaethau
Mae buddsoddi yn cyfeirio at y llif arian o gwmpas gwledydd a rhwng gwledydd at ddibenion gwneud elw. Mae pensiwn yn swm penodedig a delir yn rheolaidd i unigolyn, fel arfer ar ôl iddo ymddeol, ac mae ymddiriedolaeth yn drefniant cyfreithiol lle mae 1 'ymddiriedolwr' neu fwy yn cael ei wneud yn gyfrifol yn gyfreithiol am ddal asedau. Mae'r ystadegau yma yn cynnwys llifau net i'r DU, ffigurau ar nifer y bobl sy'n dal pensiynau o wahanol fathau, a buddsoddiadau a wnaed gan amryw fathau o ymddiriedolaethau.
Cyfrifon gwladol
Mae angen data manwl gywir ar lunwyr polisïau economaidd. Cyfrifon Gwladol sydd â chyfrifoldeb dros y data hwn, y tîm sydd â chyfrifoldeb dros wneud amcangyfrifon am weithgarwch economaidd a chreu adroddiadau arno. Rydym yn casglu data o ffynonellau megis busnesau, gweithgynhyrchwyr a darparwyr gwasanaethau fel ein bod yn gallu cynhyrchu ffigurau ar gyfer y Cynnyrch Domestig Gros (CDG), mynegeion gwasanaethau, gweithgynhyrchu a chynhyrchu ac ystadegau eraill.
Cyfrifon rhanbarthol
Mae’r cyfrifon hyn ar gyfer rhanbarthau, is-ranbarthau ac ardaloedd lleol y DU, ac mae'r rhain yn cael eu cynhyrchu yn unol â'r un cysyniadau a diffiniadau a ddefnyddir yn y Cyfrifon Gwladol. Mae'r cyfrifon hyn yn ei wneud yn bosibl gwneud cymariaethau rhwng rhanbarthau ac yn erbyn y cyfartaledd yn y DU. Mae'r ystadegau allweddol yma yn ystadegau a ffigurau Gwerth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar Incwm Gwario Gros Aelwydydd rhanbarthol.
Archwiliwch ystadegau lleol
Darganfyddwch, cymharwch, a dewch yn fyw ystadegau am leoedd yn y Deyrnas Unedig.